Cofnodion:
[Sylwer: Gan iddynt ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorydd Gareth Thomas a'r Cynghorydd Arwel Davies yn y cyfarfod, ond ni chymerasant ran yn y broses o ystyried yr eitem trafodaethau na phleidleisio ar yr eitem hon].
Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried oedd yn darparu'r asesiad o asedau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PROW) sydd ar ddod, a oedd yn cynnwys rhesymeg dros yr asesiad, manylion am sut y byddai'n cael ei gyflawni, y manteision a'r risgiau. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y pwnc hwn yn dod o dan gylch gwaith yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd a aeth ymlaen i gyflwyno'r adroddiad.
Nodwyd bod y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yn fwy na 2500km gyda thua 3176 o lwybrau a gofnodwyd yn unigol ar draws pob un o'r 72 Cyngor Tref a Chymuned. Byddai cwblhau asesiad o asedau yn darparu cofnod cyflawn o asedau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yr Awdurdod Lleol ar draws y rhwydwaith cyfan.
Codwyd y sylwadau/arsylwadau/ymholiadau canlynol:
· Gofynnwyd a oedd unrhyw bosibilrwydd o weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned. Eglurodd y Rheolwr Mynediad i Gefn Gwlad fod rhaglen cynnal a chadw'r Cyngor Tref a Chymuned wedi dod i ben oherwydd dim ond ychydig o Gynghorau Tref a Chymuned oedd yn cael eu cefnogi'n ariannol i wneud gwaith ar gyfer yr Awdurdod ac, yn dilyn cyfrifiad, canfuwyd pe bai rhagor o Gynghorau Tref a Chymuned yn ymuno â'r cynllun, na fyddai'n bosibl i'r Awdurdod barhau i gefnogi'n ariannol 72 o Gynghorau posibl ar draws Sir Gaerfyrddin. Gan gydnabod y system annheg, cafodd ei symud yn fewnol, ond nodwyd bod anawsterau ac, yn dilyn adolygiad pellach, roedd yr Awdurdod yn gweithio gyda nifer o Gynghorau Tref a Chymuned ond gan ddefnyddio mwy o'u praesept eu hunain i gwmpasu'r gwaith. Nodwyd mai'r dull tymor hwy fyddai gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned ond yn wirfoddol. Roedd gweithlu gwirfoddol wedi'i sefydlu oedd yn cynnwys dros 100 o wirfoddolwyr hyd yma a byddent yn gweithio mewn partneriaeth â'r Awdurdod i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar ran yr Awdurdod. Gwnaed gwaith hyrwyddo ar y cynllun gwirfoddoli, a hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gan anfon gohebiaeth at bob Cyngor Tref a Chymuned a datganiadau i'r wasg. Byddai rhagor o ymgyrchoedd recriwtio gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dywedwyd y dylid cynnwys torri glaswellt yn y bartneriaeth gan weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned.
Awgrymwyd y dylai Cynghorau Tref a Chymuned gael mewnbwn ynghylch pa ran o'r rhwydwaith sy'n cael blaenoriaeth ar gyfer cynnal a chadw. Eglurodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad y cysylltwyd â'r holl Gynghorau Tref a Chymuned pan sefydlwyd yr Hierarchaeth Rhwydwaith lle gofynnwyd i bob Cyngor Cymuned ddewis 5% o gyfanswm hyd y rhwydwaith yn ei ardal fel y gellid blaenoriaethu'r llwybrau hynny fel llwybrau categori C, a ystyriwyd yn deg, yn gymesur ac yn gyflawnadwy. Ymatebodd tua 14 o Gynghorau Tref a Chymuned a rhoddwyd eu llwybrau dethol yng nghategori C.
Gofynnwyd sut y byddai'r asesiadau'n helpu gyda Hawliau Tramwy Cyhoeddus nad oedd wedi cael eu hystyried ers blynyddoedd lawer neu rai sy'n destun materion cyfreithiol. Dywedodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad nad oedd yr asesiadau o asedau'n debygol o gyfrannu at ddatrys unrhyw faterion cyfreithiol parhaus, ond gallai gyfrannu at wella gwybodaeth am sefyllfa'r rhwydwaith cyfan. Mae gallu categoreiddio'r materion a godwyd a gallu gosod ffigur mewn perthynas â nifer yr asedau a'r materion cyfreithiol ac ati yn helpu i gyfrannu at gynllun a phrosiectau sy'n edrych i'r dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch yr asesiadau o asedau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol: