Agenda item

DATGANIAD POLISI TALIADAU 2023-2024

Cofnodion:

[SYLWER:

1.    Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, J.M. Charles, M.D. Cranham, S. Godfrey-Coles, D.M. Cundy, B. Davies, L.M. Davies, T. Davies, A. Evans, H.A.L. Evans, L.D. Evans, N. Evans, R.E. Evans, J.P. Hart, T.M. Higgins, P.M. Hughes, J.D. James, R. James, G.H. John, A.C. Jones, H. Jones, A. Leyshon, K. Madge, D. Nicholas, M. Palfreman, B.A.L. Roberts ac F. Walters wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac felly nid oeddent yn bresennol yn ystod yr eitem;

2.  Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a'r swyddogion a oedd yn  hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod.

   3. Gan fod yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod, cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad ar ei ran.]

Cyn i'r rhai uchod adael y cyfarfod, a oedd yn cynnwys y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, cynigiwyd ac eiliwyd a

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r Cynghorydd Dot Jones yn cael ei phenodi i Gadeirio'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad ar ran yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu a amlinellai bod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1  Ebrill bob blwyddyn.   

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn wahanol i lawer o Awdurdodau, fod gan Gyngor Sir Caerfyrddin Banel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl a oedd yn gytbwys yn wleidyddol, sydd eisoes wedi ystyried a chynghori ar y Datganiad Polisi Tâl. Ychwanegodd fod fformat y Datganiad yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a'r arfer gorau a ddatblygwyd gan cyn-Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus. Nid oedd y Datganiad Polisi Tâl eleni yn wahanol iawn i'r hyn a gyflwynwyd yr adeg hon y llynedd. Y prif newidiadau oedd bod cyflwyniad yr Arweinydd, a'r Prif Weithredwr wedi'u diweddaru, roedd hyn yn adlewyrchu'r gofynion gwahanol iawn a oedd ar y Cyngor, ar ôl pandemig COVID-19 a'r pwysau economaidd ac ariannol presennol yr oedd cymdeithas yn gyffredinol yn eu hwynebu.

 

Dymuniad yr Awdurdod oedd parhau i gefnogi'r cyflogau isaf, drwy sicrhau bod trothwy'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei fodloni drwy dalu'r hyn sy'n cyfateb i £10.90 yr awr o 1 Ebrill 2023. Roedd Dyfarniad Cyflog 22/23 hefyd yn dileu pwynt 1 y graddfeydd cyflog ac felly y gyfradd isaf fesul awr fyddai £10.59. Roedd y Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl felly wedi argymell y dylid parhau â'r cymorth i'r rhai ar y cyflog isaf drwy dalu tâl atodol i gynyddu'r cyfraddau fesul awr hyd at y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol o £10.90..

 

Bu'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn sôn am y cymorth pellach i staff sy'n derbyn y tâl isaf, yn enwedig ein Gweithwyr Gofal Cartref a Gofal Preswyl a Llwythwyr Sbwriel a Gyrwyr. Roedd yr Undebau Llafur wedi mynegi problem gyda chyflog a graddau'r Llwythwyr Sbwriel a gyrwyr loriau sbwriel dros flwyddyn yn ôl. O ganlyniad roedd y proffiliau swyddi ar gyfer y ddau wedi'u diwygio i adlewyrchu'r dyletswyddau newydd y byddai'r ddau set o weithwyr yn ymgymryd â nhw er mwyn cyflawni disgwyliadau'r Strategaeth Wastraff newydd. Roedd y ddau wedi gweld cynnydd yn eu graddau, gyda'r Llwythwyr Sbwriel yn mynd o Radd C i Radd D, a'r Gyrwyr yn mynd o Radd E i Radd F. Wrth gymharu cyflogau Ebrill 2023 â'r un cyfnod y llynedd roedd hyn yn gynnydd mewn cyflog o 24% i'r llwythwyr sbwriel. Wrth gymharu â'r adeg yma'r llynedd byddai cyfanswm y cynnydd yn eu cyflog i’r gyrwyr yn 27% yn gyffredinol. Gan gofio nad oedd dyfarniad cyflog 2023/24 wedi'i gytuno eto. Roedd yr undebau llafur wedi cadarnhau eu bod yn dal mewn anghydfod gyda'r awdurdod ar y mater hwn a'u bod yn bwriadu gofyn i'w haelodau bleidleisio ar y mater.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl wedi ystyried nifer o Opsiynau ynghylch y Model Cyflog i gynnwys un a oedd yn adlewyrchu dileu Pwynt Un ar y Raddfa oherwydd cytunwyd ar hyn yn genedlaethol, ar gost ychwanegol o £10k. Roedd y Model Cyflog yr oedd yr Undebau Llafur yn ei ffafrio a'r un gyflwynwyd ganddynt yn cynnwys dileu'r holl raddau sy'n gorgyffwrdd a hefyd lleihau nifer y pwyntiau ar y raddfa fesul gradd i ddau. Roedd cost yr opsiwn yma bron yn £5 miliwn. Roedd y Panel wedi ystyried yr heriau a ddaeth yn sgil polisïau economaidd y Llywodraeth yn yr Hydref a oedd wedi arwain at yr Awdurdod o bosibl yn wynebu diffyg yn ei gyllideb o tua £40m. Ystyriwyd, felly, nad oedd gan y Cyngor fawr o ddewis ond defnyddio'r gyllideb hyd at frig y raddfa gyflog yr oedd yr Undebau Llafur wedi dibynnu arni i ariannu'r model a ffafriwyd ganddynt er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys.

 

Roedd y Panel hefyd wedi ystyried Model Cyflog a oedd yn dileu'r graddau sy'n gorgyffwrdd ar gost amcangyfrifedig o £2.5m, model cyflog pellach a oedd yn dileu'r graddau sy'n gorgyffwrdd hyd at ac yn cynnwys Gradd F, ar gost amcangyfrifedig o £1.25m, ac, yn olaf, Model cyflog a oedd yn dileu'r graddau sy'n gorgyffwrdd hyd at ac yn cynnwys Gradd D, ar gost amcangyfrifedig o £200k. Roedd yn derbyn yr anawsterau ariannol yr oedd yr Awdurdod, fel pob Awdurdod arall, yn eu hwynebu, ond roedd wedi mynegi ymrwymiad i adolygu gwaelod y raddfa gyflog yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ac o bosib ystyried 'dull fesul cam' o weithredu unrhyw newidiadau. Roedd aelodau'r Panel wedi gofyn am gynnal adolygiad o fodel cyflogau presennol yr Awdurdod yn y flwyddyn ariannol nesaf, i ystyried y cyflog byw cenedlaethol statudol yn ogystal â'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol.

 

Atgoffwyd y Cyngor nad oedd cyflog athrawon yn rhan o gwmpas y datganiad polisi tâl hwn gan fod gan athrawon eu polisi tâl eu hunain yr oedd yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion ei fabwysiadu.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl am 2023-24 yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

[Daeth yr aelodau a oedd wedi datgan diddordeb yn gynharach yn ôl i'r cyfarfod a daeth y Cynghorydd R.E. Evans i'r Gadair]

 

Dogfennau ategol: