Agenda item

CWESTIWN GAN CHARLIE EVANS I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

"O dan gynlluniau ar gyfer yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i gynllunio newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhagweld y bydd 68% o weithlu Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn cael ei drosglwyddo i'r ysbyty newydd. Mae hyn yn cyfateb i 2,625 aelod o staff, yn seiliedig ar niferoedd 2022. Ysbyty Glangwili yw un o gyflogwyr mwyaf Caerfyrddin.

O ystyried bod gan y Cyngor gyfrifoldebau dros ein trefi, pa effaith ydych chi'n credu y bydd hyn yn ei chael ar dref Caerfyrddin?"

 

Cofnodion:

"O dan gynlluniau ar gyfer yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i gynllunio newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhagweld y bydd 68% o weithlu Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn cael ei drosglwyddo i'r ysbyty newydd. Mae hyn yn cyfateb i 2,625 aelod o staff, yn seiliedig ar niferoedd 2022. Ysbyty Glangwili yw un o gyflogwyr mwyaf Caerfyrddin. O ystyried bod gan y Cyngor gyfrifoldebau dros ein trefi, pa effaith ydych chi'n credu y bydd hyn yn ei chael ar dref Caerfyrddin?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

Diolch Mr. Evans.  Fel y gwyddoch, y Bwrdd Iechyd fydd yn penderfynu ynghylch ailstrwythuro gofal ysbyty yn Ne-orllewin Cymru wrth gwrs, ac, yn y pen draw, os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru.  Mae'n glir bod gennych ddiddordeb amlwg yn y mater hwn, a byddwn yn awgrymu efallai ei fod yn werth i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r Bwrdd Iechyd yn ei gylch.              

 

Fodd bynnag, mae hwn yn fater sy'n amlwg o ddiddordeb i'r boblogaeth leol, gan fod Glangwili wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn rhan bwysig o wead y dref. Yn wir mae aelodau etholedig lleol yng Nghaerfyrddin wedi ymgyrchu ers tro i  gadw a datblygu Ysbyty Glangwili - a dweud y gwir, lansiwyd ac arweiniwyd yr  ymgyrch i wneud hynny gan gynghorwyr lleol Plaid Cymru yn y dref - dau sydd bellach yn aelodau Cabinet ac sy'n eistedd yn y siambr y bore 'ma.                       

 

Pan dorrodd y newyddion am y bwriad i ad-drefnu'r ddarpariaeth ysbyty ym mis Mawrth 2018, galwodd y Cynghorydd Alun Lenny, Maer y Dref ar y pryd, gyfarfod    cyhoeddus a threfnu deiseb ar-lein a ddenodd dros 5,000 o enwau mewn byr iawn o amser.  Cefnogwyd hyn gan bob plaid ar y Cyngor Tref, a oedd dan arweiniad Plaid.   

 

Cafodd y Cynghorydd Gareth John y dasg wedyn gan gr?p Plaid Cymru ar y cyngor sir i baratoi ymateb manwl i'r ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ynghylch trawsnewid gwasanaethau clinigol. O ganlyniad, ym mis Mehefin 2018, cyflwynwyd ymateb manwl 14 tudalen i'r Bwrdd. Wrth ddadlau achos Glangwili, tynnodd sylw at y ffaith bod bron i hanner (48%) poblogaeth ardal y Bwrdd Iechyd yn byw yn Sir Gaerfyrddin, a bod Glangwili wedi'i leoli'n agos iawn i ganol y sir.

 

Yn wir, y llynedd galwodd cynghorwyr tref Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin a'r Aelod o'r Senedd Adam Price ar y Bwrdd Iechyd i amddiffyn gwasanaethau a'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yng Nglangwili, fel rhan o unrhyw ad-drefnu gofal iechyd yn Ne-orllewin Cymru.  

 

Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rydym bellach mewn sefyllfa lle mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried 3 safle y tu allan i dref Caerfyrddin ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd, serch bod y safleoedd arfaethedig o fewn ffiniau'r sir.

 

Rwy'n deall bod yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd wneud gwaith pellach (a'i fod yn bwriadu gwneud hynny) i ddeall yn well effaith economaidd ei newidiadau arfaethedig i'r ddarpariaeth ysbyty fel rhan o broses yr achos busnes, ac rydym yn hapus i gefnogi'r gwaith hwnnw.

Fodd bynnag, fy awgrym yw eich bod yn gofyn i'r Bwrdd Iechyd ynghylch y broses achos busnes mae'n ei wynebu, ond yn amlwg, prif ffocws y Bwrdd Iechyd yw darparu gwasanaethau clinigol.

Mae'n bwysig nodi, yn ystod sesiwn ymgynghorol ddiweddar, fod aelodau etholedig o bob rhan o'r sir wedi gallu codi materion gyda'r Bwrdd Iechyd Gwladol ynghylch y newidiadau arfaethedig. Mae'n amlwg bod cwestiynau o ran trafnidiaeth, tai a chyfleoedd a bygythiadau economaidd rydym yn awyddus i roi sylw iddynt.

 

Fodd bynnag, rwy'n credu bod modelu unrhyw effaith economaidd, ar dref Caerfyrddin yn benodol, gydag unrhyw sicrwydd yn mynd i fod yn anodd, gan y bydd llawer o'r dadansoddi'n dibynnu ar geisio deall ble mae staff byrddau iechyd yn byw ar hyn o bryd, ble bydd gweithlu'r dyfodol ymhen 5 neu 10 mlynedd yn byw, patrymau cymudo, arferion siopa a gwario gweithwyr unigol a llu o ffactorau eraill, sy'n anodd iawn eu clustnodi heb gyfuniad o ddata meintiol ac ansoddol cadarn – a fydd wrth gwrs yn newid dros amser.

 

Fel rydych yn gwybod, mae canol tref Caerfyrddin yn bwysig iawn i'r Cyngor Sir. Fodd bynnag, nid cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yn unig yw Caerfyrddin na threfi a phentrefi eraill. Yn wir, mae pob tref yn gyfuniad o randdeiliaid allweddol sy'n cynnwys y sector busnes, y sector gwirfoddol, y cyngor tref ac ystod o gyrff cyhoeddus fel y Bwrdd Iechyd Lleol, y Brifysgol, yr awdurdod lleol, ysgolion a cholegau, ac mae pob anheddiad yn wahanol.

 

Fel awdurdod lleol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd Canol Tref Caerfyrddin ac wrth gwrs yn buddsoddi adnoddau er mwyn cydweithio, er mwyn uno rhanddeiliaid ac adnoddau i wneud Caerfyrddin mor llwyddiannus â phosibl, a beth bynnag yw'r penderfyniad terfynol ar y ddarpariaeth ysbyty yn Ne-orllewin Cymru yn y dyfodol, bydd y gwaith hwnnw'n parhau.”

 

Cwestiwn atodol gan Mr. Charlie Evans:-

“Ai safbwynt y Cabinet ar hyn o bryd yw y dylai Ysbyty Glangwili fod yn ysbyty cyffredinol neu'n ysbyty cymunedol fel yw bwriad y Bwrdd Iechyd.”   

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor, i'r cwestiwn atodol :-

“Fel y soniais yn fy ateb i'r cwestiwn cyntaf, cafodd aelodau o bob rhan o'r siambr, boed yn aelodau Cabinet neu beidio, gyfle i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r Bwrdd Iechyd fis diwethaf ar y cynlluniau. Fel y gwyddoch, nid yw'r Cyngor fel corff corfforaethol wedi cyflwyno sylwadau ffurfiol ar y safleoedd arfaethedig mae'r Bwrdd Iechyd yn ymgynghori arnynt ar hyn o bryd. Fel y nodais yn yr ateb cychwynnol, roedd fy mhlaid i, a gallaf siarad ar ran Plaid Cymru, yn sicr o'r farn y dylid amddiffyn Glangwili yn ei ffurf bresennol a'i ddatblygu fel lleoliad acíwt gyda gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn rhan annatod o hynny. Ond fel y soniais, mae pethau wedi symud ymlaen ers hynny ac mae'r Bwrdd Iechyd wedi penderfynu, nid ein lle ni yw penderfynu, mai'r tri safle yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd yw'r opsiynau a ffefrir o safbwynt y Bwrdd a byddwn i'n annog y cyhoedd i gyfrannu i'r broses honno. Ond yn amlwg, yn y pen draw penderfyniad i'r Bwrdd Iechyd ac nid y Cyngor Sir yw hwn. Fel aelod sy'n byw yn nwyrain y sir yng Ngors-las, yn amlwg hoffwn i weld yr holl wasanaethau'n cael eu darparu mor agos â phosibl at fy stepen drws a dyna'n sicr oedd y farn a fynegwyd i'r Bwrdd Iechyd yn y sesiwn a gawsom ychydig wythnosau yn ôl. Fel y crybwyllais i chi yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet, mae gan aelodau dwyrain y sir, ac ardaloedd fel Llanelli, bryderon clir ynghylch amserau cyrraedd, p'un a fydd yr ysbyty newydd yn Hendy-gwyn ar Daf neu Sanclêr. Ond ar yr un pryd, rwy'n ymwybodol o'm sgyrsiau gyda chydweithwyr yn Sir Benfro fod pryderon tebyg ar ochr orllewinol y sir honno. Wrth siarad â chynrychiolwyr yn ardal Abergwaun a Thyddewi, mae'n amlwg bod pryderon fan honno y bydd unrhyw symudiad i'r dwyrain tuag at Gaerfyrddin yn cael effaith ar amserau cyrraedd yn yr ardaloedd hynny. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw'r hanes ac fel y soniais mae hyn wedi bod yn drafodaeth ac yn ymgyrch barhaus ers dros 5 mlynedd bellach, ac rwy'n sylweddoli bod eich cwestiynau wedi dod i mewn i'r Cabinet dros y 2 fis diwethaf, ond mae nifer o aelodau yn y siambr hon a thu allan i'r siambr wedi bod yn ymgyrchu ar hyn ers cryn amser. Mae'r syniad y gall Glangwili ddarparu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys llawn a chynnal y gwasanaethau mae'n eu darparu ar hyn o bryd wedi mynd oherwydd nid yw'r Bwrdd Iechyd wedi darparu'r opsiwn hwnnw. O'm safbwynt i, yr hyn sy'n allweddol yma yw ein bod yn ceisio diogelu cymaint o wasanaethau ag y gallwn ni yn lleol a sicrhau bod mynediad diogel i wasanaethau i bobl Sir Gaerfyrddin. Yn y cyflwyniad a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd, roedd y strategaeth mae'n ei chynnig ar hyn o bryd wedi'i llunio gan glinigwyr a gwn fod y Blaid Dorïaidd yn awyddus i sicrhau bod pobl broffesiynol, boed yn athrawon neu'n feddygon a nyrsys, ar flaen y gad o ran hynny ac yn arwain newid o fewn eu sectorau penodol, a dyna'r neges gref gan y Bwrdd Iechyd, sef bod y Cynllun hwn wedi ei seilio ar angen clinigol ac wedi cael ei gyflwyno gan glinigwyr, ac rwy'n credu bod rheidrwydd arnom ni i gyd i ystyried hynny a cheisio prosesu'r wybodaeth honno a gwneud synnwyr o ran goblygiadau hynny wedyn i wasanaethau ledled y sir. Ond fel rwyf wedi crybwyll sawl tro wrthych, gan mai penderfyniad Bwrdd Iechyd yw hwn, awgrymaf yn barchus eich bod yn ymgysylltu â'r Bwrdd Iechyd ar y mater hwn ac rwy'n si?r bydd y Bwrdd yn fwy na pharod i wneud hynny.”