Cwestiwn gan yr Athro Roffe
Gomisiynydd, mae cynlluniau parhaus y Swyddfa Gartref i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn Llanelli i gartrefu ceiswyr lloches yn parhau i ddenu cryn sylw yn y cyfryngau ac yn cael effaith ar gydlyniant cymunedol. A fyddech cystal â rhoi amlinelliad o’r ymgysylltiad rydych wedi'i gael gyda'r Swyddfa Gartref ynghylch y mater hwn a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei roi mewn sefyllfa anfanteisiol mewn perthynas â’r gost o blismona'r lleoliad a'i berthynas â'r gymuned leol?
Cwestiwn gan Mrs Helen Thomas
Gomisiynydd, mae'r cynnydd diweddar yn genedlaethol o ran lladrata o siop wedi denu cryn sylw yn y cyfryngau. A yw Dyfed-Powys wedi gweld cynnydd tebyg a pha gamau rydych wedi'u cymryd, naill ai ar wahân i'r Prif Gwnstabl neu ar y cyd ag ef, i fynd i'r afael â'r broblem hon?
Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans
Gomisiynydd, mae adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y peryglon y mae defnyddio e-sigaréts yn eu peri i bobl ifanc. Pa rôl sydd gan swyddogion cyswllt yr heddlu ag ysgolion, yn eich barn chi, wrth fynd i'r afael â'r mater hwn a pha gamau eraill rydych wedi'u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon?
Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans
Gomisiynydd, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol newydd o 20mya yng Nghymru dim ond yn effeithiol os caiff ei orfodi'n briodol. A ydych yn fodlon bod gennych ddigon o adnoddau i wneud hyn? A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Prif Gwnstabl ynghylch y dull y bydd yr heddlu’n ei ddefnyddio o ran y gwaith hwn?
Cofnodion:
5.1 Cwestiwn gan yr Athro Roffe
Gomisiynydd, mae cynlluniau parhaus y Swyddfa Gartref i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn Llanelli i gartrefu ceiswyr lloches yn parhau i ddenu cryn sylw yn y cyfryngau ac yn cael effaith ar gydlyniant cymunedol. A fyddech cystal â rhoi amlinelliad o’r ymgysylltiad rydych wedi'i gael gyda'r Swyddfa Gartref ynghylch y mater hwn a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei roi mewn sefyllfa anfanteisiol mewn perthynas â’r gost o blismona'r lleoliad a'i berthynas â'r gymuned leol?
Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar 10 Hydref, 2023 fod cynlluniau ar gyfer defnyddio Gwesty Parc y Strade ar gyfer ceiswyr lloches yn cael eu tynnu'n ôl.
Roedd llythyr wedi ei anfon i'r Swyddfa Gartref yn gofyn am atebion i’r cwestiynau ar y diwydrwydd dyladwy a gyflawnwyd wrth ddewis y safle.
Roedd ffigurau ar gost plismona oddeutu £300,000 ac mae sylwadau ynghylch ad-daliadau i'w cynnal yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar 8 Tachwedd, 2023.
Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel, y byddai hefyd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref i ddarparu tystiolaeth o'r profiad.
Mae'r tîm cyswllt ysgolion yn ymgysylltu â chymunedau i gyfleu negeseuon cadarnhaol i wrthweithio’r elfennau negyddol y mae plant ifanc yn eu gweld ar gyfryngau cymdeithasol.
5.2 Cwestiwn gan Mrs Helen Thomas
Gomisiynydd, mae'r cynnydd diweddar yn genedlaethol o ran lladrata o siop wedi denu cryn sylw yn y cyfryngau. A yw Dyfed-Powys wedi gweld cynnydd tebyg a pha gamau rydych wedi'u cymryd, naill ai ar wahân i'r Prif Gwnstabl neu ar y cyd ag ef, i fynd i'r afael â'r broblem hon?
Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Mae cynnydd cenedlaethol mewn troseddu, oherwydd yr argyfwng costau byw a gweithgarwch troseddu cyfundrefnol a difrifol. Er mwyn helpu i dargedu gweithgarwch troseddol, yr asedau fydd strwythur teledu cylch cyfyng sefydledig a system adnabod rhifau cofrestru cerbydau cywir.
Mae ailstrwythuro ar waith i gael mwy o swyddogion a fydd yn weladwy mewn trefi.
5.3 Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans
Gomisiynydd, mae adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y peryglon y mae defnyddio e-sigaréts yn eu peri i bobl ifanc. Pa rôl sydd gan swyddogion cyswllt yr heddlu ag ysgolion, yn eich barn chi, wrth fynd i'r afael â'r mater hwn a pha gamau eraill rydych wedi'u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon?
Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Mae swyddogion cyswllt yn gweithio gydag ysgolion gan fod cynnydd yn y defnydd. Mae e-sigaréts wedi cael eu gwahardd i rai dan 18 oed, ond mae'n broblem yn enwedig i blant oedran ysgol.
Yn ystod Fforwm Ieuenctid diweddar ym Mharc y Strade, siaradodd pobl ifanc â'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl gan godi materion ynghylch cyffuriau. Mae canlyniadau'r arolwg yn ystod y digwyddiad wedi cael eu cynnwys yng ngwaith y Prif Gwnstabl.
5.4 Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans
Gomisiynydd, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol newydd o 20mya yng Nghymru yn effeithiol dim ond os caiff ei orfodi'n briodol. A ydych yn fodlon bod gennych ddigon o adnoddau i wneud hyn? A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Prif Gwnstabl ynghylch y dull y bydd yr heddlu’n ei ddefnyddio o ran y gwaith hwn?
Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Os yw'r cyfyngiad cyflymder yn lleihau marwolaethau, yna dylid cefnogi'r newid. Roedd miliwn o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb ar-lein ac roedd angen trafod y newid ymhellach. Dros y 10 mlynedd diwethaf, bu gostyngiad o 20% mewn marwolaethau. Derbyniwyd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gael newid ymddygiad. Bydd gorfodaeth yn cael ei weithredu. Bydd gan swyddogion plismona rôl weithredol, swyddogion Gan Bwyll yn bennaf. Roedd rhai o'r ffyrdd mwyaf peryglus yng Nghymru ym Mhowys a Cheredigion, oherwydd cyfanswm y traffig, camgymeriadau gyrwyr a natur y ffyrdd.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Comisiynydd y byddai'n cysylltu â'r Rhingyll Ian Price i drafod materion hyfforddi gyda gwirfoddolwyr.