Agenda item

CWRICWLWM I GYMRU A CHYMORTH A DDARPERIR I YSGOLION

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r cymorth oedd ar gael i ysgolion, lleoliadau arbenigol ac Unedau Cyfeirio Disgyblion Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir a'r consortiwm rhanbarthol, Partneriaeth, wrth iddynt hwyluso gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru. Yn unol â Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, roedd ysgolion cynradd wedi gweithredu'r cwricwlwm newydd ym Medi 2022, tra byddai ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd o fis Medi 2023 ymlaen.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ddatblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru a oedd yn ceisio sicrhau addysgeg gadarn ac effeithiol i ddiwallu anghenion disgyblion unigol ar bob lefel, er mwyn galluogi ysgolion i symud ymlaen yn effeithiol yn unol ag amcanion y Genhadaeth Genedlaethol. Yn unol â hynny, roedd y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi'i drefnu ar sail 6 Maes Dysgu a Phrofiad, ac yn cael ei ategu gan Gyfrifoldebau Traws Gwricwlaidd Llythrennedd, Rhifedd, Cymhwysedd Digidol a'r Sgiliau Ehangach.

 

Roedd y cyflwyniad yn manylu ar natur y cymorth a ddarperir i fynd i'r afael â'r heriau mae ysgolion yn eu hwynebu wrth gadw at yr ystod o elfennau cymhleth a gorfodol sy'n ofynnol wrth ddatblygu a darparu'r cwricwlwm newydd. Yn hyn o beth, darparwyd trosolwg o Gynllun Busnes Partneriaeth i'r Pwyllgor. Roedd y cwricwlwm newydd yn greiddiol i amcanion strategol a Chynnig Dysgu Proffesiynol Partneriaeth, yn ogystal â darparu cefnogaeth bwrpasol, leol i ysgolion. 

 

Derbyniodd y Pwyllgor grynodeb o Strategaeth Wella Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yr Awdurdod, a oedd yn cyd-fynd â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwella Ysgolion a'r nod oedd gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i adlewyrchu ar gynnydd y disgyblion o ganlyniad i ddarpariaeth y cwricwlwm. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i gynnig Dysgu Proffesiynol Sir Gâr ar gyfer ysgolion.  Daeth y cyflwyniad i'r casgliad fod y meysydd blaenoriaeth ar gyfer 2022-2023 yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

 

·       Llywodraeth Cymru a chyfarfodydd traws rhanbarthol; rhannu meysydd a disgwyliadau ffocws allweddol mewn modd amserol

·       Strategaeth a dysgu proffesiynol mewn perthynas â Dylunio'r Cwricwlwm; rhoi'r ddamcaniaeth ar waith

·       Defnydd effeithiol o adnoddau ariannol

·       Dilyniant sgiliau

·       Gweithio mewn clwstwr 

·       Pontio 

·       Asesiad a chynnydd (o fewn pob maes dysgu a phrofiad) 

·       Rhannu arferion effeithiol ar draws ysgolion

 

Croesawodd y Pwyllgor y gwaith cadarnhaol oedd yn cael ei ddatblygu ar draws yr ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, ond roedd yn cael ei gydnabod bod lefel y cynnydd yn amrywio ar draws ysgolion.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr heriau o ran y nifer fach oedd yn manteisio ar y dysgu proffesiynol oedd yn cael ei gynnig gan Partneriaeth, a'r diffyg cefnogaeth ganfyddedig i ysgolion ar gyfer datblygu'r cwricwlwm.  Roedd problemau capasiti mewn ysgolion wedi'u nodi fel rhwystr allweddol i gael mynediad at hyfforddiant ac roedd lefel y cynnydd yn amrywio ar draws ysgolion. Yn unol â hynny, roedd dull pwrpasol ar lefel Awdurdod Lleol wedi cael ei weithredu ar gyfer Sir Gaerfyrddin i gefnogi anghenion ysgolion ac a oedd yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant i ddeall cynnydd disgyblion (3-16 oed) yn y Cwricwlwm i Gymru, ac yn mynd i'r afael â'r elfennau gorfodol oedd yn ymwneud â'r datganiadau 'beth sy'n bwysig'.  Dywedwyd bod sesiynau hyfforddi a datblygu ar gael i ysgolion drwy gyfrwng sesiynau a ddarperid ar adegau oedd yn gyfleus i ysgolion, ac roedd recordiadau ohonynt hefyd ar gael ar-lein er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.

 

Fe godwyd pryder o ran y pwysau oedd yn wynebu ysgolion o ystyried y llwyth gwaith sylweddol ar athrawon a staff ysgol.  Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod y problemau capasiti wedi cael eu cydnabod gan yr Awdurdod Lleol a Phartneriaeth, a bod ymdrechion yn cael eu gwneud i fynd i'r afael â'r mater.  Yn hyn o beth, cyfeiriwyd at lwyfan 'Porth' a oedd yn rhoi mynediad canolog i amrywiaeth eang o adnoddau i ysgolion gan Lywodraeth Cymru, Partneriaeth a'r Awdurdod Lleol.  Cafodd rôl yr Awdurdod Lleol a Phartneriaeth o ran rhannu gwybodaeth a chyfathrebu ei phwysleisio i'r Pwyllgor, yn ogystal â darparu cymorth pwrpasol, hyblyg ac ymarferol i ysgolion.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod, eglurwyd y gallai ysgolion ddefnyddio diwrnodau HMS ar gyfer materion oedd yn ymwneud â'u blaenoriaethau ar hyd y cwricwlwm. Fodd bynnag roedd darpariaeth hyfforddiant gyffredinol yn amhriodol gan fod clystyrau o ysgolion ar wahanol gamau o ran eu cynnydd wrth ddatblygu a gweithredu'r Cwricwlwm newydd i Gymru, ac felly roedd angen i ysgolion gael mynediad at hyfforddiant gwahanol ar wahanol adegau, ar sail dull economi gymysg.  Ar ben hynny, eglurwyd bod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi'i seilio ar set greiddiol o sgiliau, syniadau a datganiadau 'beth sy'n bwysig', ond bod pwyslais sylweddol ar addysgu o fewn y cyd-destun lleol i wella'r dysgu.

 

Codwyd ymholiad ynghylch effaith yr arbediad effeithlonrwydd arfaethedig o £75k ar gyfer Partneriaeth yng nghyllideb 2023/24. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod cyfraniad Sir Gâr i Partneriaeth yn llai o gymharu ag eraill, gan fod y Tîm Gwella Ysgolion yn cael ei gadw'n lleol o fewn yr Awdurdod Lleol.  Hefyd, nid oedd angen cyfraniad craidd ar gyfer 2023/24, gan y byddai Partneriaeth dal yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i dalu costau craidd. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau