Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r Rhaglen Trawsnewid Ysgolion a gyflwynwyd yn 2017 i gynorthwyo ysgolion i wynebu heriau ariannol sylweddol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y rhaglen yn ceisio defnyddio egwyddorion trawsnewid craidd yr Awdurdod o weithio ar y cyd a herio arferion presennol i helpu ysgolion i fanteisio ar gyfleoedd i arbed costau a gwelliannau i wasanaethau, drwy ddull cynaliadwy, ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau, yn ogystal â chynnal deilliannau da i ddisgyblion.
Ar hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn nodi'r cynnydd a oedd wedi'i wneud hyd yn hyn i gyflawni'r meysydd blaenoriaeth allweddol, fel a ganlyn:
· Meincnodi – cynhaliwyd ymarfer meincnodi gwariant arferol a chwricwlwm ar draws ysgolion uwchradd yn 2022/23 i rannu arferion da ymhlith ysgolion.
· Templedi Effeithlonrwydd Ariannol– lluniwyd y templedi hyn i gefnogi trafodaethau â 9 ysgol mewn sefyllfaoedd ariannol heriol.
· Gwasanaeth 'Tasgfan' Eiddo Ysgolion – cynllun peilot 2 flynedd wedi'i ariannu'n llawn ar waith ar draws ysgolion cynradd er mwyn gwella gwerth am arian.
· Adolygiad o'r Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tiroedd Ysgolion – datblygwyd manyleb Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) wedi'i ailfodelu i ddarparu mwy o hyblygrwydd i ysgolion sicrhau arbedion effeithlonrwydd drwy ddarparu dull pwrpasol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
· Gweithredu canfyddiadau'r Adolygiad o Gytundebau Lefel Gwasanaeth ysgolion – darparu dull gweithredu cyson â llinellau cyfathrebu clir er mwyn galluogi ysgolion i ddelio â materion.
· Gweinyddu – Archwilio dulliau newydd, gan ddefnyddio modelau sy'n seiliedig ar glystyrau, o ran swyddogaethau cefn swyddfa a chymorth mewn ysgolion cynradd.
· Caffael - Nodi cyfleoedd i wneud arbedion, gan gynnwys arbedion maint a dulliau o gaffael sy'n sicrhau'r gwerth gorau.
· Cyfathrebu - ymgysylltu'n rheolaidd a rhannu arferion da rhwng ysgolion.
· Arolygon Addasrwydd Ysgolion – lluniwyd templed newydd ac arolygon parhaus o bob ysgol i gefnogi sylfaen dystiolaeth ar gyfer Adolygiad o Gynlluniau Gwella Ysgol.
· Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed - wedi'i ohirio tan 2024 wrth aros am ymchwiliad pellach i'r effaith a'r goblygiadau.
· Modelau ariannu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - ymgysylltu â phenaethiaid i ddatblygu modelau ariannu newydd i gyd-fynd â Thrawsnewid ADY.
· Adolygiad o Ddalgylchoedd Ysgolion i gael ei gynnal yn unol â'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
Yn sgil y cyflwyniad ac mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Rheolwr Trawsnewid a Newid Ysgolion fod yr ymarfer meincnodi ar gyfer 2022/23 wedi'i gwblhau ar gyfer ysgolion uwchradd yn unig oherwydd materion logistaidd a dywedodd mai pwrpas yr ymarfer hwn oedd rhoi gwybodaeth i ysgolion i ysgogi trafodaethau a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau. Cyfeiriwyd at ymarfer meincnodi blaenorol a gynhaliwyd ar draws ysgolion cynradd a oedd wedi'u rhannu yn ôl grwpiau maint. Fodd bynnag, cydnabuwyd na fyddai grwpiau o'r fath o reidrwydd yn adlewyrchu carfanau ysgolion, yn enwedig oherwydd oedran amrywiol ystadau ysgolion, ac roedd hwn yn faes a fyddai'n cael ei ystyried yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai cais yn cael ei wneud i benaethiaid ysgolion uwchradd ddosbarthu gwybodaeth feincnodi i lywodraethwyr ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r wybodaeth a ddarperir gan y Rhaglen Drawsnewid. Hefyd, byddai'r Rheolwr Trawsnewid a Newid Ysgolion yn cael ei wahodd i gyfarfod nesaf y Fforwm Llywodraethwyr i roi trosolwg o'r gwaith a oedd wedi'i wneud.
Mewn ymateb i sylw am drefniadaeth ysgolion cynradd a rôl gyfyngedig ganfyddedig cyrff llywodraethu, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod deddfwriaeth yn pennu'r ystod o gyfrifoldebau ar gyfer ysgolion cynradd, trwy gyfrwng darpariaeth cyllideb ddirprwyedig. Yn unol â hynny, roedd y model Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) yn galluogi ysgolion i brynu gwasanaethau o wahanol adrannau yn ôl y maes arbenigedd. Felly, roedd rôl y Rhaglen Drawsnewid yn canolbwyntio ar sicrhau ansawdd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r Cytundebau Lefel Gwasanaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael i ysgolion.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gallu i roi cymorth unigol i ysgolion mewn perthynas â materion cyllidebol a gwasanaethau cynnal a chadw eiddo, eglurodd y Rheolwr Trawsnewid a Newid Ysgolion fod cymorth yn cael ei ddarparu yn unol â'r adnoddau sydd ar gael ac yn cael ei flaenoriaethu gan yr Awdurdod Lleol.
Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed ynghylch y gallu i gyflawni nodau'r Rhaglen Trawsnewid Ysgolion, roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn falch o nodi bod cyllid wedi ei ddarparu i secondio dau bennaeth i roi cymorth rhan-amser i yrru'r Rhaglen Trawsnewid Ysgolion yn ei blaen.
Cyfeiriwyd at y sesiynau 'galw heibio' i benaethiaid a gyflwynwyd i gyfathrebu ac ymgysylltu ag ysgolion. Esboniodd y Rheolwr Trawsnewid a Newid Ysgolion fod bwletinau wythnosol yn cael eu dosbarthu i ysgolion i hyrwyddo'r meysydd i'w trafod, felly byddai lefelau presenoldeb yn dibynnu ar lefel diddordeb ysgolion yn y maes ffocws.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Rheolwr Trawsnewid a Newid Ysgolion, er y byddai'r newid yn y system teleffoni ar draws ysgolion yn gofyn am gost gychwynnol, y byddai ysgolion yn derbyn galwadau am ddim ar ôl hynny, a fyddai'n arwain at arbedion ariannol hirdymor.
Diolchodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant i'r Rheolwr Trawsnewid a Newid Ysgolion am y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei ddatblygu i gefnogi'r ysgolion yn Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: