Agenda item

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod cwestiwn brys wedi'i gyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.4b.

 

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A'R GYMRAEG

 

“A allai'r Aelod Cabinet dros Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd yn nifer yr achosion o'r dwymyn goch yn ein hysgolion yn yr wythnos ddiwethaf?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:-

 

“Diolch yn fawr, Gadeirydd, a diolch i Rob am y cwestiwn, sef cwestiwn amserol iawn a chwestiwn hynod bwysig wrth gwrs. A dweud y gwir, os nad oedd cwestiwn yn codi ynghylch hyn, roeddwn i wedi bwriadu gofyn am ganiatâd y Cadeirydd i ddweud gair am hyn. Daeth y dwymyn goch i'm sylw yn gyntaf oll pan glywais fod llawer o blant yn yr ysgol leol ym Mrynaman yn dioddef o'r dwymyn goch. Roedd hyn yn bryder mawr i mi fel Cadeirydd y Llywodraethwyr a hefyd i'r staff yn yr ysgol. Dros yr wythnosau diwethaf mae dau ddwsin o blant yn yr ysgol wedi bod yn dost. Mae dau o'r plant wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty ac mae un yn dal i fod yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae'r dwymyn goch, neu Scarletina, yn glefyd difrifol iawn. Mae'n heintus iawn ac mae'n cael ei achosi gan facteria, sef y bacteria streptococus gr?p A, ac rydym yn gyfarwydd iawn â'r term 'Strep A’. Mae'n lledaenu'n hawdd iawn, drwy gael cyswllt uniongyrchol â pherson sy'n dioddef o'r clefyd neu drwy'r aer. Mae diferion yn yr aer, oherwydd peswch neu disian, ac yna mae'r clefyd yn lledaenu.  Ac wrth gwrs, cofiwch y gall ledaenu hefyd drwy ddefnyddio'r un offer neu declynnau â phobl eraill. Symptomau'r dwymyn goch yw brech sy'n teimlo fel papur swnd wrth ei gyffwrdd;  mae'r symptomau eraill yn cynnwys tymheredd uchel, wyneb bochgoch a thafod chwyddedig coch - efallai eich bod wedi clywed am 'dafod mefus’. Ar ôl cael diagnosis mae'r driniaeth yn eithaf syml ac fel arfer mae'n cynnwys cwrs o wrthfiotigau penisilin. Nawr, tynnwyd fy sylw at un gofid. Roeddwn yn siarad â dyn, fy mab, sy'n feddyg teulu, ac mae prinder gwrthfiotigau ar hyn o bryd. Mae gennym achosion yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Rwy'n gwybod bod 5 ysgol wedi'u heintio i raddau amrywiol a rhai plant, fel y soniwyd amdanynt, wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty.  Mae achosion mewn sawl sir arall ac rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Rydym yn gweithio gyda nhw ac yn ymateb ar unwaith i'r achosion hyn. Fore Llun, cafodd ein Penaethiaid y wybodaeth ddiweddaraf am y mater pwysig iawn hwn, ac rydym wedi rhannu llythyr gwybodaeth a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am y symptomau a hefyd sut i ymateb.  Mae'n bwysig iawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth o hyn; Mae staff ein hysgolion yn ymwybodol o hyn, ac maent yn cadw llygad ar y sefyllfa, ac yn cadw golwg am blant sydd â thymheredd uchel neu sydd â llwnc tost neu frech. Y neges yw y dylai unigolyn sy'n dost gadw draw o'r ysgol am 24 awr ar ôl cychwyn triniaeth wrthfiotig; mae'n bwysig iawn. Mae'n rhaid i'r ysgolion ddilyn y canllawiau hyn y maent wedi eu cael, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n hysgolion. Os oes dau neu ragor o achosion yn yr un lleoliad yn yr ysgol mewn cyfnod o 10 diwrnod, byddai'n rhaid i'r ysgol roi gwybod i'r tîm diogelu iechyd i gael rhagor o arweiniad. Maent ar gael ar eu cyfer. A chofiwch hefyd, am yr hyn y gwnaethon yn ystod y pandemig wrth gwrs. Roeddem yn ofalus iawn, yn golchi ein dwylo'n rheolaidd, felly gwnewch hyn eto. Peidiwch â pheswch na thisian yn agored; cofiwch y slogan 'Ei ddal, ei daflu, ei ddifa', sydd mor bwysig. Gall hyn, wrth gwrs, atal yr haint rhag lledaenu. Cafodd llythyr ei baratoi gan y Swyddogion ac mae wedi'i anfon at rieni a gofalwyr; os ydynt yn pryderu am unrhyw beth, y neges glir yw cysylltu â'ch meddyg teulu ar unwaith a hefyd byddwn yn gwneud popeth yn yr adran addysg i helpu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn monitro'r sefyllfa yn ofalus iawn, felly diolch unwaith eto am y cwestiwn."

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James:

 

“Ydych chi'n credu y bydd sefyllfa lle ceir nifer uchel o achosion o 'STREP A' yn ein hysgol, y byddwn yn ymgysylltu â'n Corff Llywodraethu i weld a allwn gynyddu ein trefniadau glanhau? Fel y nodoch chi, mae'n glefyd heintus iawn ac mae glendid yn amlwg yn ffactor pwysig, felly mae gen i ddiddordeb clywed eich barn ynghylch hynny.”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:-

 

Ie, pwynt pwysig iawn  yn wir, Rob. Rydym yn monitro'r sefyllfa. Dyma'r hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi ar hyn o bryd ac rydym yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn cael arweiniad ganddynt ynghylch yr hyn y dylem fod yn ei wneud. Os yw'r sefyllfa'n dod mor ddifrifol â hynny, efallai y bydd yn rhaid i ni gymryd camau tebyg i'r hyn a wnaethom yn ystod pandemig COVID.  Ar hyn o bryd nid yw hynny'n digwydd, ond fel y dywedais, rydym yn gwrando, rydym yn siarad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru bob dydd, ac rydym yn gwrando arnynt ac yn cael arweiniad ganddynt a byddwn yn ufuddhau i beth bynnag maent yn ei ddweud wrthym.  Diolch, Rob.”