Agenda item

MATERION YSTÂD WLEDIG Y CYNGOR SIR.

Cofnodion:

Ymhellach i gofnod 14 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2023, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar ddau fater cyfredol yn ymwneud â phortffolio Ystâd Wledig y Cyngor sef plannu coed a chreu coetiroedd ar dir y Cyngor a sefydlu Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn Fferm Bremenda Isaf, Llanarthne. Byddai'r cyntaf yn helpu i gyflawni nodau'r Cyngor ynghylch atafaelu carbon  mewn perthynas â'i ymrwymiad Carbon Sero Net a'i amcanion Argyfwng Natur, a byddai'r olaf yn cyflawni nodau'r Cyngor ynghylch cynhyrchu bwyd lleol, cefnogi mentrau gwledig a galluogi arallgyfeirio ar ei Ystâd Fferm at ddibenion sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1 bwrw ymlaen â phlannu coed a chreu coetiroedd ar dir y Cyngor;  

 

10.2 bwrw ymlaen â'r Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn Fferm Bremenda Isaf, Llanarthne.  

 

 

Dogfennau ategol: