Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro ariannol, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24 ar gyfer y Gwasanaethau Lle a Seilwaith a Diogelu'r Cyhoedd ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2023.

 

Dywedwyd bod y gyllideb refeniw ar y cyfan yn rhagweld gorwariant cyffredinol o £2,228k ar ddiwedd y flwyddyn. Rhagwelwyd gwariant net yn y gyllideb gyfalaf o £15,305 o gymharu â chyllideb net weithredol o £29,143k gan roi amrywiant o £-13,838.

 

 

Nododd y Pwyllgor, mewn perthynas â'r adroddiad arbedion, mai'r disgwyl yw y byddai £982k o arbedion Rheolaethol mewn perthynas â tharged o £1,344k yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y flwyddyn.  Yn ogystal, cyflwynwyd £136k o arbedion polisi mewn perthynas â tharged o £261k ar gyfer 2023/24 a rhagwelwyd y byddai hyn yn cael ei gyflawni.

 


 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu diwethaf, gan godi ar ran y Pwyllgor y pryderon ynghylch hwyrni'r adroddiadau monitro cyllideb sy'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a gofynnodd am adroddiadau mwy amserol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod yr Arweinydd yn ymwybodol o'r amserlenni, gan weithio ar hyn o bryd gyda staff cyllid i ddatrys y mater.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad B – Cerbydau Adrannol. Wrth dynnu sylw at y tanwariant o £13,000 a'r sylw cysylltiedig ynghylch 'tanddefnyddio cerbydau adrannol', gofynnwyd a oedd angen cerbydau adrannol ac a oedd posibilrwydd eu tynnu o'r fflyd. Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad trawsnewid ar deithio staff a cherbydau adrannol. 

 

·       Mewn ymateb i sylw a godwyd ynghylch colli incwm sylweddol oherwydd peiriannau diffygiol mewn meysydd parcio, dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol, er nad oedd ganddo'r amserlenni penodol wrth law ar gyfer atgyweirio, byddai gan bob peiriant talu gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r darparwr. Byddai rhagor o wybodaeth am hyn yn cael ei rhannu ag Aelodau'r Pwyllgor y tu allan i’r cyfarfod. 

 

Gwnaed sylw pellach ynghylch dyluniad y peiriannau talu yn y meysydd parcio, sef nad oeddent yn hawdd i'w defnyddio a'u bod yn her i unigolion â golwg gwael.  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol, wrth gydnabod y gallai rhai unigolion brofi rhai heriau wrth ddefnyddio'r peiriant talu, er mwyn gwella'r hygyrchedd wrth symud ymlaen, byddai adolygiad ar fesurydd yn cael ei gynnal pan fyddai'r peiriant i fod i gael ei newid. Yn ogystal, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod 'my permit app' ar waith ym mhob maes parcio yn Sir Gaerfyrddin sy'n cynnig dull syml o dalu, ond gwerthfawrogwyd unwaith eto y gallai rhai unigolion wynebu rhai heriau wrth ddefnyddio'r dull hwn.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad B – Llwybr Dyffryn Tywi.  Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch y sylw 'disgwylir y bydd pryniannau tir y cytunwyd arnynt a ffioedd cysylltiedig yn cael eu cwblhau cyn bo hir’. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Cyngor wedi defnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol ac wedi cynnal gwrandawiadau hir ac y byddai adroddiad yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i'r Pwyllgor maes o law.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch arian nad oedd wedi'i wario, eglurodd Cyfrifydd y Gr?p y byddai cynlluniau heb eu gorffen yn mynd i mewn i 2024/25 fel y nodwyd.

 

·       Dywedwyd bod y cynlluniau Re-Fit Cymru a Datgarboneiddio yn Atodiad E wedi methu'r targed yn sylweddol o ran gwariant yn 2023/24. Gan mai ymarfer arbed costau oedd hwn, gofynnwyd a oedd unrhyw werth cynyddu'r defnydd o ran effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio a Re-Fit Cymru i gyrraedd targedau penodol.

 

·       Cyfeiriwyd at Gymorth Busnes ar gyfer Mentrau Ynni Adnewyddadwy yn Atodiad F.  Gofynnwyd faint o waith hyrwyddo oedd wedi'i wneud ar y cynllun. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod llawer o waith hyrwyddo wedi'i wneud, ond byddai'n cysylltu â'r Tîm Cyfryngau a Chyfathrebu i wthio'r wybodaeth i'r cyhoedd a chyrraedd y gynulleidfa gywir.

 

·       Cyfeiriwyd at gyflwyno ail gerbyd camera gorfodi, paratowyd Achos Busnes – Y Gwasanaethau Parcio o fewn Atodiad G(ii) Nid yw'r Arbedion yn unol â'r Targed.  Mewn ymateb i bryder a godwyd mewn perthynas â'r trafferthion o ran caffael ail gar camera dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod yr ail gar camera wedi'i ddarparu'n ddiweddar a'i fod yn gerbyd trydan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf hyd at 31 Rhagfyr 2023 yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: