Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn atodiad i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2021/22. Roedd yr adroddiad yn gofyn am ystyriaeth y pwyllgor mewn perthynas â'r meysydd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros y Gweithlu a Threfniadaeth golwg gorfforaethol ar yr adroddiad i'r Pwyllgor. Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith rannau o'r adroddiad blynyddol sy'n rhan o faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu.
Canolbwyntiodd yr Aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor:
· Amcan Llesiant 10: Gofalu am yr amgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol
· Amcan Llesiant: Gwella seilwaith a chysylltedd priffyrdd a thrafnidiaeth
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at dudalen 72 a 132 yr Adroddiad Blynyddol. Gwnaed sylw fod tudalen 72 yn nodi nad oedd y targed o 64% ar gyfer y gyfradd ailgylchu wedi'i gyrraedd yn dilyn y tân yng Nghyfleuster Ailgylchu Deunyddiau Nantycaws, er hynny, nodwyd ar dudalen 132 fod Adolygiad Archwilio Cymru 2021/22 wedi canfod bod y Cyngor wedi cyrraedd ei dargedau ailgylchu statudol. Mewn ymateb i'r sylw, esboniodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith, er bod Adolygiad Archwilio Cymru wedi'i gynnal yn 2021/22, roedd y wybodaeth ystadegol a ddefnyddiwyd yn yr adolygiad yn dod o 2020/21 a dyna pryd yr oedd y targed statudol o 64% wedi'i gyrraedd, gan gadarnhau bod y wybodaeth yn yr adroddiad yn gywir.
Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith na fyddai'r Awdurdod yn cael ei gosbi am beidio â chyrraedd y targed ac esboniodd fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o uchelgais y Cyngor i symud tuag at lasbrint newydd ar gyfer y dull casglu lle disgwylir i'r rhagfynegiadau fod yn fwy na'r targed.
· Cyfeiriwyd at Siop ETO ar dudalen 77 yr adroddiad. Er mwyn bod o fudd i'r economi gylchol, gofynnwyd a oedd posibilrwydd y gallai pobl gymryd y nwyddau sy'n cael eu gwaredu mewn cynwysyddion ailgylchu cyn mynd i'r siop. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol fod rhoddion sy'n cael eu gwaredu mewn canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar hyn o bryd yn cael eu nodi fel gwastraff ac felly ni fyddai'n bosib i aelodau'r cyhoedd dynnu eitemau o'r fath o gynwysyddion/sgipiau. Fodd bynnag, wrth gydnabod y budd i'r economi gylchol byddai'n rhywbeth i'w ystyried yn y dyfodol.
· O ran erydu arfordirol, gofynnwyd pryd y cafodd adolygiad cynhwysfawr ei gynnal ddiwethaf? Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith fod Cynllun Rheoli Traethlin rhanbarthol, a oedd yn cael ei oruchwylio gan Adran yr Amgylchedd, yn cynnwys mesurau ynghylch diogelu a rheoli'r arfordir. Yn ogystal â'r cynllun, byddai gwaith monitro gweithredol yn cael ei wneud yn dilyn pob storm i nodi ac ymateb i unrhyw ddifrod a lliniaru unrhyw risg i gymunedau.
· Cyfeiriwyd at yr adran ynghylch Rheoli'r Fflyd ar dudalen 74 y Cynllun Blynyddol. Gofynnwyd am esboniad yn dilyn sylw ynghylch gostyngiad yn y milltiroedd ynghyd â chynnydd yng nghyfanswm y diesel a ddefnyddiwyd. Esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y gostyngiad yn y milltiroedd a'r cynnydd mewn tanwydd oherwydd bod cerbydau arbenigol yn fwy cyffredin o fewn y sector gwastraff a oedd yn defnyddio mwy o danwydd na cherbydau safonol.
· Cyfeiriwyd at yr adran ynghylch Rheoli'r Fflyd ar dudalen 75 y Cynllun Blynyddol. O gofio bod costau trydan yn cynyddu, gofynnwyd a oedd yr Awdurdod wedi cymharu costau cerbydau disel â cherbydau trydan? Esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod costau trydan a thanwydd yn cael eu hystyried fel rhan o brosiect gwerthuso byw o bob math o danwydd ac wrth i'r sector symud i ffynonellau ynni amgen. Mae gwaith wedi dechrau ar ddiweddaru'r Strategaeth Fflyd ddiwygiedig a fydd yn cael ei chyflwyno yn 2023.
Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol a godwyd ynghylch technolegau newydd a datblygol, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod yr adran yn ymwybodol o'r technolegau newydd sydd ar gael yn y gwahanol sectorau ar y farchnad ac yn eu monitro'n barhaus. Er ei bod yn bwysig cadw golwg ar dechnolegau'r dyfodol cydnabuwyd ei fod yn fater cymhleth iawn o ran ystyried yr amseru a'r risgiau cysylltiedig.
Dywedwyd y dylai'r Awdurdod ystyried ei gyflenwad trydan yn y dyfodol, cyfleoedd i fanteisio ar gyfradd benodol - tariff amser defnyddio ac annog gwefru cerbydau dros nos. Cytunodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd y byddai'n fuddiol rhoi ystyriaeth i gynyddu effeithlonrwydd ynni o ran costau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2021/22 yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol: