“Dangosodd waith ymchwil diweddar gan
y Gymdeithas Llywodraeth Leol nad yw dwy ran o dair o gynghorau yn
Lloegr yn hyderus y byddent yn cyrraedd eu targedau Carbon Sero Net
o fewn eu hamserlenni targed tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru yn gweithio ar raglen drosglwyddo a chymorth newid hinsawdd i
geisio helpu'r sector cyhoeddus i gyrraedd targed Sero Carbon Net
Llywodraeth Cymru erbyn 2050.
O ystyried y wybodaeth
hon, yn ogystal â chydnabod y pwysau ariannol difrifol
cyffredinol a wynebir gan Awdurdodau Lleol, mae cyrraedd targedau
Sero Net wedi dod hyd yn oed yn fwy heriol nag erioed.
Beth yw sefyllfa
bresennol y Cyngor hwn o ran ei amcanion presennol a'r nod eithaf o
gyrraedd y targed Carbon Sero Net mwy uchelgeisiol erbyn
2030?”
Cofnodion:
“Dangosodd waith ymchwil diweddar gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol nad yw dwy ran o dair o gynghorau yn Lloegr yn hyderus y byddent yn cyrraedd eu targedau Carbon Sero Net o fewn eu hamserlenni targed tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio ar raglen drosglwyddo a chymorth newid hinsawdd i geisio helpu'r sector cyhoeddus i gyrraedd targed Carbon Sero Net Llywodraeth Cymru erbyn 2050.
O ystyried y wybodaeth hon, yn ogystal â chydnabod y pwysau ariannol difrifol cyffredinol a wynebir gan Awdurdodau Lleol, mae cyrraedd targedau Sero Net hyd yn oed yn fwy heriol nag erioed.
Ble mae'r Cyngor hwn yn sefyll ar hyn o bryd mewn perthynas â'i amcanion presennol a'r nod yn y pen draw o gyrraedd targed mwy uchelgeisiol Carbon Sero Net 2030?”
Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen – Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd
Diolch i'r Cynghorydd James am godi'r cwestiwn hwn heddiw. Fel Awdurdod Lleol, gwnaethom addewid i'n preswylwyr ac i genedlaethau'r dyfodol - datganiad o argyfwng hinsawdd ac ymrwymiad i fod yn sero net erbyn 2030.
Rydym yn deall pa mor bwysig yw hyn, rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gennym fel Awdurdod Lleol i'w chwarae wrth i ni liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth ac rydym yn cydnabod yr heriau sydd o'n blaenau. Y pwysau ariannol o gyflawni nod mor uchelgeisiol yn enwedig pan yr ydym yn gweithio gyda'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain a gafodd eu trechu yn y llys yr wythnos diwethaf - am yr eildro - am beidio â gwneud digon i gyrraedd ei thargedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon t? gwydr.
I'ch atgoffa, cytunwyd yn ein cynllun yn 2020 i ganolbwyntio ar 4 maes allweddol – ein hadeiladau annomestig, ein goleuadau stryd, milltiroedd ein fflyd a'n milltiroedd busnes. Gallaf gadarnhau ar hyn o bryd bod ein hallyriadau carbon oddeutu 36% yn llai ers ein flwyddyn waelodlin cyn Covid. Rwy'n si?r y byddech yn cytuno bod hyn yn ostyngiad sylweddol. Ond nid ydym yn arafu, rwy'n falch o'r gwaith aruthrol sydd wedi'i wneud gan swyddogion ymroddedig i ganolbwyntio ar ein fflyd sy'n cyfrannu tua 19% o'n hallyriadau. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf yn unig gyda chefnogaeth ein Panel Ymgynghorol Hinsawdd a Natur, sy'n cynnwys aelodau o bob rhan o'r siambr hon, rydym wedi cynyddu ein fflyd cerbydau trydan i 40 o gerbydau ac wedi gosod mewn polisi y rhagdybiaeth ar gyfer cerbydau trydan ym mhob pryniant yn y dyfodol.
Ond rydym yn ymwybodol nad oes gennym ni fel Awdurdod Lleol yr holl ddulliau sydd eu hangen i fod yn sero net oni bai bod llywodraethau ar bob lefel yn penderfynu cau'r bwlch rhwng rhethreg a realiti a sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn tuag at drawsnewid cyfiawn i ddyfodol mwy cynaliadwy gyda mecanweithiau ariannu priodol.
Ond ni fyddwn yn eistedd yn ôl, a dim ond canolbwyntio ar y cwmpas hwnnw o'r hyn yr oeddem yn ei ystyried yn wreiddiol yn Sero-Net, rydym bellach yn trosglwyddo ein dysgu i feysydd eraill o fewn y Cyngor ac yn prif ffrydio hinsawdd a natur ym mhob penderfyniad a wnawn. Does ond angen i chi edrych ar ein cynllun corfforaethol, ein strategaeth drawsnewid neu hyd yn oed ein strategaeth gaffael - mae hinsawdd a natur wedi'u hymgorffori yn y ffyrdd o weithio ym mhob un ohonynt. Nid pethau dymunol i'w cael neu fuddion ymylol mohonynt bellach, dyma'r ffordd yr ydym yn gwneud busnes.
Ystyriwch ein cartrefi newydd, sydd wedi'u hadeiladu i'r safonau amgylcheddol uchaf posibl, gan ddysgu o ddyluniadau ysgolion lefel passivehaus yr ydym wedi'u hadeiladu, ôl-ffitio ein stoc sy'n heneiddio i ddarparu'r safon tai orau bosibl i denantiaid gan leihau biliau a gofalu am y blaned.
Rydym bellach yn cwblhau modiwlau hyfforddi ar lythrennedd carbon i holl weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin. Dychmygwch dros 8000 o staff mewn un sefydliad wedi'u hyfforddi'n llawn, gan ddeall yr heriau sydd o'n blaenau ac yn gallu cyfrannu at y camau gweithredu brys sydd eu hangen o ran argyfyngau hinsawdd a natur.
Oes, mae heriau o'n blaenau ond yn wahanol i'r hyn y byddai rhai pobl yn dadlau - nid yw'n rheswm i roi'r gorau iddi ond yn hytrach i godi a gwneud y peth iawn.
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd John James
Beth yw ein strategaeth barhaus a hirdymor ar gyfer ymgysylltu a chynnwys preswylwyr Sir Gaerfyrddin wrth wireddu ymrwymiad y Cyngor hwn tuag at ddyfodol carbon isel?
Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen – Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd
Diolch yn fawr, Gynghorydd James. Mae cydweithio'n allweddol, felly drwy gydweithio ar draws sectorau, diwydiannau a chymunedau gallwn gyflawni cynnydd sylweddol. Trwy weithredu ar yr heriau mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth. Ac rwy'n falch o ddweud, ar lefel genedlaethol, ein bod yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid fel CLlLC a Llywodraeth Cymru i gefnogi Rhaglen Hinsawdd Genedlaethol Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd. .
Yn fuan, byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Ynni Ardal Lleol ar gyfer Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i gyd-ddatblygu gyda'r sector cyhoeddus a phreifat, rheoleiddwyr a'r gymuned i'n gosod ar daflwybr i ddatgarboneiddio system ynni'r Sir gyfan dros y degawd nesaf. Bydd hwn yn sbardun pellach i gynnwys ein cymunedau.
Fodd bynnag, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi ariannu tua £7.5 miliwn mewn prosiectau cymunedol yn seiliedig ar yr hinsawdd, natur a'r economi gylchol. Dychmygwch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bentrefi a threfi Sir Gaerfyrddin.
Mae ein tîm adfywio wedi cefnogi dros 24 o fusnesau i osod technolegau ynni adnewyddadwy ac arbed cannoedd o dunelli o garbon bob blwyddyn gyda mwy a mwy o fusnesau yn cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb bob wythnos.
Ond fel Cyngor, ein hasedau mwyaf pwerus yw ni, yr aelodau etholedig. Dychmygwch y gallu i ysbrydoli ein cymunedau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur trwy lunio polisïau ac arwain trwy esiampl. Fodd bynnag, mae llai na hanner ohonom wedi manteisio ar y cyfle i wella ein llythrennedd carbon drwy'r hyfforddiant sydd ar gael. Os oes unrhyw aelod arall yn y siambr hon yn dymuno gwneud y cwrs, cysylltwch â mi ar ôl y cyfarfod er mwyn i ni allu gwneud y trefniadau.
Ac wrth i ni barhau ar y daith hon, gadewch inni gadw mewn cof y gwaddol yr ydym yn ei adeiladu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd ein gweithredoedd heddiw yn siapio'r byd y maen nhw'n ei etifeddu yfory. Gadewch i ni gael ein cofio nid am yr heriau a wynebom, ond am feiddgarwch ein huchelgais a'r penderfynoldeb a ddangosom.