Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE GWERNLLWYN CARE HOME, HEOL LLANDEILO, CROSS HANDS, LLANELLI SA14 6RD

GOHIRIO'R CYFARFOD AC AILYMGYNNULL AM 10:00 Y.B YN GWERNLLWYN CARE HOME, HEOL LLANDEILO, CROSS HANDS ER MWYN YMWELD Â'R SAFLE SY'N GYSYLLTIEDIG Â'R CAIS AM DRWYDDED.

 

AR ÔL GORFFEN YR YMWELIAD SAFLE UCHOD BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN SIAMBR, NEUADD Y SIR CAERFYRDDIN, AC O BELL,  AM 11.15 Y.B ER MWYN CAEL SYLWADAU AC I BENDERFYNU AR CAIS UCHOD

Cofnodion:

Roedd cyfarfod yr Is-bwyllgor wedi cael toriad am 9:35am ac wedi ailymgynnull ar y safle am 10:00am yng Nghartref Gofal Gwernllwyn, Heol Llandeilo, Cross Hands, Llanelli, er mwyn gweld lleoliad yr eiddo ac eiddo'r gwrthwynebwyr mewn cysylltiad â'r cais a gyflwynwyd am drwydded safle.  Cafodd yr Is-bwyllgor y cyfle i archwilio cyfleusterau mewnol ac allanol yr eiddo. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin ac yn rhithwir o bell am 11.15 a.m. i ystyried y cais.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd i ystyried cais a gafodd ei ddiwygio gan William James am drwydded safle ar gyfer Cartref Gofal Gwernllwyn, Heol Llandeilo, Cross Hands, Llanelli fel a ganlyn:-

 

Cais i Ganiatáu:

 

Cyflenwi Alcohol/Oriau Agor

 

Dydd Llun i Ddydd Sul 11.00 – 21:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A –  copi o'r cais gwreiddiol;

Atodiad B - sylwadau'r

AtodiadC  - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

Atodiad D - sylwadau gan bobl eraill.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd at y sylwadau a’r amodau trwydded posibl a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys (atodiad C), a dywedodd fod yr amodau hynny wedi cael eu derbyn gan yr ymgeisydd a'i fod yn cytuno â hwy fel y nodir ar y ddogfen amgaeedig a lofnodwyd. Roedd y derbyn yr amodau hynny hefyd wedi arwain at yr ymgeisydd yn diwygio'r oriau a geisiwyd ar gyfer gwerthu alcohol o ddydd Llun i ddydd Sul 11.00 - 21:00 fel y cyfeiriwyd ato'n gynharach.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cafwyd sylwadau gan dri gwrthwynebwr a ailbwysleisiodd y pwyntiau a godwyd yn eu sylwadau ysgrifenedig a welir yn Atodiad D a oedd yn cynnwys, er enghraifft, cynnydd mewn traffig, yr effaith ar breifatrwydd, s?n ac amharu ar gwsg.

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r gwrthwynebwyr ynghylch eu sylwadau.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd i'r materion a godwyd.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'r Swyddfa Gartref:-

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais am drwydded safle ar gyfer Cartref Gofal Gwernllwyn yn cael ei ganiatáu, wedi'i ddiwygio, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt, a bod amod rhif 1 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:

 

“Bydd y gwerthiant alcohol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn cael ei gyfyngu i breswylwyr y cartref gofal neu eu gwesteion”. [Felly ni fydd y cyfyngiad hwn yn berthnasol ar ddydd Sul.]

 

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor; ;

 

1.   Mae'r safle yn rhan o gartref gofal cofrestredig;

2.   Mae'r safle yn agos at ardal breswyl;

3.   Roedd y safle wedi'i drwyddedu yn y gorffennol, cyn iddo gael ei newid yn gartref gofal;

4.   Ers y newid nid oes cwynion wedi bod am y safle;

5.   Nid oedd dim un o'r awdurdodau cyfrifol wedi gwrthwynebu caniatáu trwydded

6.   Roedd yr ymgeisydd wedi diwygio'r cais a derbyn yr amodau trwyddedu ychwanegol a gynigiwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu a'r Heddlu wedi eu cynnig;

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.

 

Nododd yr Is-bwyllgor nad oedd pryderon ac ofnau am yr hyn a allai ddigwydd pe bai trwydded yn cael ei chaniatáu yn ystyriaethau perthnasol oni bai bod hyn yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth go iawn.

 

Nododd yr Is-Bwyllgor ymhellach ei fod yn ymwneud yn llwyr â'r ardal drwyddedig a'r gweithgareddau trwyddedig yn y safle. Nid oedd yr Is-Bwyllgor yn ymwneud ag ardaloedd eraill o'r safle na gweithgareddau na ellir eu trwyddedu.

 

 

Dogfennau ategol: