Agenda item

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2023/24 I 2025/26

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr A Vaughan Owen, L.M. Davies, N. Evans, R. Evans, L.D. Evans, H. Shepardson, G. Morgan, T. Higgins, D.C. Evans, K. Broom, J. Hart, B. Jones, P. Warlow, A. Evans, F. Walters, A. Leyshon, D. Nicholas, C.A. Jones, E. Williams, D. Cundy, E. Skinner, R. Sparks, L. Roberts, G. Thomas, M. Palfreman, B. Davies, G. John, T.A.J. Davies, Andrew Davies, J. James, R. James a P.M. Hughes, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd y cynghorwyr hynny yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch y mater hwn a'r bleidlais ddilynol)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror, 2023 (gweler Cofnod 5), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, ar ran y Cabinet, pryd y bu'n manylu ar gefndir y cynigion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb. 

 

Esboniwyd bod proses gyllideb Llywodraeth Cymru yn llawer hwyrach na'r arfer, a bod yr adroddiad oedd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor y diwrnod hwnnw wedi ei baratoi cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ffigurau'r setliad terfynol ar 28 Chwefror. Serch hynny, bu'n bosibl adolygu rhai o brif elfennau rhagdybiaethau a dyraniadau cyllideb y Cyngor. Roedd hynny wedi golygu bod modd ailedrych ar rai o'r cynigion gwreiddiol yn yr amlinelliad o'r gyllideb ac ystyried opsiynau pellach a'u cyflwyno fel rhan o'r adroddiad i'r Cyngor. Ar sail Cymru gyfan, er bod ffigurau'r setliad amodol yn adlewyrchu cynnydd o 7.9% yn y cyllid, a bod Sir Gaerfyrddin wedi cael codiad o 8.5%, roedd ffigur y setliad terfynol hefyd wedi rhoi £10.7k yn ychwanegol i Sir Gaerfyrddin a fyddai'n cael ei ychwanegu at ei chyllideb wrth gefn.

 

Oherwydd bod y setliad terfynol wedi'i gyhoeddi'n hwyr, dywedwyd wrth y Cyngor bod yr adroddiad yn rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, wneud unrhyw addasiadau yn ôl yr angen, ar ôl derbyn y setliad terfynol. Er bod y Cyngor wedi cael gwybod am y newidiadau hynny y diwrnod hwnnw, byddai angen i'r Cyfarwyddwr ddilyn yr addasiadau hynny drwodd o hyd yn y tablau cyllideb yn dilyn ei gyfarfod. Roedd y Cyfarwyddwr hefyd wedi addasu rhai o'r ffigurau eraill yn y strategaeth fel sy'n arferol wrth i fwy o wybodaeth a gwybodaeth gliriach fod ar gael, ac mae'r dilysiad cyfan presennol wedi ychwanegu mwy na £30m at y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet er i'r adroddiad gadw'r cyflog tybiedig o 5% am 2023/24 ar gyfer y Cyd-gyngor Cenedlaethol, yn ogystal â staff addysgu, bod y cyflogwyr cenedlaethol mewn perthynas â staff y Cyd-gyngor Cenedlaethol, yn dilyn cyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror, wedi gwneud cynnig ariannol i'r Undebau Llafur oedd yn debyg i'r un a wnaed yn 2022/23.  Amcangyfrifwyd bod y cynnig hwnnw yn adlewyrchu cynnydd o 6.7% gan arwain at ddiffyg o 1.7% oedd yn cyfateb i tua £3m ar gyllidebau net. Dim ond yn ddiweddar yr oedd y cynnig hwnnw wedi'i wneud ac felly nid oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu ystyried sut y gallai gael ei gefnogi o ystyried y ffaith ei fod unwaith eto yn uwch na bron pob un o ragdybiaethau Awdurdodau Lleol. O ganlyniad, barnwyd ei bod yn ddoeth i'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, ynghyd â'r Cyfarwyddwr, ystyried sut i ddarparu ar gyfer y pwysau cyllidebol ychwanegol, yn enwedig gan nad oedd cyllid Llywodraeth Cymru yn glir a bod y Cyfarwyddwr wedi nodi y byddai angen i'r Cyngor ddefnyddio cyfuniad o'r mesurau canlynol i ariannu'r diffyg, petai'n cael ei dderbyn

 

·       Dyrannu £1m o'r gyllideb wrth gefn,

·       Defnyddio'r addasiad o ran ailbrisio Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, yr amcangyfrifir ei fod oddeutu £500k a,

·       Dyrannu £1.5m o falansau cyffredinol, os nad oedd modd adfer y cyllid o danwariant yn ystod y flwyddyn,

 

Er nad oedd y cynnig uchod yn cael ei ystyried yn senario delfrydol, ystyrid ei fod yn ddull ymarferol a darbodus ar hyd o bryd yn y broses gyllideb. Hefyd, bu'n rhaid i'r Awdurdod gydnabod y risg bosibl y byddai trafodaethau'n mynd ymhellach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

 

O ran dyfarniadau cyflog athrawon, roedd cynnig o 1.5% cyfunedig a 1.5% anghyfunol wedi cael ei gyflwyno gan WeinidogLlywodraeth Cymru mewn perthynas â'r setliad cyflog a oedd yn berthnasol o fis Medi diwethaf. Gan fod yr Awdurdod wedi cynnwys cynnydd o 5% yn ei strategaeth gyllideb, roedd diffyg posibl o tua £1.9m. Er bod disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu rhan sylweddol o'r cynnig ychwanegol, nid oedd dim wedi'i gadarnhau'n ffurfiol ar hyn o bryd a byddai angen monitro'r sefyllfa yn ystod y flwyddyn, wrth i'r trafodaethau gael eu cwblhau. 

 

Dywedwyd wrth y Cyngor yr ymgynghorwyd yn eang ynghylch cynigion y gyllideb am bron i chwe wythnos, a bod tua 2,000 o ymatebion wedi dod i law. Cynhaliwyd cyfarfodydd gydag Arweinydd yr Wrthblaid a'u Llefarydd dros Adnoddau. Hefyd, roedd 80 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd y Cyngor wedi cyfarfod ag aelodau cabinet a swyddogion i fynegi eu barn am flaenoriaethau'r gyllideb. Roedd yn amlwg bod pawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yn gwerthfawrogi bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd.

 

Fel y nodwyd uchod, dywedwyd wrth y Cyngor fod newidiadau i rai o'r rhagdybiaethau allweddol megis cyfrifiadau cyflog ac incwm, prisiau ynni wedi'u diweddaru yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, a rhyddhau taliadau cyfalaf, wedi golygu bod modd gwneud rhai newidiadau i gynigion y gyllideb derfynol, fel y nodir ym mharagraff 3.2.5 yr adroddiad, a bod cyfanswm o bron i £1.8m ar gael yn sgil hynny i wneud newidiadau i gyllideb y flwyddyn nesaf. Yn unol â hynny, roedd y Cabinet wedi argymell, er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r swm hwnnw, bod yr addasiadau canlynol yn cael eu gwneud i Strategaeth y Gyllideb, a oedd yn ystyried y broses ymgynghori ac yn ymateb i'r adborth a gafwyd gan y cyhoedd a chynghorwyr: 

 

Yn gyntaf:

 

Bod £1.3 miliwn yn cael ei ddarparu i ddileu neu leihau'r 9 gostyngiad penodol yn y gyllideb ym mharagraff 3.2.5, gan gynnwys:

 

- cadw Canolfan Hamdden Sanclêr ar agor wrth i ni weithio gyda'r gymuned i greu llwybr ariannol hyfyw ar ei chyfer

 

- rhoi 1/4 miliwn o bunnoedd yn ôl i'r gwasanaethau plant ac ieuenctid er mwyn buddsoddi yn yr agenda atal

 

- lleihau'r effaith ar y gwasanaeth cerdd i ysgolion a'r gwasanaethau anabledd dysgu

 

- lleihau'r gofynion ariannol ar ysgolion £700,000, a hefyd gohirio am flwyddyn unrhyw newidiadau i'r polisi plant sy'n codi'n 4 oed, er mwyn sicrhau ymgynghoriad ehangach a chaniatáu amser priodol i gynllunio unrhyw newidiadau posibl

 

Yn ail

 

Gohirio codi tâl yn y 9 maes parcio sy'n rhad ac am ddim ar hyn o bryd, er mwyn rhoi amser i'r Awdurdod asesu ac ystyried yr effaith ehangach ar yr ardaloedd unigol. Gwerth gohirio hyn ym mlwyddyn 1 oedd £10k a

 

Tynnu'n ôl y gostyngiad o £22k yng nghyllideb yr Iaith Gymraeg o dan yr Adain Polisi Corfforaethol, a oedd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau a gwaith ac ymchwil sy'n gysylltiedig â chomisiynu

 

Yn drydydd,

bod £385 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau a theuluoedd oedd yn gweithio'n galed drwy gyfyngu ar y cynnydd mewn taliadau meysydd parcio a phrydau ysgol i 5%, sef hanner y gyfradd chwyddiant ar hyn o bryd

 

Yn bedwerydd,

Wrth ymateb i bryderon ynghylch priffyrdd a chanol trefi, bod £262k yn cael ei bennu'n uniongyrchol ar gyfer y blaenoriaethau hyn. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweld crebachiad sylweddol yn ei chyllidebau cyfalaf, ac o ganlyniad roedd rhywfaint o'r gefnogaeth a ddarperid yn y gorffennol i waith llecynnau cyhoeddus wedi diflannu yn y blynyddoedd diwethafbydd y dyraniad cyllid hwn o leiaf yn lliniaru hynny'n rhannol.

 

Yn olaf, ac yn bwysicach fyth, roedd hynny'n gadael digon o arian i ostwng y cynnydd yn y dreth gyngor i 6.8% ar gyfer y flwyddyn nesaf, a chredwyd bod hynny'n taro'r cydbwysedd cywir o ran diogelu gwasanaethau hanfodol y mae ein pobl yn dibynnu arnynt ac yn disgwyl i'r Cyngor eu darparu o ddydd i ddydd.  

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai mabwysiadu'r cynigion yn galluogi'r Cabinet i gyflwyno cyllideb deg a chytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf, a oedd yn ymateb i'r sylwadau oedd wedi deillio o'r ymgynghoriad. Pe bai'r holl gynigion sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad a'u crynhoi i'r Cyngor Sir yn cael eu rhoi ar waith, cadarnhaodd y byddai Strategaeth Gyllideb gynaliadwy a hyfyw yn cael ei darparu a fyddai'n gwneud y canlynol

·       Ymateb i'r ymgynghoriad,

·       Sicrhau hyd y gellid fod lefel a safonau'r gwasanaethau'n cael eu cynnal,

·       Cydnabod bod trigolion yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd bresennol a sicrhau bod gwasanaethau craidd yn cael eu diogelu,

·       Paratoi'r Awdurdod, i'r graddau mwyaf posibl, am yr ansicrwydd sylweddol  yn y dyfodol.

 

Fodd bynnag, dywedodd hefyd, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, fod y dyfarniad cyflog diweddar yn risg ariannol sylweddol i'r gyllideb yn y dyfodol, ac er bod y gost ychwanegol honno wedi cael ei rheoli yn y flwyddyn bresennol, roedd lefel y gost ychwanegol a'r ansicrwydd yn peri risg sylweddol i gynaliadwyedd gwasanaethau yn y tymor canolig yn y blynyddoedd 2025/26 ymlaen, yn dibynnu ar setliadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol a fyddai'n golygu bod angen monitro'r sefyllfa'n ofalus yn ystod y blynyddoedd nesaf

 

I gloi, cynigiodd yr Aelod Cabinet, ar ran y Cabinet, argymhellion Strategaeth Gyllideb 2023/24 - 2025/26 fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan bennu Treth Gyngor Band D ar gyfer 2023/24 o £1,490.97, sef cynnydd o 6.8 %. 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu a chymeradwyo'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

“y Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2023/24, sy'n cynnwys y newidiadau ym mharagraff 4.1.4;

 

Bod Treth Gyngor Band D yn 2023/24 i’w gosod ar £1,490.97 (cynnydd o 6.80%);

 

Dileu cynigion arbedion penodol fel y nodir ym mharagraff 3.2.5 o'r adroddiad gan wneud y newidiadau canlynol:

 

i)                Gohirio cyflwyno taliadau newydd mewn 9 maes parcio sy'n rhad ac am ddim tan 2024/25 er mwyn i'r awdurdod asesu ac ystyried yr effaith ehangach ar yr ardaloedd unigol fesul achos. Gwerth gohirio hyn ym mlwyddyn 1 yw £10k,

ii)              Dileu'r arbedion o £22k ar gyfer yr Iaith Gymraeg o'r Gyllideb Polisi Corfforaethol

 

cyfyngu ar godi'r incwm a geir yn sgil prydau ysgol a meysydd parcio fel y nodir ym mharagraff 3.2.5;

 

Diwygio'r cyllid a ddyrennir ar gyfer priffyrdd a chanol trefi, fel y nodir ym mharagraff 3.2.5, i £262k i ddarparu ar gyfer y ddau newid a gynigiwyd gan y Cabinet

 

y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a fydd yn sylfaen i gynllunio ariannol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod;

 

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2023”.

 

Dogfennau ategol: