Agenda item

TRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2023/24 I 2025/26

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn cyflwyno'r cynigion diweddaraf ar gyfer y Strategaeth Cyllideb Refeniw am 2023/24 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, wrth gyflwyno'r adroddiad, er na fyddai ffigurau setliad blynyddol terfynol Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi tan 1 Mawrth 2023, fod prif elfennau rhagdybiaethau a dyraniadau cyllideb y Cyngor wedi'u hadolygu a bod hynny wedi arwain at hyblygrwydd yn y gyllideb. Felly roeddid wedi edrych eto ar rai o'r cynigion yn yr amlinelliad o'r gyllideb wreiddiol a rhoddwyd ystyriaeth i opsiynau pellach. 

 

Roedd manylion llawn y setliad dros dro wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ond roedd y pennawd ar sail Cymru gyfan. Roedd cyllid y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cynyddu 7.9%, ac roedd Sir Gaerfyrddin yn cael cynnydd o 8.5%.

Er bod hyn wedi osgoi'r drychineb roedd Awdurdodau Lleol yn ei hofni fis Tachwedd diwethaf, byddai angen gwneud penderfyniadau anodd iawn o hyd. Roedd dewisiadau'r gyllideb eleni yr un modd anodd ag unrhyw adeg yn ystod blynyddoedd gwaethaf y cyfnod o gyni cyllidol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau at y ffaith bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi addasu rhai o'r ffigyrau eraill yn y strategaeth. Pwysleisiodd fod y drefn hon yn arferol, wrth i fwy o wybodaeth a gwybodaeth gliriach ddod ar gael. Roedd cyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu dros £30m at y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad yn cadw'r cyflog tybiedig o 5% y caniatawyd ar ei gyfer yn y flwyddyn nesaf ar gyfer staff addysgu a NJC - dyma'r dilysiad mwyaf arwyddocaol yn y rhagdybiaethau, a hefyd y mwyaf ansicr. Roedd yr adroddiad yn nodi fod pob 1% ar fil cyflogau'r Cyngor yn gyfystyr â £2.6m. O gofio'r gweithredu diwydiannol ar draws y sector cyhoeddus ehangach, lefel y dyfarniadau cyflog a bennwyd yn genedlaethol oedd y dilysiad mwyaf arwyddocaol yn y rhagdybiaethau, a hefyd y ffactor risg mwyaf.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau at yr ymgynghoriadau oedd wedi digwydd ynghylch cynigion y gyllideb yn Rhagfyr a Ionawr, pan oedd dros 2,000 o bobl wedi mynd i'r drafferth o gwblhau'r arolwg a rhannu eu barn. Diolchodd i bawb oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad neu wedi ymateb i'r arolygon, ac yn benodol i'w gyd-gynghorwyr am eu hymrwymiad wrth gyfrannu at y seminarau am y gyllideb mewn modd mor gadarnhaol. Hefyd diolchodd i'r 80 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd lleol oedd wedi ymweld â Neuadd y Sir i holi aelodau'r cabinet a swyddogion ac i fynegi eu barn am yr hyn ddylai blaenoriaethau'r Cyngor fod.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cyfanswm o bron i £1.8 miliwn ar gael i wneud newidiadau i gyllideb y flwyddyn nesaf, ac fe awgrymodd y dylid gwneud y defnydd gorau posibl o'r swm hwn drwy wneud yr addasiadau canlynol i Strategaeth y Gyllideb, a oedd yn ystyried y broses ymgynghori a'r ymatebion i'r adborth gan y cyhoedd a'r cynghorwyr:

 

Yn gyntaf, bod £1.3 miliwn yn cael ei ddarparu i gael gwared neu leihau'r 9 gostyngiad penodol yn y gyllideb y manylir arnynt ym mharagraff 3.2.5 yr adroddiad a oedd yn cynnwys:

 

• cadw Canolfan Hamdden Sanclêr ar agor tra bo'r Awdurdod yn gweithio gyda'r gymuned i greu llwybr ariannol hyfyw ar ei chyfer;

• rhoi chwarter miliwn o bunnoedd yn ôl i'r gwasanaethau plant ac ieuenctid er mwyn buddsoddi yn yr agenda atal;

• lleihau'r effaith ar y gwasanaeth cerdd i ysgolion a'r gwasanaethau anabledd dysgu;

• lleihau'r gofynion ariannol ar ysgolion gan £700,000, gan ymateb i'r farn gryfaf a fynegwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus;

• gohirio am flwyddyn unrhyw newidiadau i'r polisi derbyn plant sy'n codi'n 4 oed i ysgolion, er mwyn sicrhau ymgynghoriad ehangach a chaniatáu amser priodol i gynllunio unrhyw newidiadau posibl.

 

Ychwanegodd fod y cynnig i godi tâl am barcio mewn naw maes parcio mewn trefi bach a phentrefi hefyd wedi cael ei waredu, a byddai asesiad fesul achos yn digwydd yn ystod y flwyddyn.

 

Yn ail, bod £385,000 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau a theuluoedd oedd yn gweithio'n galed drwy gyfyngu ar y cynnydd arfaethedig mewn taliadau meysydd parcio a phrydau ysgol i 5%, sef hanner y gyfradd chwyddiant ar hyn o bryd.

 

Yn drydydd, wrth ymateb i bryderon ynghylch priffyrdd a chanol trefi, fod swm o fwy na chwarter miliwn o bunnoedd yn cael ei bennu'n uniongyrchol ar gyfer y blaenoriaethau hyn. Roedd yn cael ei gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweld crebachiad sylweddol yn ei chyllidebau cyfalaf, ac o ganlyniad roedd rhywfaint o'r gefnogaeth a ddarperid yn y gorffennol i waith llecynnau cyhoeddus wedi diflannu yn y blynyddoedd diwethaf – a byddai dewisiadau'r Cyngor hwn meddai, o leiaf yn liniaru hynny'n rhannol. Yn hytrach na thorri gwariant ar ysgubo strydoedd ac yn y blaen, fel y cynigiwyd o'r blaen, byddai mwy yn cael ei wario ar gadw canol trefi yn lanach a'u gwneud yn fwy deniadol i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.

 

Yn olaf, ac yn bwysig iawn, roedd hyn yn gadael digon o arian ar gyfer gostwng y cynnydd yn y dreth gyngor i 6.8% ar gyfer y flwyddyn nesaf, a oedd, ym marn yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn taro'r cydbwysedd cywir o ran diogelu gwasanaethau hanfodol yr oedd pobl Sir Gaerfyrddin yn dibynnu arnynt ac yn disgwyl i'r Cyngor eu darparu o ddydd i ddydd.

 

Awgrymodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod mabwysiadu'r cynigion hyn yn galluogi'r Cabinet i gyflwyno cyllideb deg a chytbwys i'r Cyngor Sir, ac yn ymateb i'r sylwadau oedd wedi deillio o'r ymgynghoriad. Dywedodd pe bai'r holl gynigion yr oedd wedi'u hamlinellu yn cael eu gweithredu, gellid darparu Strategaeth Gyllideb gynaliadwy a hyfyw a oedd yn:

 

• Ymateb i'r ymgynghoriad;

• Sicrhau hyd y gellid fod lefelau a safonau'r gwasanaethau'n cael eu cynnal;  

• Cydnabod bod trigolion yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd bresennol ac yn sicrhau bod gwasanaethau craidd yn cael eu diogelu;

• Paratoi'r Awdurdod hwn, cyhyd ag oedd yn bosibl, ar gyfer unrhyw ansicrwydd a allai ddigwydd yn y dyfodol.   

 

Cynigiodd felly fod y Strategaeth Gyllideb arfaethedig, gyda'r newidiadau yr oedd wedi cyfeirio atynt, yn cael eu cymeradwyo a'u hargymell i'r Cyngor Sir.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

5.1 Cymeradwyo'r Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2023/24, sy'n cynnwys y newidiadau ym mharagraff 4.1.4 yr adroddiad;

5.2 Cymeradwyo Treth Gyngor Band D o £1,490.97 am 2023/24 (cynnydd o 6.8%);

5.3 Cymeradwyo dileu cynigion arbedion penodol fel y nodir ym mharagraff 3.2.5 o'r adroddiad;

5.4 Cymeradwyo cyfyngu ar godi'r incwm a geir yn sgil prydau ysgol a meysydd parcio fel y nodir ym mharagraff 3.2.5 yr adroddiad;

5.5 Cymeradwyo dyrannu cyllid ar gyfer priffyrdd a chanol trefi fel y nodir ym mharagraff 3.2.5 yr adroddiad;

5.6 Cymeradwyo'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a fydd yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod;

5.7 Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2023.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau