Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, YR AELOD CABINET DROS ADNODDAU

‘A all yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ddweud a oes camau'n cael eu cymryd yn ddi-oed i gwblhau misoedd o waith yn Heol Las, Caerfyrddin, wedi i'r tarfu hwn daro'n ariannol ar fusnesau, ac a fydd y Cyngor yn ymgysylltu â'r busnesau yr effeithiwyd arnynt i drafod iawndal am golli busnes?

 

Cofnodion:

‘A all yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ddweud a oes camau'n cael eu cymryd yn ddi-oed i gwblhau misoedd o waith yn Heol Las, Caerfyrddin, wedi i'r tarfu hwn daro'n ariannol ar fusnesau, ac a fydd y Cyngor yn ymgysylltu â'r busnesau yr effeithiwyd arnynt i drafod iawndal am golli busnes’

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:-

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cynghorydd James am y cyfle i roi diweddariad ar y cynllun i wella gorsaf fysiau Caerfyrddin, sy'n cynnwys Heol Las, cynllun a alluogwyd trwy Gymorth Llywodraeth Cymru fel rhan o'i strategaeth i wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y cynllun yn cydymffurfio â'r strategaeth drafnidiaeth newydd sy'n amlinellu ffyrdd gwahanol o gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n blaenoriaethu teithwyr a newid hinsawdd fel yr eglurodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog, ar gyfer newid hinsawdd ddydd Mercher diwethaf. Ar ôl i'r gwaith gael ei orffen, ac fe fydda i'n trafod hynny yn y man, bydd gorsaf fysiau Caerfyrddin yn lle llawer mwy croesawgar, atyniadol a diogel i deithwyr, gan gynnwys cysgodfannau bysiau mwy yn Heol Las, gyda byrddau electronig yn darparu amseroedd bysiau, yn debyg i'r rheiny a geir mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae Heol Las eisoes yn stryd fwy deniadol oherwydd y gwaith gan fod wyneb newydd wedi'i osod ar y palmentydd ac mae lleoedd mwy diogel i gerddwyr groesi'r ffordd. Bydd hefyd yn gysylltiad llawer gwell rhwng yr orsaf reilffordd a'r Dref. Rhaid i mi gydnabod nad yw'r datblygiad wedi bod heb ei anawsterau ac rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr bod ambell siop yn Heol Las yn dweud ei fod wedi cael effaith andwyol ar fusnes. Yn anffodus, rhwystrwyd y gwaith oherwydd ymatebion hwyr gan ddarparwyr cyfleustodau. Hynny yw, cwmnïau a allai fod â gwifrau neu bibellau o dan y ddaear. Cafodd gwaith ei atal hefyd rhwng canol Tachwedd a dechrau Ionawr er mwyn peidio amharu ar fusnesau lleol dros gyfnod y Nadolig. Darparwyd llefydd parcio am ddim ym maes parcio Heol Las hefyd yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn lliniaru'r effaith ar fusnesau. Mae'n wir y bu rhai rhwystrau i rai mynedfeydd busnesau am resymau anochel, ond mae'n debyg mai dim ond am ychydig oriau y bu hynny a bu i'r contractwr ymdrechu i gynnig mynedfeydd dros dro i gwsmeriaid. Erbyn hyn mae'r gwaith ar y palmant tu allan i'r siopau wedi ei orffen ers rhai wythnosau ac mae'n edrych yn wych. Bydd y gwaith o osod wyneb newydd ar y stryd ei hun yn dechrau heno. Bydd y gwaith yn digwydd dros nos am bedair noson, os yw'r tywydd yn caniatáu. Wedyn bydd gwaith yn parhau i wneud gwelliannau sylweddol y tu mewn i ardal bresennol yr orsaf fysiau sydd i ffwrdd o'r stryd. Daw hynny i ben yn ystod y gwanwyn. Yn dilyn hynny bydd gan Dref Caerfyrddin orsaf fysiau o'r radd flaenaf a dylai hynny ddenu rhagor o deithwyr i Heol Las er lles y siopau sydd yno ac, yn wir, y dref ei hun.

 

Gan gyfeirio'n fyr at ail ran y cwestiwn, sef, yr ymholiad am iawndal, nid oes cynllun digolledu o fewn y system Trethi Annomestig. Fodd bynnag, os gall busnesau unigol brofi eu bod wedi dioddef caledi ariannol, mae'n bosibl y gallai'r Cyngor ystyried hynny o dan yr hyn a elwir yn Adran 13A. Byddai angen i swyddogion weld cyfrifon banc ac ati fel tystiolaeth fod y caledi o ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith datblygu. Ond er bod trafferthion dros dro, rwy'n hyderus y bydd perchnogion y siopau yn Heol Las yn gweld cyn bo hir bod y datblygiad presennol yn creu dyfodol mwy llewyrchus i'r busnesau.

 

Diolch eto am y cwestiwn  

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd RobJames:-

 

Alla i ddiolch i'r aelod Cabinet am y wybodaeth fanwl iawn honno. Rwy'n si?r fel aelod lleol bod busnesau hefyd wedi cysylltu ag ef yngl?n â'r tarfu. Yn amlwg, rydym yn croesawu'r datblygiad, ond efallai fod tarfu wedi bod ar rai o'r busnesau. Mae'n bwysig eich bod wedi tynnu sylw at Adran 13A. Diolch i chi am hynny. 

 

A fyddech chi'n cwrdd â mi fy hun a busnesau yr effeithir arnynt, gyda Swyddogion, i ymchwilio i weld a oes cyfle i'r busnesau dan sylw wneud cais o dan Adran 13A am yr iawndal hwnnw am y tarfu. Diolch

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - yr Aelod Cabinet dros Adnoddau

 

Rwy'n credu y byddai hynny'n destun cliriad cyfreithiol gan ein swyddogion ond, byddaf yn sicr yn ystyried hynny, os yw hynny'n dderbyniol. Diolch yn fawr

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau