Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2023-26 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, a oedd yn:
· egluro gweledigaeth a manylion y rhaglen buddsoddiadau tai dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau gwella stoc tai, y rhaglen adeiladu tai newydd, cynlluniau carbon sero net, a'r hyn roeddent yn ei olygu i'r tenantiaid.
· cydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar denantiaid y Cyngor.
· cadarnhau'r incwm fyddai'n dod i law drwy renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill dros y tair blynedd nesaf a sut roedd hynny'n galluogi datblygu rhaglen gyfalaf oedd yn fwy na £103m,
· cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni'r rhaglen buddsoddiadau tai a thai cyngor newydd dros y tair blynedd nesaf
· llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2023/24, a oedd yn cyfateb i £6.2m.
Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pum thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru busnes am y tair blynedd nesaf:-
- Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;
- Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi a'n Hystadau;
- Thema 3 - Darparu rhagor o dai;
- Thema 4 – Darparu Cynhesrwydd Fforddiadwy a Datgarboneiddio'r Stoc Dai;
- Thema 5 - Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Cyfeiriwyd at gyflwr sawl eiddo yn Dan y Banc, Felinfoel, Llanelli. Cadarnhawyd bod archwiliadau'n cael eu cynnal mewn perthynas â phroblemau draenio yn yr ardal a bod bwriad i fuddsoddi er mwyn gallu defnyddio'r eiddo hyn unwaith eto.
· O ran tai gwag, cadarnhawyd bod problemau yn y diwydiant adeiladu ar ôl covid, megis argaeledd contractwyr a chodiadau ym mhris deunyddiau, yn cael effaith wael ar yr amserlenni o ran trefnu dychweliad tai gwag i'r stoc dai. Roedd y Cyngor wedi cymryd sawl cam i ostwng y lefelau dros y misoedd diwethaf, a oedd wedi arwain at ostyngiad o 25% yn lefelau'r tai gwag, ac, er bod tua 300 o dai gwag ar hyn o bryd, y nod oedd lleihau hynny i tua 200. Fodd bynnag, dylid derbyn byddai rhai tai gwag yn bodoli bob amser gan y byddai angen gwneud gwelliannau / gwaith cynnal a chadw ar eiddo cyn ei ail-osod. Ymhlith y mesurau eraill fyddai'n cael eu cyflwyno er mwyn lleihau tai gwag fyddai datblygu fframwaith mân waith newydd i gynnwys contractwyr bach lleol, a datblygu tîm mewnol i ymgymryd â gwaith ar dai gwag.
· O ran Thema 1 a chefnogi tenantiaid, roedd y Cyngor wedi cyflwyno ardaloedd llai i swyddogion tai eu rheoli, er mwyn iddynt allu rhoi cyngor a chymorth i denantiaid oedd angen help. Byddai'r Gwasanaeth Ailgartrefu Cyflym hefyd yn darparu gofal cofleidiol i'r rheiny mewn angen, ac roedd y cynigion ar gyfer datblygu'r gwasanaeth gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i'w cymeradwyo
· Cyfeiriwyd at Thema 4 a'r cynigion i ddarparu 2,000 o dai ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf ac at sut byddai'r cynnydd hwnnw'n cael ei reoli. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr adran yn buddsoddi yn ei darpariaeth rheng flaen, ac, yn y flwyddyn newydd, byddai'n edrych ar ofynion adnoddau a buddsoddi y dyfodol
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR:-
6.1 |
Cadarnhau gweledigaeth y Rhaglen Buddsoddiadau Tai dros y tair blynedd nesaf; |
6.2 |
Cytuno y gellid cyflwyno Cynllun Busnes 2023/24 i Lywodraeth Cymru |
6.3 |
Nodi'r cyfraniad a wnaeth y Cynllun i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o gartrefi newydd |
6.4 |
Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a chreu swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddiant. |
Dogfennau ategol: