Agenda item

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad diweddaru am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin, a oedd wedi derbyn cyfanswm o £37m allan o gyfanswm y gronfa o £138m. Nodwyd bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys, er gwybodaeth, ffurflen gais a meini prawf asesu ar gyfer y Prosiectau Angori a'r Prosiectau Annibynnol, a bod dogfen ganllawiau i gynorthwyo ymgeiswyr yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd a fyddai ar gael yn fuan.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2022, wedi cymeradwyo'r model cyflawni ar gyfer gweithredu'r gronfa rhwng y prosiectau Angori, y prosiectau Annibynnol, a'r prosiectau a Gomisiynwyd, a bod y prosiectau Angori â thema canlynol wedi cael eu cymeradwyo:

 

Angori Cymunedol – darparu grant trydydd parti i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chreu gweithgareddau i gyd-fynd â'r themâu canlynol.

 

·       Tlodi

·       Economi Gylchol

·       Llesiant / Hamdden

·       Mynediad i Wasanaethau

·       Amgylchedd a Gwyrdd

·       Twristiaeth, Diwylliant / Treftadaeth

·       Ymgysylltu â'r Gymuned

Angori Gwledig - yn cynnwys 3 elfen:

·         Menter Deg Tref

·         Cronfa Arloesi Gwledig

·         Hwb Fach y Wlad

Angori Lle: - cefnogi canol trefi drwy Gronfa Eiddo Gwag, Cronfa Digwyddiadau Canol Trefi, a phecyn cymorth i gyflawni prosiectau allweddol a nodwyd yn ein Cynlluniau Adfer Canol Trefi, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau parhaus.

 

Angori Cynorthwyo Busnesau Lleol: cynnig cymorth ariannol i fusnesau lleol i'w cefnogi ym mhob cam o'u datblygiad trwy Grantiau Cychwyn Busnes a Thwf, Cronfa Ynni Adnewyddadwy i Fusnesau, a hefyd Cronfa Datblygu Eiddo.

 

Yn ogystal, un ffocws allweddol fydd helpu busnesau Sir Gâr i elwa ar wariant caffael cyhoeddus.

 

Angori Cyflogadwyedd a Sgiliau: Roedd rhaglen gyflogadwyedd newydd symlach yn cael ei datblygu a byddai ffocws ar weithgarwch y tu allan i gylch gwaith y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a phrosiect Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Roedd y cyllidebau gwaith ar gyfer y themâu yn Sir Gaerfyrddin fel yr isod. Fodd bynnag, gallai'r rheiny newid wrth i'r rhaglen gychwyn a byddai angen hyblygrwydd i alluogi trosglwyddo arian o fewn pob thema a rhyngddynt er mwyn cyflawni gofynion y Cynllun Buddsoddi. 

 

Thema Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Cyllideb Weithio (cyllideb weinyddol o 4% wedi'i thynnu o'r ffigurau isod)

Cymuned a Lle

£10,240,933.76

Cefnogi Busnesau Lleol

£10,240,933.76

Pobl a Sgiliau

£10,240,933.76

Lluosi

£6,413,012

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad;

·       Cadarnhawyd bod y thema Lluosi yn ymwneud â'r rhaglen rifedd newydd i oedolion lle'r oedd y Cyngor yn gweithio gyda Choleg Sir Gâr a rhanddeiliaid ehangach ar ei gyflawni. Roedd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i'r posibiliad o gynnwys sgiliau digidol yn y thema.

·       Cadarnhawyd bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar hyn o bryd yn mynd drwy broses ddemocrataidd pedwar awdurdod cyfansoddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sef Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Powys ac Abertawe, a'r gobaith oedd trefnu digwyddiad lansio ar y cyd yn yr wythnos yn dechrau ar 27 Chwefror.

·       Soniwyd bod rhaid defnyddio cyllid 2022/23 erbyn Mawrth '23, a holwyd a oedd unrhyw risgiau yn gysylltiedig â hynny. Er bod adroddiadau blaenorol wedi nodi y byddai gwariant yn digwydd yn y flwyddyn ariannol bresennol, cadarnhawyd bod oedi gan Lywodraeth y DU wedi golygu na fyddai'n bosibl cyflawni'r gwariant gofynnol erbyn mis Mawrth. Yn unol â hynny, roedd Llywodraeth y DU wedi caniatáu hyblygrwydd i symud y cyllid i'r flwyddyn ariannol nesaf, yn amodol ar gyfiawnhad, ac ni fyddai unrhyw arian yn cael ei golli. Cadarnhawyd hefyd y byddai'r cyllid hyd at fis Mawrth 2025.

·       Cadarnhawyd bod Menter y Deg Tref yn rhan o'r Angori Gwledig, ac os oedd unrhyw brosiectau am arian, byddai angen eu cyflwyno drwy'r broses ymgeisio a gymeradwywyd. Byddai swyddogion o'r adran hefyd yn cysylltu â'r tîm deg tref wrth gyflwyno prosiectau ar gyfer cyllid.

·       Cadarnhawyd, yn ogystal â menter y deg tref, fod cyfleoedd i'r holl gynghorau tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin wneud cais am arian, a byddid yn cysylltu â chlercod yr awdurdodau hynny ynghylch y peth. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau