Agenda item

DIWEDDARIAD TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY)

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad i'w ystyried ynghylch gweithredu'r darpariaethau sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a oedd yn ceisio trawsnewid disgwyliadau, profiadau a deilliannau plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi cynnydd yr Awdurdod hyd yma, meysydd o arferion gorau, meysydd i'w gwella a'r datblygiadau yn y dyfodol sydd eu hangen i gefnogi diwygio parhaus. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod ar y trywydd iawn i drosglwyddo pob plentyn i'r system ADY newydd erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024/2025.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad oedd yn manylu ar brofiadau Ysgol y Bedol, Ysgol Peniel ac Ysgol Sant Ioan Llwyd wrth ymgorffori'r system ADY yn eu hysgolion nhw.

 

Bu'r Pwyllgor yn adolygu'r meysydd yr ystyriwyd eu bod yn gweithio'n dda a'r rhai yr oedd angen mynd i'r afael â hwy o ran rôl y Cydgysylltwyr ADY, hyfforddiant a chymorth, dulliau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a'r gwaith partneriaeth parhaus gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.  Roedd y Pwyllgor yn cydnabod ymdrechion yr Awdurdod i ymgorffori system oedd yn sicrhau bod darpariaeth o ran adnoddau dwyieithog, asesiadau a staffio ar gael a bod digon o ddarpariaeth arbenigol. Yn hyn o beth, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai'r Awdurdod oedd yr Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg o ran gweithio ar draws Awdurdodau Lleol i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg yn ei lle a bod adnoddau Cymraeg yn cael eu datblygu i gefnogi Trawsnewid ADY.

 

Wrth ystyried yr heriau o ran gweithredu ADY, nodwyd bod y prif feysydd yn canolbwyntio ar gapasiti staffio, cysondeb o ran adnabod ADY, ariannu a dyrannu adnoddau, sicrhau ansawdd Cynlluniau Datblygu Unigol, cydweithio amlasiantaethol ac ymgysylltu â lleoliadau nas cynhelir a chyflawni cyfrifoldebau o ran dysgwyr ôl-16.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch oedi annerbyniol y GIG o ran plant sy'n cael asesiadau awtistiaeth ac Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio ond anogwyd y Pwyllgor i nodi bod cymorth ar gael i'r holl ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, waeth beth yw eu diagnosis meddygol ffurfiol.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol wybod i'r Pwyllgor am yr amrywiaeth o fesurau a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod i wella cysondeb o ran gweithdrefnau ADY ar draws ysgolion. Roedd y rhain yn cynnwys gofynion o ran darpariaeth gyffredinol, rhannu arferion gorau, darparu rhaglen hyfforddiant a chymorth gynhwysfawr a threfniadau cydweithio agos gydag ysgolion.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod deddfwriaeth yn pennu bod disgwyl i Gynlluniau Datblygu Unigol gael eu cwblhau o fewn cyfnod o 12 wythnos gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac i wybodaeth gael ei chasglu o amrywiaeth o ffynonellau / rhanddeiliaid priodol.  Yn ogystal, sefydlwyd protocol trosglwyddo ADY gwell yn yr Awdurdod i sicrhau y gellid rhannu gwybodaeth briodol am ddisgyblion yn ddi-dor o fewn cyfyngiadau protocolau diogelu data.  Yn unol â hynny, barnwyd bod Cynlluniau Datblygu Unigol yn ddogfennau hyblyg a fyddai'n trosglwyddo gyda'r disgyblion a fyddai'n symud i ysgol arall, gan gynnwys pontio o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adolygiad parhaus o ofynion rôl a strwythur cyflog Cydlynwyr ADY a Chynorthwywyr Addysgu, er y cydnabuwyd y byddai goblygiadau ariannol sylweddol i unrhyw gynnydd i'r codiadau cyflog.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref yn ystod y flwyddyn ac roedd y duedd hon yn adlewyrchiad o'r sefyllfa ar lefel genedlaethol. Yn hyn o beth, nid oedd yn ofynnol i rieni/gwarcheidwaid nodi eu rhesymau dros dynnu eu plant o leoliadau ysgol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cymhlethdodau mewn perthynas ag iechyd a chydweithredu amlasiantaethol yn seiliedig ar atgyfeiriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol, pennu cyfrifoldeb am ariannu a delio â phrotocolau gwahanol ar gyfer asiantaethau trawsffiniol. Rhoddwyd cymorth i ysgolion gan yr Awdurdod i oresgyn heriau o'r fath. Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod yr Awdurdod yn darparu model cefnogi gwahaniaethol i ysgolion i fynd i'r afael ag anghenion unigol disgyblion. 

 

4.1

nodi'r adroddiad;

4.2

bod gweithdy ynghylch Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael ei ymgorffori ym Mlaengynllun Gwaith 2024/25.

 

Dogfennau ategol: