Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2023/24 TAN 2025/26

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr H. Shepardson a R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganwyd y buddiant hwnnw ganddynt ac arhosont yn y cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw'r Cyngor  2023/24 hyd at 2025/26, fel y'i cymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/2024, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/2025 a 2025/2026, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Dywedodd y Pwyllgor, er bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 8.0% ledled Cymru ar setliad 2022/23, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 8.5% (£26.432m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £338.017m ar gyfer 2023/24. Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol cychwynnol, sef cynnydd o 3.4%, ac yn darparu tua £15.5m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr cynyddol yn ddigonol o hyd i ymdopi â'r pwysau chwyddiant oedd yn wynebu cynghorau, dyfarniadau cyflog, a'r cynnydd mewn prisiau tanwydd, ac roedd penderfyniadau anodd i'w gwneud.

 

Tra bo cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, nodwyd byddai angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu'r gostyngiadau mewn costau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Cyllideb a'r lefel Treth Gyngor presennol. 

 

Dywedwyd, o ystyried risgiau presennol Strategaeth y Gyllideb a'r cefndir parhaus o ran chwyddiant ynghyd â gwasgfeydd cyllidebol eraill, fod y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 wedi'i osod yn 7% i liniaru gostyngiadau i wasanaethau critigol. Ym mlynyddoedd 2 a 3 roedd y darlun ariannol dal yn ansicr, ac, o'r herwydd, roedd codiadau dangosol enghreifftiol o 4% a 3% yn y Dreth Gyngor wedi cael eu gwneud at ddibenion cynllunio'n unig, gan geisio taro cydbwysedd gyda'r gostyngiadau yn y gyllideb. Byddai'r cynigion hynny yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 yn ei gyfarfod ar 1 Mawrth 2023. Yn ogystal, roedd ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 7 Mawrth 2023 a byddai unrhyw ddiwygiadau yr oedd yn ofynnol eu hystyried i strategaeth y gyllideb o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i)– Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaethau Lle a Chynaliadwyedd, - dim un ar gyfer meysydd Adfywio, Hamdden a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad B – adroddiad monitro'r Gyllideb ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Taiheblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       O ran y seminarau cyllideb diweddar a gynhaliwyd ar gyfer cynghorwyr sir, cadarnhawyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i'r Strategaeth yn dilyn y seminarau. Fodd bynnag, byddai canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb, a oedd yn cynnwys Pwyllgorau Craffu'r Cyngor a'r cyhoedd, yn cael ei goladu a'i gynnwys yn adroddiad ymgynghoriad y gyllideb i'r Cabinet a'r Cyngor, fel rhan o'u hystyriaethau ar Strategaeth y Gyllideb.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR: -

 

4.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26 yn cael ei dderbyn.

4.2

Bod y Crynoadau Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael eu derbyn.

 

Dogfennau ategol: