Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Cofnodion:

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion i'r Cynghorydd Louvain Roberts a'i theulu yn dilyn marwolaeth ei g?r, Mel yn gynharach y mis hwn;

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Mr Eric a Mrs Betty Jones, Twyn, Y Garnant, a oedd wedi dathlu 70 mlynedd o briodas ddiwedd mis Medi;

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i Mrs Irene Williams o Langynnwr a fyddai'n dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar 30 Hydref 2021.

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Jonney Clayton, un o weithwyr y Cyngor, ar ennill Grand Prix Dartiau'r Byd 2021;

 

·         Dywedodd yr Is-gadeirydd, Y Cynghorydd Ken Lloyd ei fod wedi mynychu Noson Wobrwyo a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Sgowtiaid Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar ar ran y Cadeirydd.

 

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i gydymaith, Mrs Joyce Williams ar 9 Medi wedi cael y pleser o gwrdd â Nerys Davies a oedd wedi beicio o Tignes yn Ffrainc i Gapel Bryn Iwan, Sir Gaerfyrddin sef pellter o dros 1,000 o filltiroedd er mwyn codi arian ar gyfer Calon Cymru.

 

·         Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cadeirydd a'i gydymaith wedi mynychu Gwasanaeth Dinesig Maer newydd Cyngor Tref Caerfyrddin, sef y Cynghorydd Gareth John.

 

·         Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cyngor fod tudalen Facebook newydd wedi'i lansio i'w helpu i rannu newyddion a diweddariadau am ei weithgareddau fel Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin a hefyd i rannu gwybodaeth am ei elusen ddewisol sef Ambiwlans Awyr Cymru. Gallai unrhyw un a oedd am ddilyn ei weithgareddau chwilio am ‘Cadeirydd Cyngor Sir Gâr | Carmarthenshire County Council Chair’.

 

·         Lansiodd y Cynghorydd Mair Stephens apêl teganau flynyddol y Cyngor a oedd yn darparu anrhegion i deuluoedd mewn angen. Roedd yr Awdurdod wedi darparu 7,500 o anrhegion i 1,256 o blant y Nadolig diwethaf a oedd yn gyflawniad rhyfeddol a byddai rhagor o fanylion am apêl eleni ar gael ar wefan y Cyngor o ddydd Llun, 18 Hydref 2021.

 

·         Atgoffodd y Cynghorydd Ann Davies fod mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon a oedd yn rhoi cyfle i bawb rannu, dathlu a deall effaith treftadaeth a diwylliant pobl dduon.  Yn ogystal, roedd Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn cael ei chynnal rhwng 9 a 16 Hydref ac roedd y Cyngor yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid allweddol i'w gwneud yn glir nad oes croeso i droseddau casineb yn Sir Gaerfyrddin.

·         Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Covid yn Sir Gaerfyrddin. Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau Covid yn y Sir a dywedodd, er bod y ffigurau'n parhau'n uchel, fod arwyddion o achosion cadarnhaol yn arafu.  Nododd er bod pwysau cynyddol yn y system gofal cymdeithasol, dywedodd fod modd rheoli'r ffigurau yn y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd. Mynegodd yr Arweinydd ei ddiolch yn ddiffuant i staff gofal cymdeithasol a'r rhai a oedd yn parhau i weithio ar y rheng flaen am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus. Dywedodd fod Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi darparu adroddiad i aelodau'r Cabinet ar effaith pwysau cenedlaethol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin;  yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru;  effaith hyn ar drigolion Sir Gaerfyrddin a rhai o'r camau a gymerwyd i liniaru hyn.  Gofynnodd i arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol yr Awdurdod ymuno ag ef ac ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch gwneud newid radical yn y ffordd y rheolwyd gofal cymdeithasol ac ateb cenedlaethol o ran tâl ac amodau.