Cofnodion:
(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Shepardson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)
Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar gynlluniau'r Cyngor ar gyfer parhau i ddarparu ei Wasanaeth Addysg Awyr Agored yn dilyn y bwriad i gau'r cyfleuster presennol ym Mhentywyn ar ddiwedd tymor 2025, a'i symud i fodel darparu amgen ym Mharc Gwledig Pen-bre. Byddai'r cynigion yn caniatáu ar gyfer twf a datblygiad organig a gweithredu cyfleusterau addysg cynaliadwy trwy gydol y tymhorau ysgol, ac yn dyblu'r llety gellid ei ddefnyddio yn ystod cyfnodau gwyliau.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â darparu llety ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden y byddai'n cynnwys pebyll tebyg i yurt ar gyfer disgyblion a podiau glampio i athrawon. Er nad oedd union leoliad y llety wedi'i benderfynu eto, gallai fod ar y maes carafanau/gwersylla presennol neu, o bosibl, ar dir y ganolfan farchogaeth gyfagos, a oedd bellach yn wag. Dywedwyd hefyd fod hyblygrwydd y ddau fath o lety yn golygu y gallent gael eu symud i wahanol leoliadau yn y parc i ddiwallu anghenion amrywiol.
· O ran nifer y disgyblion gellid darparu ar eu cyfer yn y parc, y bwriad oedd tua 30 i gychwyn, a chynyddu'r nifer yn raddol i 90 o bosibl.
· O ran cwestiwn yngl?n â darparu llety gan ddefnyddio'r cyfleusterau mewn mannau fel Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Cynefin yng Nghaerfyrddin er enghraifft, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr awdurdod yn edrych ar ymarferoldeb defnyddio amryw leoliadau allanol fel rhan o'r ddarpariaeth addysg awyr agored gyffredinol, a byddai'r defnydd ohonynt yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd tu allan i'r tymor a'r pris.
· Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â photensial llynnoedd Delta fel lleoliad awyr agored, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod yr awdurdod o'r farn y dylai'r prif gyfleusterau chwaraeon d?r awyr agored gael eu lleoli yn Noc y Gogledd, Llanelli.
· O ran ymgysylltu â phlant, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu, ar y math o gynnig yr hoffent ei weld ar gael, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod hynny'n digwydd ar y pryd wrth lywio darpariaeth y dyfodol. Fodd bynnag, cydnabuwyd y gellid gwneud rhagor i ddatblygu'r ddarpariaeth ymhellach. Dywedodd hefyd y byddai'r cyfleusterau newydd ym Mhen-bre yn addas i blant anabl. Yn yr un modd, roedd gan y tîm Actif swyddog datblygu chwaraeon anabledd a oedd yn gweithio gyda chlybiau lleol i'w gwneud mor addas â phosibl i rai ag anableddau.
· Cyfeiriwyd at y diffyg cyfleusterau dan do yn y sir yn ystod tywydd gwael. Dywedodd y Pennaeth Hamdden, er nad oedd cynnig dan do ar gael ym Mharc Gwledig Pen-bre ar hyn o bryd, fod hynny'n bosibilrwydd. Yn y cyfamser, gallai cyfleusterau fod ar gael yn Hwb Caerfyrddin ynghyd â'r rhai ym Mhentre Awel.
· Mewn ymateb i gwestiwn ar y ddarpariaeth hyfforddi, soniodd y Pennaeth Hamdden am gynlluniau i hyfforddi staff yn y ganolfan ym Mhen-bre, er mwyn hwyluso cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na'r gyflogaeth dymhorol bresennol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru.
Dogfennau ategol: