Cofnodion:
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i adroddiad oedd yn darparu gwybodaeth a diweddariad am ddatblygu'r Strategaeth Trawsnewid i Fflyd Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV).
Nododd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn ogystal â datganiad Argyfwng Newid Hinsawdd y Cyngor Sir ym mis Chwefror 2019 a'r targed dilynol o ddod yn sefydliad Sero Net erbyn 2030, fod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei disgwyliadau o ran fflydoedd y sector cyhoeddus yn ei strategaeth yn 2019, sef ‘Ffyniant i Bawb – Cymru Carbon Isel’, gan nodi ei huchelgeisiau i bob car newydd a cherbyd nwyddau ysgafn fod yn gerbydau allyriadau isel iawn erbyn 2025 a phob cerbyd nwyddau trwm erbyn 2030.
Nododd yr Aelodau fod milltiredd fflyd y Cyngor yn cyfrif am 19% o'i ôl troed carbon a oedd yn gyfran sylweddol o'r effaith carbon yn gyffredinol. Prif nod y Cyngor oedd lleihau effaith ei weithrediadau fflyd ar yr amgylchedd ac ymdrechu i gyflawni gweledigaeth y Cyngor o gael y fflyd cerbydau di-garbon cynaliadwy gorau posibl erbyn 2030. Byddai'r Strategaeth Trawsnewid i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn yn ceisio nodi'r rhaglen gyflenwi strategol i gyflawni'r nodau hyn.
Amlinellodd yr adroddiad y sefyllfa bresennol ynghyd â dadansoddiad TEEP cynhwysfawr ac yna'r heriau yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu.
Gwnaed y sylwadau/arsylwadau/ymholiadau canlynol:
· Estynnwyd diolch i'r swyddogion am adroddiad llawn gwybodaeth. Dywedwyd y byddai hwn yn gyfle i gyrff gwasanaethau cyhoeddus arbed swm sylweddol o arian yn ogystal â'r manteision amgylcheddol ac ymarferol.
Awgrymwyd y byddai prynu'r cerbydau trydan drwy'r model 'Talu wrth Arbed' yn fanteisiol oherwydd gellid prynu cerbydau trydan yn gymharol rhad, ymlaen llaw, a hynny drwy gynllun prydlesu am gyfnod rhwng 8 a 10 mlynedd. Yn ogystal, dywedwyd bod cerbydau trydan yn rhatach ac yn haws i'w cynnal. Roedd llawer o fanteision o ran costau i gael fflyd drydan a fyddai'n cael ei chyflawni yn y tymor hir.
Awgrymwyd peidio â gwefru'r cerbydau yn ystod oriau brig/cyfraddau brig. Awgrymwyd bod yr Awdurdod yn negodi 'tariff amser defnydd'. Dros nos yw'r amser mwyaf cost-effeithiol. Yn ogystal, byddai angen darparu hyfforddiant ynghyd ag arferion gwefru er mwyn sicrhau dull cyson a chost-effeithiol.
Nododd yr Aelod Cabinet fod y tîm trafnidiaeth yn parhau i gyfathrebu ag arbenigwyr sy'n darparu cymorth, cyngor ac arweiniad. Ychwanegodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol eu bod ar hyn o bryd yn ceisio darparu cynllun trawsnewid cadarn, cynaliadwy a fforddiadwy i'r Cyngor a fyddai'n cynnwys y cerbydau a'r seilwaith gwefru cerbydau trydan o amgylch y Sir. Byddai'r cynllun hefyd yn cynnwys yr arferion gwefru, yr hyfforddiant a'r hyfforddiant cynnal a chadw. Cydnabuwyd bod trawsnewid i gerbydau trydan yn gynllun tymor hir, ond roedd cam sylweddol wedi'i wneud i gyflwyno'r Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ac roedd sicrhau y byddai'r trawsnewid yn gynaliadwy yn y tymor hir yn allweddol.
· Codwyd pryderon ynghylch y pwysau ar hyn o bryd ar y gyllideb a'r beichiau ychwanegol o ran costau a allai ddeillio o hyn, gan ddechrau gyda phrynu cerbydau trydan sydd rhwng o leiaf 20% a 30% yn ddrutach na cherbydau safonol, a fyddai'n gost sylweddol i fflyd.
Mae pryderon pellach ynghylch costau'r yswiriant a allai fod 30% yn fwy oherwydd gwaredu batris lithiwm, a'r gost ychwanegol i'r Cyngor o ran defnyddio trydan a chostau gwasanaethu a chynnal a chadw gan nad oes gan lawer o garejis y gallu i gynnal a chadw cerbydau trydan.
Dywedodd yr Aelod Cabinet, mewn ymateb i'r pryderon, y byddai angen cryn dipyn o ymchwil i symud ymlaen a byddai angen ystyried yr holl fodelau economaidd sydd ar gael. O ran cynnal a chadw cerbydau trydan, cydnabuwyd y byddai angen gwella sgiliau er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ddigonol ar gael i gynnal a chadw cerbydau. Rhoddodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol sicrwydd y byddai'r cynllun yn sicrhau bod y fflyd yn fforddiadwy yn y tymor hir ynghyd ag ystyriaethau mewn perthynas â nifer y cerbydau gofynnol ar y fflyd, mwy o ddefnydd a rhannu cerbydau ar draws gwasanaethau i leihau nifer y cerbydau. Byddai hyn yn cyd-fynd â gwerthusiadau ynghylch sut y gallai'r Cyngor barhau i ddatgarboneiddio mewn modd fforddiadwy. O ran sgiliau yn Sir Gaerfyrddin i gynnal a chadw cerbydau trydan, rhoddwyd gwybod bod yr adran drafnidiaeth yn gweithio gydag Academi Sgiliau Gwyrdd Coleg Sir Gâr i ddatblygu prosbectws ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac un o'r elfennau oedd cynnal a chadw cerbydau trydan.
O ran gwaredu batris, dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod trafodaethau'n cael eu cynnal ar lefel genedlaethol gyda'r 22 awdurdod lleol arall yng Nghymru o ran ystyried y deunyddiau gwastraff problemus, gan gynnwys batris.
· Cyfeiriwyd at baragraff 3.12 '....a fydd yn gweld cynnydd yng nghyfran y fflyd Cerbydau Trydan o 1.8% i 8% erbyn 31 Mawrth 2024.’ Gofynnwyd a oedd diweddariad mewn perthynas â'r wythnosau diwethaf, a nododd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol nad oedd unrhyw bryniannau/dosbarthiadau fflyd pellach mewn 3 wythnos, felly arhosodd y ffigur yn 8%.
· Gofynnwyd a oedd unrhyw bosibilrwydd o ddefnyddio paneli solar i wefru'r fflyd drydan. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod yna gyd-ddibyniaethau ar draws sawl adran. Nodwyd bod datgarboneiddio stoc adeiladau'r Cyngor yn flaenoriaeth ac er bod buddsoddi mewn cyfleusterau ynni adnewyddadwy a phaneli solar yn cael ei ystyried i bweru adeiladau, roedd capasiti ychwanegol i wefru cerbydau hefyd yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Strategaeth Trawsnewid i Fflyd Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.
Dogfennau ategol: