Agenda item

AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y meysydd i'w hystyried mewn perthynas ag Ail Gartrefi/Cartrefi Gwyliau Tymor Byr ac Eiddo Gwag.  A gafodd ei lunio yn dilyn pryderon a godwyd ar lefel leol a chenedlaethol am effaith ganfyddedig niferoedd cynyddol ail gartrefi ac eiddo gwag ar ein cymunedau.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, wrth gyflwyno'r adroddiad, yn 2021, fel rhan o'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, y cyhoeddwyd ffyrdd o fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, gan gynnwys yr hawl i godi'r premiwm i 300% a defnyddio'r weithdrefn gynllunio a thrwyddedau. Yn ganolog i'r bwriad oedd sicrhau tegwch, a bod modd cael tai fforddiadwy o ansawdd da i bawb tra bo'r perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau lle prynir yr eiddo.

 

Tynnwyd sylw Aelodau'r Cabinet at yr argymhellion fel y nodir yn yr adroddiad.  Dylid gwneud cywiriad i'r argymhelliad ynghylch ail gartrefi, i fod yn gywir, yr argymhelliad o ran premiwm oedd ystyried codi premiwm o naill ai 50% neu 100% ar Ail Gartrefi.

 

Nodwyd bod gan Sir Gaerfyrddin tua 2,300 o dai gwag ar unrhyw adeg benodol.  Yn ogystal, o dan y ddarpariaeth newydd, t? gwag hirdymor yw preswylfa sydd wedi bod yn wag a heb ei ddodrefnu'n sylweddol am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf. Mae tua 1,300 o dai o'r fath yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd yr heriau wrth ddelio ag eiddo o'r fath yn eang ac yn amrywiol ac mae llawer o'r cyfrifoldeb dros geisio mynd i'r afael â'r problemau hyn yn disgyn ar awdurdodau lleol.  Er bod gan yr Awdurdod Lleol y cyfrifoldeb a'r pwerau cyfreithiol i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, nid oedd yn ymarferol nac yn ddymunol ym mhob achos.

 

Dywedwyd bod codi Premiymau'r Dreth Gyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi yn un opsiwn oedd ar gael i'r Awdurdod er mwyn rheoli'r sefyllfa yn lleol.  Fodd bynnag, rhaid ystyried y dyletswyddau statudol i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Cydraddoldeb Cyhoeddus Cymru 2011, a phob ystyriaeth berthnasol arall.

 

Yn ogystal, dylid ystyried cysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac ymgynghori, gan gynnwys yr etholwyr lleol, cyn penderfynu a ddylid codi premiwm yn y naill achos neu'r llall.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1    Cynnal ymgynghoriad ac asesiad effaith ar gyflwyno premiymau'r dreth gyngor ar eiddo gwag gyda chynnig bod y canlynol yn cael ei gyflwyno:

 

       50% i'r rhai sydd wedi bod yn wag rhwng 1 a 2 flynedd;

       Wedyn byddai lefel y premiwm yn cynyddu i 100% i'r eiddo hynny sydd wedi bod yn wag rhwng 2  a 5 mlynedd;

       wedyn cynnydd pellach i 200% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am 5 mlynedd neu hirach;

 

12.2    Cynnal ymgynghoriad ac asesiad effaith ar gyflwyno premiymau'r dreth gyngor ar Ail Gartrefi/cartrefi gwyliau gyda chynnig o godi premiwm o naill ai 50% neu 100% ar gyfer pob eiddo sy'n cael ei ddosbarthu fel ail gartref o dan Ddosbarth B o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau