Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2023/24 TAN 2025/26

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr A. Davies, D. Phillips a G. Thomas wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon. Bu iddynt aros yn y cyfarfod ac yn cymryd rhan yn y trafodaethau a'r pleidleisio yn eu cylch.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2023/24 i 2025/26, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023. Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/2024, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/2025 a 2025/2026, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Dywedodd y Pwyllgor, er bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 8.0% ledled Cymru ar setliad 2022/23, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 8.5% (£26.432m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £338.017m ar gyfer 2023/24. Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol cychwynnol, sef cynnydd o 3.4%, ac yn darparu tua £15.5m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr cynyddol yn ddigonol o hyd i ymdopi â'r pwysau chwyddiant oedd yn wynebu cynghorau, dyfarniadau cyflog, a'r cynnydd mewn prisiau tanwydd, ac roedd penderfyniadau anodd i'w gwneud.

 

Tra bo cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, nodwyd byddai angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu'r gostyngiadau mewn costau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Cyllideb a'r lefel Treth Gyngor presennol. 

 

Dywedwyd, o ystyried risgiau presennol Strategaeth y Gyllideb a'r cefndir parhaus o ran chwyddiant ynghyd â gwasgfeydd cyllidebol eraill, fod y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 wedi'i osod yn 7% i liniaru gostyngiadau i wasanaethau critigol. Ym mlynyddoedd 2 a 3 roedd y darlun ariannol dal yn ansicr, ac, o'r herwydd, roedd codiadau dangosol enghreifftiol o 4% a 3% yn y Dreth Gyngor wedi cael eu gwneud at ddibenion cynllunio'n unig, gan geisio taro cydbwysedd gyda'r gostyngiadau yn y gyllideb. Byddai'r cynigion hynny yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 yn ei gyfarfod ar 1 Mawrth 2023. Yn ogystal, roedd ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 7 Mawrth 2023 a byddai unrhyw ddiwygiadau yr oedd yn ofynnol eu hystyried i strategaeth y gyllideb o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd;

·       Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

Ymholiadau a godwyd ar yr Atodiad Ai (Cynigion Arbedion):

 

·      Cyfeiriwyd at Reoli Traffig a gweithredu cynlluniau diogelwch ffyrdd/rheoli cyflymder.  O ran y disgrifiad o'r arbedion effeithlonrwydd 'Moratoriwm tair blynedd ar derfynau cyflymder newydd sydd heb eu cynnwys o fewn deddfwriaeth 20mya oni bai bod mater diogelwch hollbwysig', dywedwyd bod tair blynedd yn amser hir a gofynnwyd a ellid delio â hyn ar y cyd â'r broses o gyflwyno'r ddeddfwriaeth 20mya newydd?  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y newid i'r terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya sy'n effeithio ar bob ardal breswyl yn ddarn cynhwysfawr o waith oedd yn cynnwys llawer o adnoddau.  Dywedwyd bod y moratoriwm yn realistig o ran y gwaith helaeth sydd ei angen.

 

·      Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y disgrifiad o'r arbedion effeithlonrwydd - Arloesi Diogelwch ar y Ffordd ym maes Rheoli Traffig, esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai adroddiad ar Noddi Cylchfannau ar gael cyn bo hir.  Roedd y tîm priffyrdd wedi bod yn gweithio i ddod o hyd i ffyrdd a dulliau o gynyddu refeniw yn enwedig yn dilyn y pandemig ac roedd nawdd yn ddull a fyddai'n darparu incwm yr oedd mawr ei angen.

 

·      Wrth gyfeirio at y Cludiant Ysgol a'r disgrifiad o'r arbedion effeithlonrwydd o ran Cyllidebau Teithio Personol Anghenion Ychwanegol, gofynnwyd am eglurhad mewn perthynas â'r broses dalu.  Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar hyn o bryd yn cael opsiwn o gael mynediad at gludiant arbenigol.  Mewn achosion lle mae gan rieni gerbydau symudedd arbenigol, cafodd cyllideb deithio bersonol ei chynnig a fyddai'n destun cais sy'n cael ei wneud gan y rhiant.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai polisi ffurfiol yn cynnwys proses ddilysu drylwyr gan sicrhau bod ad-daliadau yn ddilys ac wedi'u gwneud i'r person cywir.

 

·      Wrth gyfeirio at y Safleoedd Casglu, gofynnwyd a fyddai strategaeth yn y dyfodol ac a fyddai'r cymunedau yn dal i allu eu defnyddio.  Esboniodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod nifer o safleoedd casglu yn cynnwys cyfleusterau i ailgylchu gwydr, tecstilau a nwyddau trydan ar hyn o bryd a fyddai'n cael eu cadw yn y tymor hir.  Fodd bynnag, byddai'r safleoedd casglu sy'n cynnig casgliadau gwydr yn unig yn cael eu mapio yn erbyn y galw presennol a'r gwasanaeth casglu gwydr a lansiwyd yn ddiweddar.  Byddai canlyniadau'r dadansoddiad yn llywio rhesymoli'r safleoedd casglu dros y 12 mis nesaf gyda'r bwriad gael gwared ar hyd at 50% erbyn 2024.

 

Ar ben hynny, pwysleisiwyd i'r Aelodau gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, o ystyried y ffaith bod y Cyngor yn atebol am ddirwy o £160k am bob 1% yn is na tharged statudol Llywodraeth Cymru na chaiff ei gyrraedd, ei bod yn bwysig i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o bwysigrwydd ailgylchu, nid yn unig ar gyfer y manteision i'r amgylchedd ond o safbwynt ariannol.

 

  • Cyfeiriwyd at Gynnal a Chadw Eiddo.  O ran y mesurau effeithlonrwydd ynni, dywedwyd bod Awdurdod cyfagos yn ceisio gwneud gostyngiad yn nhymheredd swyddfeydd i 19 gradd er mwyn arbed £26k.  O ystyried hyn, gofynnwyd a oedd yr Awdurdod hwn yn edrych ar arbedion effeithlonrwydd tebyg?  Dywedwyd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod Cyngor Sir Powys, yn debyg i Gyngor Sir Caerfyrddin, wedi ymrwymo i gyflawni Sero Net erbyn 2030.  Atgoffwyd Aelodau, fel y nodwyd yn y Cynllun Sero Net a gyflwynwyd yn gynharach eleni, fod yr Awdurdod wedi gwneud lleihad carbon o 34%, ond wrth ddadansoddi ymhellach roedd yn amlwg bod trydan 21% yn llai ac roedd nwy (gwres) ond 11% yn llai.  Ychwanegodd, er bod ymdrech sylweddol wedi digwydd i leihau carbon, mai un o'r heriau oedd bod gan yr Awdurdod hwn, fel nifer o Awdurdodau, lawer o hen adeiladau oedd yn anodd eu rhannu'n barthau.  Byddai data o ran y defnydd o ynni yn parhau i gael ei gasglu er mwyn llywio lle y byddai angen ymyriadau.

 

  • Cyfeiriwyd at Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Awgrymwyd y dylai'r Awdurdod fod yn ystyried opsiynau eraill ee. gweithio ar draws ffiniau neu gyflwyno tâl i'w defnyddio.  Yn ogystal, wrth ddweud bod yr oriau agor mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i'w gweld yn rhy gyfyng i'r cyhoedd sy'n gweithio 9-5 yn ystod yr wythnos, awgrymwyd bod oriau gweithredu'r holl safleoedd yn cael eu hail-ystyried.  Dywedwyd ymhellach bod staff asiantaeth yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd ar safleoedd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac y gallai'r defnydd o staff parhaol fod yn fwy effeithiol o ran cost.  Esboniodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar hyn o bryd yn cynnig gwasanaethau am ddim i ddeiliaid tai a phreswylwyr Sir Gaerfyrddin a bod ffioedd blaenorol ar gyfer cwsmeriaid gwastraff masnach ar waith a gyflwynodd broblemau sylweddol o ran ciwio a chreu oedi gormodol i breswylwyr sy'n defnyddio'r safleoedd.  Mewn ymateb, dargyfeiriwyd gwastraff masnach i'r cyfleuster gwastraff masnach yn Nant-y-caws, Caerfyrddin.  Amlygwyd bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ac y byddai unrhyw awgrymiadau ac adborth yn ymwneud â'r gweithrediadau a'r oriau yn cael eu croesawu drwy'r broses ymgynghori.  O ran goblygiadau staffio, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'n gofyn am eglurhad pellach gan Cwm Environmental Ltd. 

 

  • Cyfeiriwyd at y Gwasanaethau Parcio.  O ran y disgrifiad o'r arbedion effeithlonrwydd i ddechrau codi tâl mewn 9 maes parcio, oedd ar hyn o bryd am ddim i'w defnyddio, awgrymwyd y dylid edrych ar bob maes parcio fesul achos.  Teimlwyd, drwy gyflwyno taliadau am faes parcio sydd am ddim yn bresennol, y byddai'n cael effaith andwyol ar fusnesau cyfagos ac yn tanseilio eu hyfywedd.   Wrth godi pryder, gofynnwyd a fyddai'r incwm yn fwy na'r gost o godi tâl ac a oes unrhyw ymchwil neu arolwg wedi cael eu gwneud i gefnogi'r cynnig?  Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y bydd yr holl daliadau mewn meysydd parcio yn gyson â thollau parcio tebyg o fewn y Sir.  Amlygwyd, er y byddai buddsoddiad cyfalaf tymor byr i gyflwyno'r newidiadau parcio, byddai cynnydd i'r refeniw yn y tymor hir.

 

Cynigiwyd yn ffurfiol, o ran y cynnig ar gyfer cyflwyno taliadau parcio yn y 9 maes parcio, fel y nodwyd yn yr adroddiad, eu bod yn cael eu hadolygu gan yr Aelod Cabinet fesul achos.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

  • Mewn ymateb i bryder a godwyd ynghylch y cynnig i waredu hyd at 20% o finiau sbwriel, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai hynny'n cynnwys biniau sbwriel sydd wedi'u lleoli mewn cilfannau ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd ac ardaloedd nad ydynt yn fwynderau yn bennaf.  Awgrymodd ymchwil fod y sbwriel yn yr ardal honno wedi gwella lle mae biniau sbwriel wedi cael eu gwaredu oddi yno.  Byddai biniau mewn ardaloedd lle mae nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu cadw.  Byddai cael gwared ar y biniau yn broses a reolir.

 

Gofynnwyd, cyn gwaredu bin sbwriel, a ellid ymgynghori ag aelodau'r ward priodol?  Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai rhestr yn cael ei darparu i aelodau'r ward.  Gwnaed sylwadau mewn cytundeb bod biniau yn aml yn denu sbwriel ac yn cydnabod yr angen i waredu biniau sbwriel a'u gosod yn strategol.

 

Ymholiadau a godwyd ar Atodiad C (Crynhoad Taliadau):

 

·       Cyfeiriwyd at y cynnig i gynyddu'r Ffi Gweinyddu ar gyfer Hawlenni Parcio Preswylwyr.  Gwelwyd bod y cynnig yn dweud ei fod yn cael ei gynyddu 10%. Fodd bynnag, roedd y cynnydd arfaethedig yn y gost a nodwyd yn yr adroddiad, o £30 i £40, yn fwy na'r 10%.  Awgrymwyd cynyddu'r ffi i £50, fyddai'n cyfateb i lai na £1 yr wythnos i breswylwyr.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai'r rhesymeg y tu ôl i'r cynnydd o £10 oedd nad oedd cynnydd wedi ei wneud ers 2009.

 

·       Cyfeiriwyd at yr Hysbysiadau Cosb Benodedig.  Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod y taliadau wedi'u hamlinellu yn Atodiad C ar gyfer yr Aelodau, ond cynigiodd amser ychwanegol i'r Pwyllgor Craffu pe dymunant i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen gynnal yr adolygiad ar reoli tipio anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin i ystyried tâl yr Hysbysiad Cosb Benodedig cyn dod i gytundeb.  Dywedodd y Cadeirydd wrth ddiolch i'r Aelod Cabinet, y byddai'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn sicrhau y byddai'r tâl mewn perthynas â'r Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd o ran y Cynllun Prynu â Hyder, cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wrth gynnig dosbarthu'r union niferoedd aelodaeth i'r cynllun i Aelodau yn dilyn y cyfarfod, fod y cynllun yn cael ei hyrwyddo'n weithredol.

 

·       O ystyried y gyllideb, codwyd cwestiwn cyffredinol ynghylch y targedau Sero Net.  Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd

 

·       Mewn ymateb i ymholiad cyffredinol a godwyd mewn perthynas ag effaith y gyllideb a thargedau Sero Net, nododd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd y byddai cyfyngiadau cyllidebau yn naturiol yn herio'r uchelgais i gyrraedd carbon Sero Net erbyn 2030. Fodd bynnag, roedd pecyn cymorth wedi'i gyflwyno a oedd yn galluogi modelu gwahanol senarios i lywio'r dull gorau o ran sut i gyrraedd y targed o fod yn Sero Net erbyn 2030 yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon.

 

PENDERFYNWYD:-

 

5.1

 

5.2

derbyn Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2023/24 i 2025/26;

 

derbyn y cynigion ar gyfer cyflawni arbedion effeithlonrwydd fel y nodwyd yn Atodiad A(i);

 

5.3

 

 

bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn;

5.4

bod y cynnig ar gyfer cyflwyno taliadau parcio yn y 9 maes parcio fel y nodir yn yr adroddiad yn cael ei adolygu gan yr Aelod Cabinet fesul achos.

 

 

Dogfennau ategol: