Cofnodion:
Gan gyfeirio at gofnod 3.2 o'r cyfarfod ar 11 Mawrth 2022, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod mewn ymateb i adolygiad Archwilio Cymru o drefniadau'r Cyngor i gynllunio a darparu ei wasanaethau gwastraff yn gynaliadwy. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru o Wasanaethau Gwastraff yr Awdurdod.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cynllun gweithredu a atodwyd wrth yr adroddiad a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r 8 argymhelliad allweddol a oedd yn deillio o ganfyddiadau'r archwiliad, ynghyd â chrynodeb o Brosiect y Strategaeth Wastraff.
Adroddwyd bod 7 o'r 8 prif argymhelliad wedi'u cwblhau, a bod yr argymhelliad arall yn ymwneud â gweithredu cynllun i fynd i'r afael yn gynaliadwy â nifer uchel yr achosion o dipio anghyfreithlon, drwy gyhoeddi Cynllun Ansawdd Amgylcheddol Lleol, gwaith partneriaeth parhaus drwy gyfrwng y prosiect 'Caru Cymru' a ffurfio gr?p gorchwyl a gorffen craffu.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
· Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch y gwasanaeth casglu sbwriel newydd, rhoddwyd trosolwg o'r strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu i'r Aelodau, a oedd yn cynnwys darparu pecynnau gwybodaeth a blychau gwydr i bob cartref. Hefyd byddai ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a phresenoldeb mewn grwpiau cymunedol a phwyntiau Hwb er mwyn rhoi sylw'n uniongyrchol i unrhyw bryderon neu ymholiadau gan drigolion. Dywedwyd y gallai pobl hefyd gofrestru i gael gwasanaeth e-bost a/neu neges destun lle byddai neges atgoffa'n cael ei chyflwyno cyn y diwrnodau casglu.
· Yn sgil ymholiad gan Aelod, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff Dros Dro byddai'r ddarpariaeth banciau poteli bresennol yn aros yn y tymor byr yn dilyn cyflwyno'r gwasanaeth casglu gwastraff diwygiedig, ac wedyn byddai adolygiad yn cael ei gynnal gyda'r bwriad o ddarparu cyfleusterau mewn lleoliadau strategol yn y tymor hwy, yn seiliedig ar y galw. Yn hyn o beth, rhoddwyd sicrwydd i Aelodau y byddai unrhyw ad-drefnu o'r cyfleusterau banciau poteli yn cael ei adolygu gan y pwyllgor craffu priodol.
· Anogwyd yr Aelodau i nodi'r cynnydd sylweddol a wnaed i fynd i'r afael ag argymhellion Archwilio Cymru, a roddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod y materion a glustnodwyd wedi cael eu hunioni neu fod hynny'n digwydd ar y pryd. O ystyried yr adroddiad cadarnhaol, cynigiwyd y gallai'r adolygiad o'r gwasanaethau gwastraff gael ei ddileu o Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2022/23.
PENDERFYNWYD:
3.1 |
Nodi'r cynnydd a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn ymateb i argymhellion Archwilio Cymru ar y gwasanaethau gwastraff.
|
3.2 |
Gwaredu'r adolygiad o'r gwasanaethau gwastraff o Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2022/23. |
Dogfennau ategol: