Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2023/24 - 2027/28

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2023/24 hyd at 2027/2028. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, wrth gyflwyno'r adroddiad, byddai £265m yn cael ei fuddsoddi dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o'r rhaglen newydd; £73m ohono ar gyfer gwella adeiladau ysgolion, £27m ar gyfer prosiectau Adfywio i hybu gweithgarwch economaidd, £86m i brosiectau a gefnogir gan y Fargen Ddinesig (sy'n cynnwys canolfan hamdden newydd ar gyfer Llanelli), a £59m i wella seilwaith economaidd lleol a'r amgylchedd ehangach.  Dywedodd fod y rhaglen gyfalaf dros dro fanwl wedi ei chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol, ac, yn dilyn pryderon ynghylch diffyg darpariaeth ar gyfer atal llifogydd a diffyg arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau datgarboneiddio, fod y rhaglen wedi ei diwygio i gynnwys ymrwymiadau pellach yn y maes hwn.  

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y rhaglen yn cynnwys tri phrosiect trawsnewidiol parhaus, yr oedd pob un yn canolbwyntio ar brif dref wahanol.     

 

·       Hwb gwerth £19.6m (hen siop Debenhams) yng nghanol tref Caerfyrddin, a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref wrth i'r sir adfer yn dilyn y pandemig;   

·       buddsoddiad o £19m i gwblhau Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo;

·       cam adeiladu Parth 1 datblygiad Pentre Awel yn Llanelli, a fydd yn creu pum adeilad gwahanol sy'n gysylltiedig â "stryd", a fydd yn cynnwys canolfan gweithgareddau d?r, neuadd chwaraeon, ystafelloedd chwaraeon a ffitrwydd amlbwrpas a champfa, cyfleusterau addysg a hyfforddiant, darpariaeth glinigol ac ymchwil ac arloesi a lle i fusnesau.  

 

Yn ogystal â'r prosiectau blaengar mawr hyn, byddai'r Cyngor yn parhau i gefnogi ei raglenni buddsoddi mewn seilwaith a phortffolio eiddo'r awdurdod ym mlwyddyn pump y rhaglen. Byddai'r cymorth hefyd yn parhau i Ysgolion a Chymunedau Cynaliadwy ar gyfer  Dysgu Sir Gaerfyrddin. Dywedwyd bod gwaith dichonoldeb wedi bod yn mynd rhagddo ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ar sawl ysgol, ac felly nid oedd y prosiectau hynny wedi'u rhestru  fel rhan o'r rhaglen newydd hon. At hynny nid oedd yr ysgolion cynradd yn Rhydaman, a oedd yn rhan o'r rhaglen, wedi'u rhestru hyd yn hyn, gan eu bod yn rhan o geisiadau Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM), ac felly roedd yn bosibl byddent yn cael eu darparu ar y cyd â phartneriaid yn y sector preifat a fyddai'n cael eu hariannu trwy refeniw maes o law.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn ogystal â'r prosiectau blaengar a amlinellwyd, y byddai'r Awdurdod yn ceisio parhau i gefnogi ei raglenni treigl parhaus o fuddsoddiadau yn y seilwaith canlynol a phortffolio eiddo'r awdurdod ym mlwyddyn pump y rhaglen:

 

£2.5m ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl;

£250k i wella Diogelwch ar y Ffyrdd;

£250k ar gyfer draenio priffyrdd;

£400k ar gyfer cryfhau pontydd;

£600k ar gyfer Adnewyddu Priffyrdd yn barhaus;

£400k ar gyfer Goleuadau Cyhoeddus;

£500k ar gyfer Gwaith Cyffredinol Addysg gan gynnwys addasiadau i gydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb;

£2m ar gyfer Cronfa Prosiect Adfywio Strategol;

£3m ar gyfer Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn ein hystad eiddo.

 

Gyda'i gilydd, dros y pum mlynedd nesaf, byddai mwy na £48m yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglenni treigl hyn.

 

Y farn oedd bod y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd cyllido a'r cyllid gan ffynonellau allanol posibl. Byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol, yn unol â'r weledigaeth gorfforaethol, yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd trigolion Sir Gâr ac ymwelwyr, gan ddiogelu adnoddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai oddeutu £168m o arian y Cyngor Sir oedd ar gael ar gyfer y rhaglen hon ar hyn o bryd, a'i fod yn cynnwys benthyca, wedi'i gynnal a heb ei gynnal, cronfeydd wrth gefn a chyllid refeniw uniongyrchol, a Derbyniadau Cyfalaf yn sgil gwerthu asedau nad oedd eu hangen mwyach. Byddai grantiau cyfalaf a chyfraniadau o £100m yn dod o gyrff arian grant allanol. Fel rhan o setliad eleni, roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu ffigurau dangosol o ran cyllid cyfalaf cyffredinol hyd at 2024/25.  Adlewyrchwyd hyn yn y rhaglen. Roedd y cyllid ar gyfer blynyddoedd tri, pedwar a phump y rhaglen yn seiliedig ar lefel dybiedig o gymorth sy'n cyfateb i'r hyn a dderbyniwyd yn 2024/25 wrth symud ymlaen.  Dywedwyd bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 £55K yn llai na'r hyn  roeddid yn ei ddisgwyl o'r blaen. Roedd lefel gyffredinol yr arian tybiedig ym mlynyddoedd diweddarach y rhaglen ychydig yn fwy na'r ymrwymiadau presennol. Byddai'r cyllid nas ymrwymwyd hwn yn caniatáu hyblygrwydd i helpu â phwysau yn y dyfodol a fyddai'n gysylltiedig â chostau cynyddol a heriau eraill.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet y byddai'r swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol a'r cyllid oedd ar gael. Tra byddai angen rheoli'r ddwy elfen hyn yn agos i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, roedd y rhaglen yn cael ei chyllido'n llawn am y pum mlynedd.  

 

I gloi roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn credu bod y Rhaglen Gyfalaf, fel yr amlinellwyd hi, yn ceisio gwneud y mwyaf o gyfleoedd ac felly roedd yn argymell ei chymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

6.1 cymeradwyo'r cyllid a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, gyda 2023/24 yn gyllideb bendant a 2020/21 i 2023/24 yn gyllidebau amhendant/dangosol;

6.2 adolygu'r rhaglen, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid Cyngor Sir neu allanol disgwyliedig;

6.3 cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf yn Atodiad C i'r adroddiad;

6.4 bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2023.

 

 

Dogfennau ategol: