Agenda item

CYNLLUNIAU DRAFFT CYFLAWNI GWASANAETH 2023-24: GWSANAETH INTEGREDIG, TÎM COMISYNU A CHYMORTH BUSNES & GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION

Cofnodion:

[Bu i'r Cynghorydd J.P. Jenkins ddatgan diddordeb cyn i'r Pwyllgor ystyried y Cynllun Cyflawni Drafft ar gyfer Cymorth Busnes a Chomisiynu. Arhosodd yn y cyfarfod ond ni bleidleisiodd.]

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Cynlluniau Cyflawni Rhanbarthol Drafft ar gyfer Gwasanaethau Integredig, Comisiynu a Chymorth Busnes a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r cynlluniau hyn yn pennu'r camau a'r mesurau strategol y byddai'r gwasanaethau o fewn yr Is-adran hon yn eu gweithredu er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i Amcanion Llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth.

 

Nodwyd bod camau a mesurau ar gyfer cyflawni Ymrwymiadau Datganiad Gweledigaeth y Cabinet hefyd wedi'u cynnwys. 

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau.  Dyma'r prif faterion:

 

Cynllun Gwasanaethau Integredig

·    Mewn ymateb i eglurhad ynghylch Clwstwr Teifi, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod ardaloedd y Byrddau Iechyd yn wahanol i ardaloedd y Siroedd. O safbwynt cynllunio'r Bwrdd Iechyd, er bod rhan Teifi o'r clwstwr yn dod o dan Sir Ceredigion, cyfrifoldeb Sir Gaerfyrddin oedd y swyddogaeth Gofal Cymdeithasol. Dywedwyd nad oedd hyn yn cael effaith real ar wasanaethau, ar wahân i weithio gyda thîm gwahanol ar gyfer yr ardal arbennig honno o'r Sir.

·    Mewn ymateb i bryder a godwyd ynghylch risg LAS0002 a'r ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi'r gorau i'w gyfraniadau tuag at leoliadau Adran 117 ar gyfer pobl h?n ac anableddau corfforol, esboniodd swyddogion fod hyn yn benodol ar gyfer gofal preswyl a bod cyllid yn ddibynnol ar y math o gr?p cleientiaid. Nodwyd bod rhaniad 50/50 o safbwynt oedolion ifanc. O safbwynt pobl h?n/anabledd corfforol, roedd trefniant gwahanol wedi bod ar waith gan y Bwrdd Iechyd am gyfnod ac roedd ymdrechion wedi'u gwneud ar lefel ranbarthol i gael tegwch ar draws y gwahanol grwpiau cleientiaid. Roedd gwaith wedi dechrau ar ddatblygu polisi traws-asiantaeth rhanbarthol, a oedd yn cynnig rhaniad 50/50 ar draws yr holl grwpiau, ond yn anffodus penderfynodd y Bwrdd Iechyd gyhoeddi polisi Bwrdd Iechyd yn unig yn hytrach na pholisi partneriaeth. Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am i lythyr gael ei anfon at y Bwrdd Iechyd yn mynegi eu pryderon yngl?n ag annhegwch y trefniadau cyllido hyn.

·    Dywedodd swyddogion mai dehongliad yr Awdurdod yn gyfreithiol oedd y dylid rhannu'r cyllid Adran 117 50/50 rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, roedd dehongliad y Bwrdd Iechyd yn wahanol. Eglurwyd ymhellach fod Adran 117 mewn perthynas ag adran benodol o'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Pe bai person yn cael ei gadw yn yr ysbyty o dan rai adrannau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl byddai ganddynt yr hawl i ôl-ofal. Fel Awdurdod Lleol, y nod oedd edrych ar gysondeb ar draws yr holl wasanaethau.

·    Yn unol â Gweledigaeth y Cabinet i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig di-dor lle bynnag y bo modd, dywedwyd bod gan Hywel Dda raglen, yr oedd llawer o oedi wedi bod mewn perthynas â hi, i agor canolfan iechyd amlddisgyblaethol yn Cross Hands a fyddai'n arwain at gau sawl meddygfa yn yr ardal. Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod wedi ymgynghori â'r Bwrdd Iechyd ynghylch darparu cyfleusterau yn y ganolfan. Mewn ymateb dywedodd swyddogion fod y rhaglen wedi cyrraedd cam olaf yr achos busnes a bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig. Byddai'r ganolfan yn ganolfan integredig aml-asiantaeth a fyddai'n cynnwys yr Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau'r Heddlu. Byddai'r ganolfan yn cynnwys ystod eang o wasanaethau wedi'u hintegreiddio'n llawn ac yn safle i'r meddygfeydd presennol a oedd wedi'u lleoli ar hyn o bryd mewn safleoedd nad oeddent bellach yn addas at y diben. Byddai cydleoli yn creu gwasanaeth mwy gwydn a byddai manteision economaidd.

·    Gofynnwyd a allai Rhagnodwyr Cymdeithasol fod allan yn y gymuned yn fwy ac mewn cysylltiad â phobl nad oedd angen ymweld â'r feddygfa arnynt o reidrwydd. Eglurwyd bod y model presennol yn seiliedig ar atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu ac yn dal i fod yn brosiect cymharol newydd. Dywedwyd bod y gwasanaeth ar waith bellach ar draws y sir, a'r gobaith yn y pen draw oedd ei ddatblygu i alluogi atgyfeiriadau o ffynonellau ehangach. Ar hyn o bryd, y flaenoriaeth oedd rheoli'r galw presennol gan feddygfeydd.   

·    Mewn ymateb i eglurhad am y ffigyrau gwariant ar gyfer Cwm Aur, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai Cwm Aur oedd un o'r cynigion a gytunwyd gan y Cyngor ar gyfer gwneud arbedion. Pobl oedd yn gweithredu'r cynllun, ac yn anffodus nid oedd digon yn byw yn y fflatiau, a oedd yn golygu bod y model yn gostus iawn i'w redeg. Dywedwyd bod trefniadau gofal amgen mwy cost-effeithiol yn cael eu rhoi ar waith. Byddai hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio fframweithiau gofal cartref presennol.

 

Cynllun Cymorth Busnes a Chomisiynu

·    Gan gyfeirio at y tîm adfer dyledion, gofynnwyd cwestiwn ynghylch faint o ddyled oedd gan yr Awdurdod ar hyn o bryd. Dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes fod angen iddo gadarnhau'r lefel bresennol a rhoddodd wybod i'r Pwyllgor ei fod yn gymhleth oherwydd y taliadau gohiriedig oedd yn cronni bob dydd. Cadarnhaodd y byddai'r wybodaeth yn cael ei rhannu a dywedodd mai tua £16m y flwyddyn oedd y gyllideb am ffioedd preswyl, ac ar unrhyw adeg gallai fod tua 5% o'r gyllideb sydd heb ei thalu fel dyled ddrwg. Rhoddwyd sicrwydd bod ymyriadau cynnar wedi'u targedu ar waith yn y tîm adfer dyledion, mewn ymgais i'w atal rhag mynd yn ddyled ddrwg.

 

Cynllun Gofal Cymdeithasol i Oedolion

·    Gan gyfeirio at garreg filltir M4 a'r risg gysylltiedig, gofynnwyd am ddiweddariad ar ddatblygu'r ailfodelu a thyfu gwasanaeth gofal cartref mewnol safonol, cynaliadwy ac effeithiol.  Dywedodd swyddogion fod problemau recriwtio a chadw staff wedi bod, ond bod y sefyllfa wedi gwella. Roedd ymgyrchoedd recriwtio a digwyddiadau pwrpasol yn cael eu trefnu ac roedd cynlluniau ar waith eisoes i gynyddu gwasanaethau mewnol.

·         O ran pryder ynghylch y gallu i gyflawni cyfrifoldebau deddfwriaethol oherwydd methu recriwtio a chadw'r gweithlu (yn enwedig mewn perthynas â gofal cartref, gwaith cymdeithasol a Gweithwyr Proffesiynol Cymeradwy ym maes Iechyd Meddwl (AMHPs), cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion bod hyn yn bryder a bod ffocws ar gael staff presennol i hyfforddi / ennill cymwysterau a byddai'n rhaid i staff, yn ôl eu contract, barhau i weithio i'r Awdurdod am o leiaf 3 blynedd ar ôl ennill eu cymhwyster.

 

PENDERFYNWYD:

5.1

Bod llythyr yn cael ei anfon i'r Bwrdd Iechyd yn mynegi pryderon ynghylch annhegwch y trefniadau cyllido presennol o ran Adran 117.

5.2

Bod y cynlluniau cyflawni drafft 2023-24 ar gyfer Gwasanaethau Integredig, Cymorth Busnes a Chomisiynu a Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn cael eu derbyn.

 

 

Dogfennau ategol: