Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 29 Chwefror, 2024, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.
Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £9,729k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o -£267k yn erbyn cyllideb net o £1,918k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o -£0k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £716k.
Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y gorwariant cyllidebol a ragwelir ar Wasanaethau Plant o bryder sylweddol i sefyllfa'r gyllideb gorfforaethol, a bod gweithgor wedi ymchwilio i'r rhesymau dros hyn fel y gellir rheoli'r galw yn y dyfodol a chyflawni cyllideb gytbwys.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:
Atodiad A-C -
· Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad asiantaeth fewnol yn Llanelli ar sail cynllun peilot, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y cynllun peilot wedi bod yn gwneud cynnydd ond ei fod dal yn ddyddiau cynnar. Nodwyd y byddai diweddariad pellach yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf.
· Mewn perthynas â'r gorwariant o £3.5m mewn Lleoliadau Preswyl a Gomisiynir, gofynnwyd a oedd y gyllideb a ragwelir yn y dyfodol wedi'i hailbroffilio i ystyried yr arbedion posibl a fyddai'n cael eu creu drwy ddarparu capasiti mewnol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod hwn yn faes sy'n peri pryder i'r Awdurdod. Roedd gan rai achosion anghenion cymhleth iawn ac ar hyn o bryd nid oedd darpariaeth ar gael yng Nghymru i fodloni'r gofynion. Nodwyd fel enghraifft fod un lleoliad yn costio £20k yr wythnos i'r Awdurdod ar hyn o bryd. Gan fod y gwasanaeth yn cael ei arwain gan y galw, roedd yn anodd rhagweld. Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd nad oedd capasiti gweithwyr cymdeithasol wedi'i ddiwallu eto ac roedd angen pellach i gynyddu lleoliadau gofal maeth a oedd wedi gostwng oherwydd y pandemig. Byddai'r strategaethau datblygol yn galluogi'r adran i reoli'r galw i gefnogi plant a'u teuluoedd o fewn y gyllideb a bennwyd gan yr Awdurdod. Yn ogystal, dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod swm sylweddol wedi'i ddyrannu i Wasanaethau Plant a Theuluoedd i helpu i gydbwyso'r angen uniongyrchol a'r cyllid tymor hwy wrth i'r strategaethau newydd ddod i rym. Trwy'r Cynllun Trawsnewid byddai'r gyllideb yn cael ei monitro a'i hadolygu'n ofalus. Pan ofynnwyd am gadarnhad ynghylch ailbroffilio'r gyllideb, dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd fod y gwasanaeth mewnol oddeutu hanner cost y ddarpariaeth bresennol a'i fod wedi'i broffilio i'r gyllideb er mwyn gallu cyflawni cyllideb gytbwys.
· Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r gorwariant o ran Plant heb Gwmni Oedolyn sy'n Ceisio Lloches, gofynnwyd a oedd yr Awdurdod wedi cyrraedd yr uchafswm o ran nifer y plant a nodir. Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd nad oedd y ffigwr wedi'i gyrraedd ac o dan y gymhareb a ddarparwyd gan y Swyddfa Gartref yr uchafswm oedd 37 o blant (o dan 18 oed). Nodwyd y byddai'r bobl ifanc yn symud drwy'r system o blant (dan 18 oed) i oedolion. Byddai hyn yn arwain at bobl ifanc dan 18 oed yn cael eu derbyn yn barhaus a'r her fyddai sicrhau bod y gwasanaeth cymorth mewnol ar waith i gefnogi hyn. Nodwyd nad oedd uchafswm o ran nifer y bobl dros 18 oed y byddai'n ofynnol i'r Awdurdod eu cefnogi.
Atodiad E
· Mewn ymateb i gais am y wybodaeth ddiweddaraf am brynu Plas y Bryn, Cwmgwili, dywedodd yr Uwch-reolwr Darparu ar gyfer Gofal Hirdymor – Gwasanaethau Integredig, fod gweithgor yn ymgynghori â siroedd yn Lloegr ar hyn o bryd a'u bod yn edrych ar fodelau gwahanol. Nodwyd y byddai Plas y Bryn yn gartref gofal preswyl a allai ddarparu gofal nyrsio o bosibl. Gofynnwyd i'r gymuned leol a'r pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: