Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ar gyfer 2023/24 fel a ganlyn:
· Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
· Mynediad i Addysg
· Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr
· Gwasanaethau Plant
Roedd y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft yn pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w gweithredu ym mhob is-adran er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i amcanion llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth. Yn hyn o beth, cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg at y sesiwn ymgynghori a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2023 a oedd yn gyfle i'r Aelodau roi adborth ar y Strategaeth Gorfforaethol, a gymeradwywyd wedyn gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 01 Mawrth 2023.
O ran y Cynllun Cyflawni Gwasanaeth - Gwasanaethau Plant, cydnabuwyd bod yr elfennau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
· Seicoleg Addysg
· Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
O ystyried y cwricwlwm newydd, cafwyd ymholiad ynghylch y dulliau cymorth sydd ar waith i gynorthwyo ysgolion o ran y gofyniad i gadw cofnodion systematig i roi gwybod am gynnydd a galluogi arferion myfyriol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod mesurau rheolaidd ar waith ar gyfer y flwyddyn bresennol hyd nes i Lywodraeth Cymru ddatblygu amgylchedd data newydd. Rhoddwyd sicrwydd bod yr Awdurdod, ynghyd â Partneriaeth, yn ymateb i'r gofynion newydd i ysgolion gefnogi a dangos tystiolaeth o ddilyniant sgiliau dysgwyr unigol yn unol â'r 6 maes dysgu a phrofiad, a byddai'r system hon yn cael ei chryfhau ymhellach a'i chyflwyno'n gyson ymhlith clystyrau ysgolion.
Roedd yr aelodau yn croesawu'r pwys sy'n cael ei roi ar y gwasanaeth cerdd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a oedd yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol o ran elfen greadigol y cwricwlwm newydd. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod cyllid ychwanegol wedi ei dderbyn i alluogi'r Awdurdod i barhau i ddarparu'r gwasanaeth a chydnabuwyd bod yr Awdurdod mewn sefyllfa gadarnhaol i gael darpariaeth cerddoriaeth fewnol a oedd yn ymateb i anghenion disgyblion a chymunedau. Dywedodd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion fod yr Awdurdod wedi arwain ei gynllun cenedlaethol ei hun ar gyfer cerddoriaeth i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ar gyfer cerddoriaeth yn cyrraedd cynifer o ddysgwyr â phosibl.
Hefyd, roedd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion yn falch iawn o nodi y byddai'r gwasanaeth cerdd yn rhannu datblygiadau digidol yng Nghynhadledd Bett 2023 drwy arddangos pecyn 'soundtrap' a oedd yn cyfuno cerddoriaeth a phrofiadau digidol a ddatblygwyd ar y cyd ag ysgolion yn America. Mewn ymateb i gais, cytunwyd y byddai arddangosiad a diweddariad cyffredinol yn cael eu cynnig i aelodau maes o law.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd wrth y Pwyllgor fod y nifer uchel o benaethiaid a fyddai'n ymddeol yn fuan yn peri risg i'r Awdurdod. Fodd bynnag, roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn falch o nodi bod sawl penodiad o safon uchel wedi'i wneud yn ddiweddar yn unol â threfniadau cynllunio olyniaeth yr Awdurdod a bod gwaith yn parhau i hyrwyddo Cyngor Sir Caerfyrddin fel cyflogwr o ddewis.
PENDERFYNWYD bod y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ar gyfer 2023/24 yn cael eu cymeradwyo a'u cyfeirio at y Cabinet i'w hystyried.
Dogfennau ategol: