Agenda item

CYNLLUN BUSNES 2023-26 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor wybod fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023 [gweler cofnod 11 o'r cyfarfod hwnnw], wedi ystyried Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-26 - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin a esboniodd y weledigaeth a manylion Rhaglen Buddsoddiadau Tai y Cyngor dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau i wella'r stoc dai, y rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynlluniau i ddod yn garbon sero net.

 

Dywedodd yr aelod Cabinet dros Gartrefi, wrth gyflwyno'r adroddiad, fod y Cynllun yn amlinellu y byddai'r Cyngor yn parhau i ddarparu rhaglen gynhwysfawr o waith i dai a chynnal gwasanaethau i'w holl denantiaid. Yn benodol, byddai'r incwm gan renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill dros y tair blynedd nesaf yn galluogi'r Awdurdod i ddatblygu rhaglen gyfalaf dros £103m, a fyddai'n:

·       gwella a chynnal y stoc dai bresennol, lleihau nifer y tai gwag Cyngor a delio â'r gwaith atgyweirio sydd wedi pentyrru, rhoi gwybod i denantiaid am gynnydd;

·       cefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o gartrefi fforddiadwy newydd i sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael i'r rhai mewn angen;

·       cefnogi egwyddorion Carbon Sero Net y Cyngor, creu cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy i denantiaid leihau'r gost o gynnal a chadw cartref;

·       helpu i ysgogi twf economaidd, creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn y sir; a

·       helpu i greu cymunedau cynaliadwy cryf - lleoedd lle mae pobl yn falch o allu eu galw'n gartref iddyn nhw.

 

Mynegodd y gobaith y byddai'r aelodau yn cytuno bod y Cynllun yn gynhwysfawr ac yn uchelgeisiol ac y byddai'n caniatáu i'r Awdurdod gyflawni blaenoriaethau allweddol i denantiaid y Cyngor a theuluoedd agored i niwed. I gloi, dywedodd hi fod hon yn rhaglen fuddsoddi enfawr a diolchodd i bawb oedd wedi cyfrannu at y gwaith o'i datblygu a'r staff oedd yn fodlon helpu eraill.

 

Mewn ymateb i bryderon ynghylch y gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer yr holl waith mewnol ar waith tai a thai gwag a gwaith mawr i dai, ac a yw'r swm yn ddigon i ddelio â'r ôl-groniad o waith, bu i'r Aelod Cabinet dros Gartrefi fynegi hyder bod y gyllideb yn ddigon ond rhoddodd sicrwydd i'r Cyngor fod y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd. Ychwanegodd fod pob ymdrech yn cael ei wneud i ddenu adeiladwyr ac ati i gael eu cyflogi gan y Cyngor fel bod ganddo ei dimau ei hun i wneud gwaith o'r fath.

 

Dywedwyd y gallai gosod paneli haul ar dai cyngor helpu aelwydydd sy'n wynebu costau gwresogi uwch yn fawr.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

5.4.1 ‘Cadarnhau'r weledigaeth ar gyfer ein rhaglenni buddsoddiadau tai dros y tair blynedd nesaf;

 

5.4.2 Cytuno y gellir cyflwyno Cynllun Busnes 2023-26 i Lywodraeth Cymru;

 

5.4.3. Nodi'r cyfraniad y gwnaeth y Cynllun i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2000 o gartrefi newydd;

 

5.4.4 Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun hwn a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a chreu swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddiant.’

Dogfennau ategol: