Agenda item

ADRODDIAD DIWEDDARU - DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS YNGHYLCH RHOI'R POLISI DYRANNU NEWYDD AR WAITH (MONITRO)

Cofnodion:

Yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2023, cafodd y Pwyllgor adroddiad monitro ar effeithiolrwydd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys newydd a luniwyd gan ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Nodwyd bod cynnwys yr adroddiad yn cynnwys data ar gyfer y cyfnod blaenorol yn ymwneud â'r canlynol:-

 

1.     Cyfran yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol a'r rhai a hysbysebwyd,

2.     Band os yw cleientiaid wedi'u paru yn uniongyrchol,

3.     Nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol ac a hysbysebwyd gan bob ardal gymunedol, math o eiddo a landlord,

4.     Cyfran yr achosion o baru uniongyrchol a oedd yn llwyddiannus,

5.     Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle mae'r cleient yn gofyn am adolygiad o'r dyraniad, a chanlyniad yr adolygiadau hynny,

6.     Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle mae'r cleientiaid yn gwrthod y dyraniad ond nid yw'n gofyn am adolygiad.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar y gostyngiad yng nghyfran yr eiddo a barwyd yn y chwarter cyntaf a'r ail chwarter, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gellid ei briodoli i nifer o ffactorau, gan gynnwys y math o eiddo sydd ar gael, eu lleoliad ac a oeddent mewn ardaloedd yr oedd pobl am fyw ynddynt. Fodd bynnag, ceisiodd yr awdurdod baru eiddo â phobl mewn ardaloedd yr oedd ganddynt gysylltiad â nhw, ond efallai na fyddant bob amser yn addas.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor hefyd fod y data y manylwyd arno yn yr adroddiad yn ymwneud â'r cyfnod rhwng Hydref 2022 a Mawrth 2023 lle rhoddwyd pwerau i'r Pennaeth Tai baru eiddo yn uniongyrchol mewn rhai amgylchiadau. Byddai'r Polisi newydd, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2023, yn caniatáu i'r gwasanaeth baru pob tenant ym Mand A a B yn uniongyrchol a fyddai'n arwain at ostyngiad yn lefel y tai sy'n cael eu hysbysebu.

·       Cadarnhawyd bod pob un o'r 4,500 ar y gofrestr Tai wedi derbyn gohebiaeth yn manylu ar y newid i'r Polisi Dyrannu Brys newydd.

·       Cadarnhawyd, ar hyn o bryd, fod gan yr is-adran tai ddigon o adnoddau i weinyddu'r system newydd yn dilyn cynnydd yn y niferoedd ar y gofrestr tai o 4412 ym mis Hydref 2022 i 4551 ar 12 Ebrill 2022. Pe bai amgylchiadau'n newid ac ystyrir bod angen adnoddau ychwanegol, byddai cais am yr adnoddau hynny'n cael ei gyflwyno yn unol â'r arfer.

·       O ran comisiynu ystafelloedd mewn gwestai a llety gwely a brecwast, cadarnhawyd y byddai hynny'n cael ei leihau lle bynnag y bo modd. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor hefyd nad oedd unrhyw deulu â phlant yn cael eu rhoi mewn llety o'r fath adeg paratoi'r adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor hefyd y byddai'r gwasanaeth yn symud i ffwrdd o'r gwestai math mwy / llety gwely a brecwast i ddarparwyr llai a byddai'r aelod lleol yn cael gwybod am y ddarpariaeth honno yn eu ward.

·       Cyfeiriwyd at ddisgwyliad gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen am ostyngiad yn nifer y bobl sy'n ddigartref. Gan nad oedd y gostyngiad hwnnw wedi digwydd, gofynnwyd am esboniad a oedd unrhyw resymau penodol dros y cynnydd presennol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod nifer o resymau dros y cynnydd y gellid eu priodoli i Reoliadau Llywodraeth Cymru, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ynghyd â'r argyfwng costau byw.O ran y Ddeddf Rhentu Cartrefi, roedd yr amddiffyniad ar gyfer tenantiaid presennol wedi'i ymestyn hyd at ddiwedd mis Mehefin 2023. Felly, gallai landlordiaid ddal i gyhoeddi Hysbysiadau Adran 21 hyd at ddiwedd mis Mai. Roedd ôl-groniad o bedwar mis hefyd yn y llysoedd ar gyfer Hysbysiadau Adran 21 a fyddai'n golygu y byddai hysbysiadau pellach yn cael eu rhoi a phobl yn ddigartref.

·       O ran cynnydd yn nifer y bobl ym Mand A, roedd modd priodoli hynny i'r rhai ym Mand B oedd mewn perygl o gael eu gwneud yn ddigartref yn cael eu symud i Fand A er mwyn hwyluso eu hailgartrefu cyn gynted â phosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad monitro.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau