Bu'r
Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o'r Strategaeth Coed a Choetir
ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin 2023-2028. Cyflwynwyd y Strategaeth
gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a
Chynaliadwyedd.
Roedd y
strategaeth yn rhoi sylw i gyfrifoldebau'r Awdurdod o ran rheoli
coed a choetiroedd yn ogystal â chyfleoedd i blannu coed
newydd.
Nododd
y Pwyllgor fod y strategaeth yn gyson â Phecyn Cymorth y
Strategaeth Coed a Choetir ar gyfer Awdurdodau Lleol. Roedd Strategaeth Clefyd Coed Ynn yr Awdurdod
wedi'i chynnwys fel atodiad i'r adroddiad.
Gwnaed
nifer o sylwadau/ymholiadau. Dyma'r
prif faterion:-
- Nodwyd bod yr Awdurdod yn cynnig plannu 33 hectar o goetir bob
blwyddyn ac o leiaf 10% ar ffermydd yr Awdurdod â
thenantiaid. Cwestiynwyd ymarferoldeb cyflawni'r targed hwn o 10%.
Rhoddodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wybod bod y ffigur o 10%
erbyn 2030 yn gyson â chynllun ffermio cynaliadwy newydd
gwirfoddol Llywodraeth Cymru. Roedd y targed o 10% yn uchelgeisiol
ond byddai'n rhaid i'r ffermwyr a gofrestrodd i fod yn rhan o'r
cynllun cymorth ffermio newydd gydymffurfio ag ef.
- Mynegwyd pryder am blannu 33 hectar o goetir newydd y flwyddyn
a'r effaith ar y ffermydd â thenantiaid a oedd yn fach o ran
maint. Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros
Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd sicrwydd i'r
Pwyllgor y byddai'r strategaeth yn cael ei llunio drwy roi'r goeden
iawn yn y lle iawn am y rheswm iawn. Dywedodd y byddai adborth yn
cael ei groesawu wrth i'r strategaeth gael ei datblygu ymhellach.
Yn ogystal, nodwyd bod y ffigur o 19% o orchudd coed ar gyfer tir
sy'n eiddo i'r Cyngor yn cyd-fynd ag argymhellion gan Bwyllgor y DU
ar Newid Hinsawdd a Choed Cadw ond nad oedd yn statudol. Byddai
pwyslais hefyd ar blannu coed mewn ardaloedd trefol.
- Gofynnwyd sut y byddai llwyddiant y plannu'n cael ei fesur,
megis yr effaith ar yr amgylchedd, a chyfrif adar ac
anifeiliaid. Dywedodd y Pwyllgor y
byddai cyfrifiadau ar gyfer dal carbon yn cael eu defnyddio ac y
byddai'r holl rychwant o fanteision yn cael eu hystyried gan
gynnwys lleihau llifogydd a d?r ffo.
- Pwysleisiodd y Pwyllgor fod angen ystyried yn ofalus y
goblygiadau o ran plannu coetiroedd, oherwydd ar ôl plannu ni
fyddai modd defnyddio'r tir ar gyfer ffermio a byddai llai o fwyd
yn cael ei gynhyrchu. Byddai'r math o
goed y byddai'r Cyngor yn bwriadu eu plannu yn bwysig gan fod tir o
dan gonwydd yn ddifywyd. Dywedwyd y byddai canran uchel o goed
llydanddail a llwyni newydd yn cael eu plannu ond y gallai rhai
pinwydd yr Alban fod yn rhan o'r gymysgedd oherwydd eu gwerth
tirweddol.Pwysleisiwyd y byddai'r gwaith plannu'n cael ei wneud
mewn modd sensitif, a hynny fesul safle.
- Dywedwyd bod coed llydanddail yn cymryd degau o flynyddoedd i
gloi carbon, a bod argyfwng hinsawdd dybryd. Awgrymodd y Rheolwr
Cadwraeth Cefn Gwlad y gallai coed llydanddail gloi mwy o garbon yn
y pen draw na chonwydd, a dyfodd yn gyflymach, a bod angen
defnyddio dull gofalus.
- Mewn ymateb i ddatganiad bod glaswelltir a reolir yn dda yn
atafaelu mwy o garbon na choed, rhoddodd yr Aelod Cabinet dros
Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wybod y byddai'n
croesawu trafodaeth i ystyried y dystiolaeth i gefnogi'r honiad o
ran glaswelltir.
- Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y mesurau roedd
yr Awdurdod yn eu cymryd mewn perthynas â chlefyd coed ynn ar
dir preifat. Cafodd y Pwyllgor wybod y gallai'r Awdurdod wneud
gwaith ar ran y tirfeddiannwr pe bai'r goeden yn fygythiad i'r
ffordd fawr. Byddai'r tâl yn cael
ei ailgodi ar y tirfeddiannwr am y gost.
- Mewn ymateb i bryder ynghylch gwerthu coetiroedd preifat a'r
posibilrwydd o'r coed hynny'n cael eu torri, rhoddwyd gwybod i'r
Pwyllgor na chaniateir clirio coetiroedd yn llwyr ac y byddai angen
i dirfeddianwyr wneud cais i Gyfoeth Naturiol Cymru am drwydded
cwympo coed.
- Dywedwyd bod pobl ifanc yn bryderus am newid hinsawdd ac y
dylid cyflwyno'r strategaeth coed a choetir newydd mewn ysgolion ac
i'r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Ailbwysleisiodd yr Aelod Cabinet
dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod y
strategaeth yn cynnwys gwaith cymunedol. Hefyd dywedwyd bod
ymgysylltu â'r gymuned yn rhan ganolog o gael arian
grant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Strategaeth Coed a
Choetir 2023-28 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.