Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro ariannol ar Gyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a Lle a Seilwaith ar gyfer y cyfnod hyd at 29 Chwefror 2024.
Dywedwyd bod y gyllideb refeniw ar y cyfan yn rhagweld gorwariant cyffredinol o £1,280k ar ddiwedd y flwyddyn. Rhagwelwyd gwariant net yn y gyllideb gyfalaf o £15,802k o gymharu â chyllideb net weithredol o £29,179k gan roi amrywiant o £-13,377k.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
Wrth ystyried yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor am i wybodaeth ychwanegol gael ei chynnwys o fewn meysydd amrywiadau gwariant sylweddol yn adroddiadau'r dyfodol i roi gwybod i'r aelodau am y sefyllfa gyllidebol ac i alluogi craffu effeithiol ar y meysydd perthnasol. Cytunwyd y byddai adborth y Pwyllgor yn cael ei drosglwyddo i'r adrannau priodol ac atgoffwyd yr aelodau y gellid gwneud ceisiadau am adroddiadau manwl fel rhan o rôl y Pwyllgor wrth nodi tueddiadau o fewn meysydd sy'n berthnasol i'w gylch gwaith.
Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd mewn perthynas â'r cynnydd mewn gwariant ar drydan mewn safleoedd tirlenwi sydd wedi cau, darparwyd sicrwydd bod swyddogion yn edrych ar y mater hwn ar hyn o bryd, a'r bwriad oedd nodi atebion i liniaru costau wrth symud ymlaen.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y bydd adroddiad yn ymwneud â thaliadau parcio'r Cyngor yn cael ei ystyried gan y Cabinet maes o law.
Cyfeiriwyd at dangyflawniad incwm ar gyfer safleoedd trwyddedig lle nad oedd y targed yn adlewyrchu nifer y busnesau trwyddedadwy yn y sir. Eglurodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y gorwariant a ragwelwyd yn seiliedig ar yr incwm wedi'i ddilysu o flwyddyn i flwyddyn, a oedd bellach angen ei adolygu yng ngoleuni'r gostyngiad yn nifer y safleoedd trwyddedadwy ar draws y Sir. Cytunwyd y byddai rhagor o wybodaeth yn hyn o beth yn cael ei dosbarthu i'r Pwyllgor dros e-bost.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith i'r Pwyllgor nad oedd digon o gyllid wedi dod i law gan y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru i gynnal priffyrdd y sir i lefel briodol.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gost o brynu tir a'r ffioedd cysylltiedig ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi, cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau at y broses gymhleth a hir sy'n ofynnol i sicrhau bod cynllun uchelgeisiol yr Awdurdod yn cael ei ddarparu'n briodol. Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai adolygiad yn ymwneud â Llwybr Dyffryn Tywi yn cael ei ystyried gan y Cabinet maes o law.
Eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd wrth y Pwyllgor fod adolygiad arbenigol wedi'i gomisiynu i ddarparu adferiad posibl i'r materion hirdymor sy'n gysylltiedig â Chronfa Dd?r Trebeddrod yn y Ffwrnes, Llanelli. Yn dilyn cais, cytunwyd y dylai'r Pwyllgor ystyried adroddiad diweddaru maes o law.
Gofynnwyd am ragor o wybodaeth mewn perthynas â chostau Cyfraith Sifil o fewn adran cyllidebau cyfalaf yr adroddiad, a hefyd y llithriad i Seilwaith Priffyrdd Rhydaman a nodwyd o fewn amrywiadau'r cynlluniau cyfalaf. Cytunwyd y byddai rhagor o fanylion am y materion hyn yn cael eu dosbarthu i'r Pwyllgor dros e-bost.
Mewn diweddariad i'r Pwyllgor, yn dilyn ymholiad yngl?n â gwasanaethau parcio, cadarnhaodd y Rheolwr Gwella Busnes fod yr Awdurdod wedi cael ail gerbyd gorfodi, a oedd yn aros am gael camera wedi'i osod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
4.1 |
bod Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 29 Chwefror 2024 yn cael ei dderbyn. |
4.2 |
bod cais y Pwyllgor am gynnwys gwybodaeth ychwanegol o fewn y meysydd o amrywiadau gwariant sylweddol yn adroddiadau'r dyfodol yn cael ei fwydo yn ôl i'r adrannau priodol; |
4.3 |
bod canlyniadau'r adolygiad o'r cerbydau adrannol yn cael eu darparu i'r Pwyllgor maes o law.
|
4.4 |
bod rhagor o wybodaeth am y tangyflawni o ran incwm ar gyfer safleoedd trwyddedig yn cael ei dosbarthu i'r Pwyllgor dros e-bost.
|
4.5 |
bod y Pwyllgor yn ystyried diweddariad i'r adolygiad a gomisiynwyd ynghylch y materion hirdymor sy'n gysylltiedig â Chronfa Dd?r Trebeddrod yn y Ffwrnes, Llanelli.
|
4.6 |
bod rhagor o wybodaeth am gostau Cyfraith Sifil o fewn yr adran cyllidebau cyfalaf yn yr adroddiad, a hefyd y llithriad i Seilwaith Priffyrdd Rhydaman a nodir o fewn amrywiadau'r cynlluniau cyfalaf yn cael eu dosbarthu i'r Pwyllgor dros e-bost. |
Dogfennau ategol: