Agenda item

AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG - PREMIYMAU TRETH Y CYNGOR

Cofnodion:

Yn dilyn dadl a allai'r mater o fabwysiadu premiwm ar ail gartrefi, y cyfeirir ato yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, gael ei ystyried a'i benderfynu ar wahân i fabwysiadu premiwm ar eiddo gwag, y cyfeirir ato hefyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, cafodd ei gynnig a'i eilio a

 

PHENDERFYNWYD bod yr adroddiad ar Bremiymau'r Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag yn cael ei ystyried fel y'i dosbarthwyd.

 

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K.V. Broom, M. James, D.M. Cundy, S.A. Curry, H.A.L. Evans, L.D. Evans, B.D.J. Phillips ac E. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach gan adael y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.] Roedd y Cynghorydd K.V. Broom wedi cael gollyngiad i siarad ond nid pleidleisio ac roedd wedi parhau yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ond cafodd ei rhoi yn yr ystafell aros adeg y bleidlais.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i fabwysiadu premiymau ar ail gartrefi ac eiddo gwag. Dywedodd fod dros 800 o ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin a 1,800 o dai sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn o leiaf - a nifer ohonynt ers blynyddoedd lawer.  Dywedodd fod y ddau gategori o eiddo yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol a phwrpas yr adroddiad oedd naill ai annog mwy o ddefnydd o'r eiddo yma neu sicrhau bod eu perchnogion yn cyfrannu mwy tuag at gymunedau lleol trwy bremiwm y Dreth Gyngor.

 

Yn achos eiddo gwag tymor hir soniodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau am yr effaith negyddol yr oeddent yn ei chael ar strydoedd, yn aml yn destun fandaliaeth ac yn adnodd oedd yn cael ei wastraffu. Wrth droi'r rhain yn gartrefi unwaith eto dylai hyn arwain at lai o alw am adeiladu tai newydd ar gaeau gwyrdd. Rhoddodd ganmoliaeth i'r cyngor bod 700 o dai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto ers 2016 ac roedd o'r farn bod angen polisi newydd i wella ymhellach. Dywedodd fod y Cyngor wedi ymgynghori'n eang ar y mater hwn gyda 61% o'r ymatebwyr yn cytuno bod tai gwag tymor hir yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol gyda'r mwyafrif yn cytuno y dylid codi premiwm. Cynigwyd codi premiwm o 50% ar dai oedd wedi bod yn wag rhwng blwyddyn a dwy flynedd, gan godi i 100% rhwng dwy a phum mlynedd, ac i 200% ar ôl pum mlynedd.

O ran ail gartrefi, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod yr ateb, yn rhannol, yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014, a gafodd ei diwygio a'i chryfhau'n ddiweddar. Nod y ddeddfwriaeth yw sicrhau bod ail gartrefi, sy'n llety gwyliau, naill ai'n cael  eu gosod am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn, a fydd yn rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth, neu fod perchnogion yn talu premiwm ar y Dreth Gyngor. Awgrymodd y gallai'r cyfraniad hwn leddfu effaith negyddol Ail Gartrefi pan oeddent yn lleihau'r stoc dai leol a chynyddu prisiau tai i'r graddau nad oedd hyd yn oed gweithwyr hanfodol fel nyrsys ac athrawon yn gallu fforddio byw yn y cymunedau yr oeddent wedi'u magu ynddynt.

Cafodd ei gynnig felly i godi premiwm o 50% ar ail gartrefi i ddechrau, gyda'r bwriad o'i godi i 100% ym mis Ebrill 2025, a'r premiwm ar Gartrefi Gwag fel y nodwyd yn gynharach. Roedd rhaid gwneud y penderfyniad i godi premiwm ar Ail Gartrefi a Thai Gwag Tymor Hir o leiaf blwyddyn gyfan ymlaen llaw a phetai'r argymhellion yn cael eu derbyn byddai'r polisi yn dod i rym ym mis Ebrill 2024.

Erbyn y flwyddyn 2025/26 amcangyfrifwyd y gallai'r premiymau godi hyd at £3miliwn yn ddibynnol ar ymateb perchnogion, byddai hyn yn helpu'r Cyngor i gynnal gwasanaethau hanfodol mewn cyfnod o bwysau ariannol mawr - er mai'r prif nod oedd annog gwell defnydd o dai. Roedd asesiad effaith hefyd wedi'i gynnal i asesu'r effaith ar yr iaith Gymraeg, ar ddirywiad byw yng nghefn gwlad, ar brisiau tai a hefyd ar yr agenda carbon sero net a ffactorau eraill. Dywedwyd wrth y Cyngor, cyn i'r mesurau gael eu gweithredu y byddai unrhyw effaith bosib ar y diwydiant twristiaeth yn cael ei thrafod, gan gynnwys y rhai y dylid eu heithrio o'r premiwm a rhai nad oeddent eisoes o fewn y dosbarthiadau eithrio presennol a nodwyd. 

Cafodd ei gynnig a'i eilio'n briodol bod yr adroddiad a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i argymhelliad 3 yn yr adroddiad gan y Cynghorydd R. James ac fe'i heiliwyd:

 

“Gofynnir i'r Cyngor gymeradwyo ac argymell premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag tymor hir fel a ganlyn:

• Premiwm 100% ar gyfer eiddo gwag > 1 flwyddyn < 2 flynedd;

• Premiwm 50% ar gyfer eiddo gwag > 2 flynedd< 5 mlynedd;

• Premiwm 200% ar gyfer eiddo gwag > 5 mlynedd”.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig ac ar ôl cynnal pleidlais, 

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r gwelliant i'r Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant pellach canlynol i argymhelliad 3 yn yr adroddiad gan y Cynghorydd R. James ac fe'i heiliwyd:

 

“Mae'r 2 ddosbarth eithrio ychwanegolcanlynol o'r premiwm ar ail gartrefi yn cael eu hychwanegu at y 7 dosbarth o anheddau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad:

·       Mae pob adeilad ac eiddo ar dir amaethyddol wedi'u heithrioo'r premiwm;

·       Llety gwyliau a busnesau hunanarlwyo;

A bod y Gr?p Trawsbleidiol yn asesu'r 2 ddosbarth yma o eithriadau cyn eu cyflwyno yn 2024.”

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig ac ar ôl cynnal pleidlais, 

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r gwelliant i'r Cynnig.

 

Yna, fe wnaeth y Cyngor ystyried y cynnig gwreiddiol a gafodd ei gynnig a'i eilio a

 

PHENDERFYNWYD:

 

6.1bod Premiwm y Dreth Gyngor yn cael ei gymhwyso / ei godi ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir fel y'i diffinnir gan Adrannau 12A a12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth leol 1992, fel y'i nodwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014;

 

6.2bod premiwm y dreth gyngor o 50% yn cael ei godi yn 2024/25 mewn perthynas ag ail gartrefi gyda'r bwriad o gynyddu'r premiwm i 100% o Ebrill 2025;

 

6.3i gymeradwyo premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag tymor hir fel a ganlyn:

•Premiwm50% ar gyfer eiddo gwag > 1 flwyddyn < 2 flynedd

•Premiwm 100% ar gyfer eiddo gwag > 2 flynedd< 5 mlynedd

•Premiwm 200% ar gyfer eiddo gwag > 5 mlynedd;

 

6.4bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol i weithredu'r newidiadau ac i hysbysu perchnogion yr holl eiddo yr effeithir arnynt;

 

6.5 bod y premiymau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau a bod unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor i'w cymeradwyo fel y bo'n briodol. 

 

 

Dogfennau ategol: