Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/39937 |
Proposed Residential Development at land adjacent to Maes y Berllan, Llangyndeyrn, Kidwelly, SA17 5BL |
PL/04018 |
Gwaith Cynllunio Ôl-weithredol yn: Allen & Partners Veterinary Services - a gwblhawyd yn 2016 - gan gynnwys gwelliannau i'r Cynllun Safle arfaethedig ar gyfer mynediad o'r briffordd ac iddi ar gyfer gwell cynllun safle a darpariaethau parcio. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys codi 2 Loches Canopi i ddarparu mynediad/lle aros dan do y tu allan i Allen And Partners Veterinary Surgery, Maes y Felin, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0QN
(Noder: Roedd y Cynghorydd S.M. Allen wedi datgan buddiant yn gynharach yn y cais hwn; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod wrth i'r mater gael ei ystyried gan y Pwyllgor) |
PL/04643 |
Adeiladu wal gynnal gaergawell, Clayton House, Heol Gwscwm, Porth Tywyn, SA16 0BT
(Noder: Roedd y Cynghorydd M. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod wrth i'w mater gael ei ystyried gan y Pwyllgor) |
PL/04823 |
Amrywio amod 1 o Gais Cynllunio S/38106 (estyniad o ran amser], ar safle 5 a 6, tir ger hen Safle Grillo, Porth Tywyn, SA16 0LT |
PL/04824 |
Amrywio Amod 1 o Gais Cynllunio S/38251 (er mwyn caniatáu 5 mlynedd ychwanegol ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl), hen Waith Grillo, Heol Harbwr, Porth Tywyn, SA16 0LY |
PL/04825 |
Amrywio Amod 1 o gais cynllunio S/38105 (estyniad o ran amser) ar Safle 4, Harbwr Porth Tywyn (Dwyrain), Porth Tywyn, SA16 0LT |
3.2 PENDERFYNWYD gohirio rhoi ystyriaeth i'r cais canlynol er mwyn gallu ymweld â'r safle
PL/04430 |
Datblygiad preswyl ar dir oddi ar Heol y Parc, Hendy, Abertawe, SA4 0XZ
(Noder: Am 1.20 p.m. wrth ystyried yr eitem hon gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod. Bu i'r Is-gadeirydd yn cadeirio)
Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn cynnwys: · Gwrthwynebiadau gan 75 o breswylwyr lleol a'r Cyngor Cymuned · Diogelwch priffyrdd · Diffyg parcio oddi ar y stryd a pharcio i ymwelwyr · Roedd y CDLl wedi nodi'r safle ar gyfer 5 t?. Roedd y cais presennol ar gyfer 7 ac ni nodwyd y safle ar gyfer datblygiad o fewn y CDLl sy'n dod i'r amlwg · Colli cynefinoedd bywyd gwyllt a choridor bywyd gwyllt · Materion perchnogaeth tir · Cyflwyno cynlluniau diwygiedig ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori · Presenoldeb clymog Japan · Polisi Cynllunio 6 yn cefnogi gwrthod y safle
Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd
Yn dilyn y sylwadau uchod, cafodd ei gynnig a'i gario bod ystyriaeth o'r cais yn cael ei ohirio er mwyn gallu ymweld â'r safle i weld y safle mewn perthynas â phryderon y gwrthwynebwyr |
3.3 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol tra'n aros am gyflwyno a gwerthuso gwybodaeth ychwanegol
PL/03849 |
Amrywio Amod 3 o W/35339 (codi giatiau), Cartref Cynnes, Peniel, Caerfyrddin, SA32 7HT |
3.4 PENDERFYNWYD gwrthod y ceisiadau cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd::
PL/04748 |
Dymchwel bloc stablau presennol (wedi'i adeiladu'n rhannol) ac adeiladu preswylfa angen lleol yn ei le (Ail-gyflwyno cais cynllunio PL/02285), Tir cyferbyn â T? Liliwen, Nant-y-caws, Caerfyrddin |
PL/05060 |
Preswylfa newydd gyda garej/t? allan, tir sy'n rhan o Clyttie Cochion, Llanpumsaint, Caerfyrddin, SA33 6JT
Cafwyd sylw gan yr aelod lleol gan gefnogi'r cais ar sail bod yr ymgeiswyr yn lleol, bod y teulu yn berchen ar y safle dan sylw, bod y ddau ymgeisydd yn gweithio'n lleol, bod gan y cais gefnogaeth y cyngor cymuned lleol, dyheadau'r ymgeisydd ar gyfer ffermio ar y tir, cadw pobl leol yn y gymuned, amddiffyn y Gymraeg a bywyd gwledig. |
Dogfennau ategol: