Agenda item

DEDDFWRIAETH TERFYN CYFLYMDER 20MYA LLYWODRAETH CYMRU

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch y terfyn cyflymder o 20 mya, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaf am y newid yn y ddeddfwriaeth sy'n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2023.  Byddai'r ddeddfwriaeth yn lleihau'r terfyn cyflymder diofyn 30mya presennol ar ffyrdd cyfyngedig (â goleuadau stryd) mewn ardaloedd preswyl i 20mya.

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·   Cyfeiriwyd at gyllid grant Llywodraeth Cymru o £797,074 a oedd ar gael yn 2022/23 ac y byddai ceisiadau pellach yn cael eu gwneud ar gyfer y blynyddoedd canlynol ac y rhagwelwyd y byddai hyn yn cyfateb i oddeutu £2.16M yn 2023/24.  Gofynnwyd i swyddogion pa mor obeithiol oedden nhw o ran sicrhau'r arian grant? Ac os nad oeddent, a fyddai'r arian yn dod o'r gyllideb?

Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, gan fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i ariannu'r gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth 20mya ynghyd â chyfathrebu cadarnhaol, ei fod yn hyderus y byddai'r cais yn llwyddiannus.

 

·   Codwyd pryderon mewn perthynas â'r canlynol:

-   yr adnoddau a fyddai'n cael eu hymrwymo i weithredu'r newid mewn terfyn cyflymder ac;

-   y gwaith gorfodi sydd ei angen i wella diogelwch.  Gofynnwyd a oedd yn bosibl i'r Pwyllgor neu'r Cyngor hwn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am arian ar gyfer swyddogion gorfodi ychwanegol;

-   O ran terfynau'r holl ffyrdd 30mya mewn ardaloedd preswyl yn cael eu lleihau i 20mya gofynnwyd a ellid newid hyn yn ôl-weithredol, os felly sut?

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod prosiect wedi'i sefydlu i gyflawni'r fenter hon lle cytunwyd i gadw'r gwaith yn fewnol yn hytrach na defnyddio ffynonellau allanol drwy ymgynghoriadau.  Y manteision oedd bod gan swyddogion wybodaeth ymarferol gadarn am derfynau cyflymder, gorchmynion rheoleiddio traffig a gwybodaeth leol a fyddai'n gwasanaethu'r prosiect a'r cymunedau yn well.  Ar ben hynny, roedd amser swyddogion yn cael ei ariannu drwy'r grant.  Wrth gydnabod bod y tîm yn fach gydag amser cyfyngedig, i helpu i reoli hyn, wedi'i gynnwys fel rhan o gynigion y gyllideb oedd moratoriwm ar Orchmynion Rheoleiddio Traffig tra bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno.  Fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd pe byddai diogelwch yn bryder sylweddol y byddai'r achos yn cael ei ystyried yn unol â hynny.

 

O ran gorfodi, esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth, er y gellid gorfodi drwy'r Heddlu a'r Bartneriaeth Gan Bwyll yn unig, y byddai pecyn adnoddau ar gael i gymunedau fel rhan o'r fenter a fyddai'n eu galluogi i sefydlu mentrau gwylio cyflymder cymunedol.  Byddai cymunedau'n gallu monitro cyflymderau gwirioneddol yn hytrach na chyflymderau canfyddedig a datblygu arolygon i ddeall lefelau diffyg cydymffurfio.  Gallai'r wybodaeth a gesglir gael ei darparu i'r heddlu er mwyn iddyn nhw cymryd y camau priodol.  Roedd y pecyn adnoddau hwn wedi'i gynnwys yn y cais.

 

Gwnaeth Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth gydnabod y byddai problemau yn debygol pan fydd y ddeddfwriaeth mewn grym ym mis Medi 2023, o ran barn cymunedau ac mewn rhai achosion efallai y bydd angen adolygu terfynau cyflymder.  Pe bai achos i newid terfyn cyflymder gallai hyn ddigwydd drwy'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad ar Ddeddfwriaeth Terfyn Cyflymder 20MYA.

 

 

 

Dogfennau ategol: