Agenda item

CYNLLUN RHEOLI STRATEGOL GLANHAU STRYDOEDD 2023

Cofnodion:

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, a oedd yn darparu gwybodaeth allweddol mewn perthynas â Chynllun Rheoli Strategol Glanhau Strydoedd 2023.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r ffordd y byddai'r Cyngor yn adolygu ac yn gwella ei ddarpariaeth gwasanaethau glanhau wrth fodloni gofynion deddfwriaethol Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.  Byddai'r Cynllun yn llunio dyfodol y gwasanaeth i gyflawni anghenion y Cynllun Rheoli Ansawdd Amgylcheddol Lleol a'r dyletswyddau a gyflawnir gan yr Awdurdod drwy God Ymarfer ar Sbwriel a Gwastraff a Chanllawiau Cysylltiedig 2007.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at baragraff 1.19 o'r adroddiad a oedd yn nodi mai'r Dangosydd Glendid Cymru Gyfan ar gyfer 2022-23 yw 68.8 ac, ar hyn o bryd, fod gan Sir Gaerfyrddin sgôr o 67.4 sy'n ein gosod yn y 14eg safle yng Nghymru.  Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd yr Aelod Cabinet fod hyder y byddai'r Gwasanaeth Glanhau newydd, ynghyd â chydweithio, yn gwella'r Dangosydd Glendid Cymru Gyfan ymhellach yn y dyfodol.

 

·       Nodwyd bod cynghorwyr yn derbyn llawer o negeseuon e-bost gan drigolion yn rhoi gwybod am finiau llawn y mae angen eu gwagio.  Cydnabuwyd bod timau casglu sbwriel lleol yn ymdrin â'r rhain yn aml, ac felly dywedwyd nad yw'r mater hwn yn cael ei riportio'n aml gan nad yw wedi mynd drwy sianel riportio y Gwasanaethau Democrataidd.  Dywedodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro, fel rhan o'r arbedion effeithlonrwydd, y byddai biniau sbwriel yn cael eu lleihau 20% ar draws y sir ac anogodd yr aelodau i gyfrannu at y broses fonitro. Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro y byddai'r aelod ward priodol yn cael gwybod am y biniau sbwriel a nodir ar gyfer eu gwaredu ledled y sir, ynghyd â'r rhesymeg.

 

·       Codwyd ymholiad ynghylch addysgu'r cyhoedd mewn perthynas â'r strategaeth.  Eglurodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro, ar wahân i’r Cynllun Rheoli Strategol Glanhau Strydoedd, fod rhaglen addysg ac ymwybyddiaeth gadarn a nodwyd yn y Cynllun Amgylchedd o Safon Lleol.  Yn ogystal, roedd gwaith allweddol yn cael ei wneud ochr yn ochr ag awdurdodau lleol eraill mewn perthynas â datblygu dull Cymru gyfan fel rhan o brosiect Caru Cymru.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch codi ymwybyddiaeth ac addysg drwy fynychu sioeau/ffeiriau/digwyddiadau, eglurodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro nad oedd modd mynychu pob sioe/ffair/digwyddiad, fodd bynnag, byddai rhestr o'r digwyddiadau y bwriedir bod yn bresennol ynddynt yn cael ei rhannu â'r aelodau a byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatblygu proses lle gallai Aelodau ofyn am bresenoldeb mewn sioeau/ffeiriau/digwyddiadau lleol pe bai adnoddau'n caniatáu hynny.

 

·       Dywedwyd y byddai Aelodau yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd i addysgu plant am leihau gwastraff ac ailgylchu.

 

·       Gofynnwyd am eglurder mewn perthynas â'r strategaeth i wella ar y cam presennol ar raddfa Dangosydd Glendid Cymru Gyfan ac, wrth ymdrechu i wella, roedd yn cynnwys cynnydd mewn lefelau staffio ac, os felly, a fyddai'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn lleihau a chostau yn cael eu gwrthbwyso?  Dywedodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro, fel rhan o'r strategaeth, y byddai staff yn cael eu cyflogi a byddai'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn lleihau a fyddai'n digwydd dros y tri mis nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad ar Gynllun Rheoli Strategol Glanhau Strydoedd 2023 yn cael ei dderbyn.

 

Ar yr adeg hon, anerchodd y Cynghorydd John James y Pwyllgor i hysbysu'r Aelodau mai'r cyfarfod hwn oedd ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu.  Ar ôl bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd gynt, a newidiodd i'r Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn fwy diweddar, dros y chwe blynedd diwethaf, estynnodd y Cynghorydd James ei werthfawrogiad i holl Aelodau'r Pwyllgor Craffu nawr ac yn y gorffennol, yr is-gadeiryddion, Aelodau'r Cabinet a’r swyddogion am eu gwaith caled, eu cefnogaeth a'u hymroddiad. 

 

Estynnodd Aelodau'r Cabinet, Aelodau'r Pwyllgor a’r swyddogion eu diolchgarwch a'u gwerthfawrogiad diffuant i'r Cynghorydd John James am ei flynyddoedd amhrisiadwy o wasanaeth. Roedd ymroddiad, angerdd ac arweiniad y Cynghorydd James i'r Pwyllgor wedi bod yn allweddol wrth yrru'r Pwyllgor yn ei flaen er budd y cymunedau yn Sir Gaerfyrddin.

 

 

Dogfennau ategol: