Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i fersiwn drafft yr Awdurdod o Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg a luniwyd i gyfarwyddo cyflawni’r Rhaglen Moderneiddio Addysg newydd yn y dyfodol. Roedd y strategaeth ddrafft yn cael ei harwain gan gyfres o amcanion strategol ac roedd yn seiliedig ar egwyddor dull cyfannol a'r gofyniad i wella a chefnogi ystod o amcanion cenedlaethol, corfforaethol ac addysgol. At hynny, roedd y strategaeth ddrafft yn manylu ar feini prawf hyfywedd a buddsoddi sy'n ofynnol i sicrhau dull priodol a thryloyw o ddatblygu trefniadaeth ysgolion a chynigion buddsoddi.
Wrth gyflwyno'r adroddiad, atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg fod ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr ar y strategaeth ddrafft wedi'i gynnal rhwng 13 Chwefror 2024 a 12 Mawrth 2024 a byddai'r holl adborth a ddarperir yn cael ei ystyried gan y Cabinet.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd mewn perthynas ag adeiladau ysgol newydd yn cyrraedd capasiti o ran disgyblion o fewn cyfnod byr, rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod i'r Pwyllgor am ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch dylunio adeiladau ysgol newydd. Dywedwyd bod y Cabinet, ar brydiau, wedi rhoi cyfrif blaenorol am ofynion capasiti arfaethedig ysgolion newydd yn y dyfodol yn ystod cam dylunio'r adeiladau lle'r oedd y wybodaeth a oedd ar gael yn rhagweld twf yn y dyfodol. Serch hynny, mentrwyd gwneud penderfyniadau o'r fath a gallent arwain at gosbau ariannol gan Lywodraeth Cymru oni lwyddir i gyrraedd yr amcanestyniadau o ran y capasiti yn y dyfodol. Gwnaed cais bod dyluniadau adeiladau newydd yn y dyfodol yn bodloni'r potensial i ychwanegu estyniadau pe bai'r gofod a'r gofyniad yn caniatáu hynny.
Eglurodd Rheolwr y Rhaglen Moderneiddio Addysg, mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr amserlenni sylweddol sy'n gysylltiedig â chyflawni prosiectau adeiladu ysgolion newydd, fod yr Awdurdod yn gallu rhoi amcanestyniadau am gyfnod o 5 mlynedd, ac adolygir cynlluniau prosiectau o bryd i'w gilydd i sicrhau cywirdeb cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Ar ben hynny, roedd cyfle hefyd i ddiwygio cwmpas prosiect gyda Llywodraeth Cymru pe bai angen, ond roedd hyn yn amodol ar gydymffurfio ag amodau penodol.
Cyfeiriwyd at y pwysau ariannol sylweddol o fewn y rhaglen gyfalaf Addysg a Phlant lle eglurwyd bod gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion yn cael blaenoriaeth yn unol â'r meysydd sydd â'r anghenion mwyaf; ond nodwyd nad oedd digon o gyllideb i fodloni anghenion ysgolion.
O ran gwella ansawdd adeiladau, mynegwyd pryder bod y strategaeth ddrafft yn cyfeirio at adeiladau ysgolion newydd yn unig.Cafwyd trafodaeth ynghylch Egwyddorion Addysg Gynradd Sir Gaerfyrddin a nodir yn yr adroddiad. Yn hyn o beth, awgrymwyd bod y Cabinet yn ystyried dileu'r egwyddor addysg sy'n ymwneud â dim mwy na 2 gr?p blwyddyn yn cael eu dyrannu i bob dosbarth addysgu ar y sail y byddai hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff ac ansicrwydd i rieni. O ran yr egwyddor arweiniol sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth gynaliadwy, nodwyd mai'r nod oedd galluogi pob pennaeth ar draws yr Awdurdod i ymgymryd â rôl arweiniol heb unrhyw ymrwymiadau addysgu, ond cydnabuwyd y cymhlethdodau o ran hyn o beth ac, ar ben hynny, pwysleisiwyd nad oedd yr egwyddorion yn ofynion statudol. Cytunwyd y byddai gwybodaeth am nifer y penaethiaid sydd ag ymrwymiadau addysgu, ynghyd â nifer yr ysgolion cynradd sydd â mwy na 2 gr?p blwyddyn yn cael eu dyrannu fesul dosbarth addysgu, yn cael ei dosbarthu i'r Pwyllgor.
Cyfeiriwyd at weledigaeth y Cabinet ar gyfer addysg a oedd yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu defnydd cymunedol o gyfleusterau ysgolion y tu allan i oriau addysgu. Yn unol â hynny, gofynnwyd a fyddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i sefyllfa unigol pob ysgol yng nghyd-destun yr adnoddau a'r cyfleusterau sydd ar gael. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod nifer o brosiectau ar y gweill a oedd yn pennu cyllid grant i'w ddefnyddio gan ysgolion a'r gymuned. Eglurwyd hefyd fod ysgolion yn cael eu hannog i rannu eu cyfleusterau â chymunedau cyfagos lle bo hynny'n bosibl ond cydnabuwyd y byddai angen ystyried ffactorau fel y ddarpariaeth leol bresennol, costau ac addasrwydd cyfleusterau.
Cyfeiriwyd at y meini prawf hyfywedd a nodir yn y strategaeth ddrafft lle pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant bwysigrwydd sicrhau system addysg oedd yn adlewyrchu natur ddaearyddol y sir, a nododd yr awgrym i ddarparu eglurder a gwybodaeth bellach o ran niferoedd disgyblion.
PENDERFYNWYD:
5.1 |
nodi'r adroddiad;
|
5.2 |
bod y Cabinet yn ystyried y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor. |
Dogfennau ategol: