Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd M. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac yn ystod y bleidlais.]
Yn dilyn cofnod 7 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2022, bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad yn nodi yr ail Fersiwn Adneuo Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig a nododd Weledigaeth, Amcanion Strategol a gofynion Twf Strategol y Cyngor o ran defnydd tir ar gyfer y Sir hyd at 2033. Roedd y CDLl yn cynnwys set fanwl a chynhwysfawr o bolisïau a darpariaethau, gan gynnwys dyraniadau safle-benodol at ddefnydd tai a chyflogaeth, yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol a gofodol eraill. Cydnabuwyd bod cyfres o ffactorau wedi effeithio ar gynnydd a chynnwys y Cynllun gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lefelau ffosffad mewn afonydd gwarchodedig a phandemig Covid-19.
Gofynnwyd am gymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi'r CDLl a'r dogfennau ategol fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol am gyfnod statudol o 6 wythnos o leiaf a fyddai'n dechrau ym mis Ionawr 2023. Ar ôl hynny, byddai'n destun archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio Penodedig Llywodraeth Cymru gyda'r bwriad o'i fabwysiadu'n ffurfiol yn 2024.
Mewn ymateb i bryder a godwyd mewn perthynas â hyd y CDLl eglurwyd bod fformat yr adroddiad wedi'i ragnodi gan Lywodraeth Cymru, ac felly roedd yn angenrheidiol i'r Cyngor gydymffurfio â'r fformat hwnnw wrth baratoi'r ddogfennaeth.
Cyfeiriwyd at ganlyniadau'r Cyfrifiad diweddar o ran twf yn y boblogaeth a lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut yr ymdrinnir â'r rhain yn y CDLl. Pwysleisiwyd bod y CDLl, ynghyd â'i wybodaeth ategol, yn ddogfennau datblygol a fyddai'n datblygu hyd nes eu bod yn cael eu cyhoeddi. Roedd hyn yn adlewyrchu argaeledd rhai darnau o dystiolaeth ac amserlenni sy'n gysylltiedig â pharatoadau'r CDLl i sicrhau bod y wybodaeth fwyaf cyfredol yn cael ei chynnwys pan fyddai'r dogfennau'n cael eu cyhoeddi. Darparwyd sicrwydd bod y CDLl, fel dogfen gyfannol, yn cynnwys ystod o Gynlluniau a Strategaethau allweddol eraill o fewn yr Awdurdod.
Rhoddodd y Rheolwr Blaen-gynllunio drosolwg o'r fethodoleg ymgysylltu a'r broses ymgynghori a fabwysiadwyd lle cyflwynwyd y CDLl drwy sylwadau ysgrifenedig a fyddai'n cael eu hategu gan ddarluniadau a mapiau digidol i annog rhyngweithio. Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'r broses ymgynghori yn darparu dulliau priodol i fynd i'r afael â phryderon neu anghysondebau o ran dyraniadau'r safle a sut y cawsant eu portreadu yn y CDLl.
Rhoddwyd teyrnged i'r diweddar Gynghorydd Mair Stephens yn ystod ei chyfnod yn y swydd fel Cadeirydd y Panel Trawsbleidiol. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio, mewn ymateb i sylwadau a wnaed, fod trigolion lleol yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer tai fforddiadwy ac y dylai Aelodau eu hannog i gofrestru ar gyfer tai fforddiadwy a/neu dai cymdeithasol, fel y bo'n briodol.
Eglurodd y Rheolwr Blaen-gynllunio i'r Aelodau fod y CDLl yn ceisio rhoi ail wynt i ganol trefi o ran eu bywiogrwydd a'u hyfywedd, a bod y swyddogaeth fanwerthu yn cael ei chefnogi gan wasanaethau ategol eraill i gynyddu nifer yr ymwelwyr a'r bywiogrwydd.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
6.1 |
Cymeradwyo cynnwys yr ail Fersiwn Adneuo Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018 - 2033 (a dogfennau atodol) at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.
|
6.2 |
Rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno'r Fersiwn Drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol ynghylch Cilfach Byrri ac Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr i'w fabwysiadu yr un pryd â'r CDLl Diwygiedig.
|
6.3 |
Nodi'r Nodyn Briffio Drafft ar yr Adroddiad Twf Economaidd a Thai sy'n cael ei lunio a chytuno ar yr Opsiwn Twf diwygiedig a argymhellir.
|
6.4 |
Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud unrhyw addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder o ran ystyr. |
Dogfennau ategol: