Agenda item
HOUSING REVENUE ACCOUNT BUDGET AND HOUSING RENT SETTING FOR 2023/24
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2023/24 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn y Cynllun Cyflawni Tai ac Adfywio.
Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2023/24 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:-
· Y Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol (a bennir gan Lywodraeth Cymru)
· Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin
· Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai
O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19, a roddodd gysondeb dros y cyfnod hwnnw. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy.Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am gyfnod pellach o 5 mlynedd rhwng 2020/21 – 2024/25 gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad.
Roedd y polisi hwn yn caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 5/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn cynyddu mwy na CPI+1%.
Fodd bynnag, os bydd CPI y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, mae'r polisi'n darparu i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am Dai benderfynu ar y newid priodol i lefelau rhent i'w gymhwyso ar gyfer y flwyddyn honno yn unig. Gan fod CPI yn 10.1% ym mis Medi 2022, roedd y cymal hwnnw wedi'i actifadu eleni ac roedd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud na ddylai'r cynnydd mwyaf yn yr amlen rent ar gyfer unrhyw awdurdod lleol fod yn fwy na 6.5%.
O ystyried yr uchod, roedd yr adroddiad yn argymell cynnydd rhent tai cyfartalog o 5.5% (£5.18) fesul preswylfa. Pe bai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnydd hwnnw, byddai'n arwain at ddiffyg o £4.6m ar y Cyfrif Refeniw Tai. Fodd bynnag, cynlluniwyd ar gyfer hynny yn y cynllun tymor hir, gan adael balans o £13.9m ar ddiwedd 2023/24. Dywedwyd hefyd, fel y manylwyd yn Atodiad A, fod angen balansau i gefnogi'r strategaeth bresennol o ariannu gwariant cyfalaf a pharhau i wneud y cynllun busnes yn fforddiadwy dros gyfnod o 30 mlynedd.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad
· Cyfeiriwyd at rôl rhanddeiliaid unigol mewn perthynas â Bandiau Rhent Targed. Cadarnhawyd bod y Cyngor yn cynnal arolwg fforddiadwyedd wrth ymgysylltu â thenantiaid ar y cynigion, a byddai'r ymatebion a oedd wedi dod i law hyd yn hyn yn cael eu hadrodd yn ôl fel rhan o'r broses ymgynghori.
· O ran codi taliadau gwasanaeth ar gyfer tenantiaid, roedd hynny'n ymwneud â thaliadau cymunedol mewn tai gwarchod er enghraifft costau ynni, gyda'r gost yn seiliedig ar y defnydd ym mhob cartref. Ar hyn o bryd £3 yr wythnos oedd y tâl, ond oherwydd y cynnydd diweddar ym mhrisiau tanwydd, roedd yr awdurdod yn wynebu colled o £600k ar y ddarpariaeth honno.
· Roedd atodiad B i'r adroddiad yn nodi dyblu benthyciadau allanol i ariannu gwariant cyfalaf a gofynnwyd am eglurhad a oedd unrhyw risgiau cysylltiedig wedi'u lliniaru. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Adnoddau Corfforaethol, gan fod benthyca'r Cyngor yn y tymor hir e.e. 40 -50 mlynedd, na ddylai unrhyw godiad yn y gyfradd fod yn risg dros y cyfnod hwnnw. Gan fod y Cynllun Busnes Tai dros gyfnod o 30 mlynedd, gellid rheoli amrywiannau tymor byr o fewn y cynllun. Fodd bynnag, roedd yn bwysig bod rhenti'n cael eu pennu ar y lefel iawn i gynnal ei hygrededd.
· O ran y cynnig bod rhenti garejis yn cael eu cadw ar y lefelau presennol, cadarnhawyd bod hynny oherwydd bod adolygiad yn cael ei gynnal ac nad oedd cynlluniau buddsoddi ar gyfer y gwasanaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR:-
5.1 |
Cynyddu'r rhent tai cyfartalog 5.5% (£5.18) fesul preswylfa yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a thrwy hynny gynhyrchu Cynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+ ac adnoddau'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai, fel y'i cefnogir gan y Tîm Strategol Tai ac Adfywio; |
5.2 |
Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos; |
5.3 |
Rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny; |
5.4 |
Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti; |
5.5 |
Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai am 2023/26 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2024/25 a 2025/26), fel y nodwyd yn Atodiad A; |
5.6 |
Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2023/24, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2024/25 hyd 2025/26, fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad. |
Dogfennau ategol:
- Crynodeb, eitem 4. PDF 112 KB
- Adroddiad, eitem 4. PDF 163 KB
- Atodiad A, eitem 4. PDF 124 KB
- Atodiad B, eitem 4. PDF 161 KB
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth