Agenda item

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF - ANSAWDD AER

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch ansawdd aer a gafodd ei gynnwys ym Mlaengynllun Gwaith y Pwyllgor ar gais y Pwyllgor gan ei fod yn destun pryder parhaus ac yn flaenoriaeth i bobl Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

 

Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn cynnwys y gwaith a wnaed o ran Ansawdd Aer yn Sir Gaerfyrddin sydd â thair Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar hyn o bryd - Llandeilo, Caerfyrddin a Llanelli. Roedd y diweddariad hwn yn nodi gwybodaeth am fonitro Nitrogen Deuocsid (NO2) ar draws Sir Gaerfyrddin gan gymharu canlyniadau â'r blynyddoedd blaenorol. Cafodd diweddariad ar y cynnydd o ran y Cynllun Cyflawni Ansawdd Aer ei gynnwys hefyd.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y wybodaeth a roddwyd am ansawdd yr aer yn Heol Rhosmaen, Llandeilo a oedd yn dangos lefelau uchel iawn o NO2.  Dywedwyd bod ansawdd yr aer yn Llandeilo wedi bod yn bryder ers rhyw 20 mlynedd a mwy a bod y mater ond yn gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn. Dangosodd y dystiolaeth fod lefelau NO2 ddwywaith dros y terfyn cyfreithiol. Pwysleisiwyd mai'r unig ateb i wella ansawdd aer gwael yn Llandeilo fyddai datblygu ffordd osgoi. 

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch adolygiad ar ddatblygu ffordd osgoi Llandeilo, roedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cydnabod, er bod y ffigurau'n dynodi cyfartaleddau ar gyfer adegau penodol o'r dydd, gallai'r ffigyrau hefyd fod yn uwch o lawer ar adegau eraill o'r dydd a'r flwyddyn. Yn ogystal, cydnabuwyd bod ffordd osgoi yn angenrheidiol nid yn unig i wella ansawdd yr aer ond hefyd i ddarparu gwell diogelwch ffyrdd. Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd i'r Aelodau mai'r ffordd drwy Landeilo oedd y brif gefnffordd rhwng Abertawe a Manceinion. Roedd y ffordd wedi mynd trwy'r Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar a byddai'r canlyniad hwn wedyn yn destun ymgynghoriad pellach. Byddai'r cam hwn yn pennu'r rhestr derfynol o gynlluniau i'w hystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith ei fod, fel aelod lleol dros Landeilo, wedi ysgrifennu sawl gwaith at Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ynghylch y mater hwn ond nid oedd wedi cael ateb. Fodd bynnag, dywedodd ei fod fel Aelod Cabinet, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn ddiweddar ac roedd yn falch o gyhoeddi bod cyfarfod rhithwir wedi ei drefnu ar gyfer dydd Llun, 28 Tachwedd rhwng Arweinydd y Cyngor a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a bod ffordd osgoi Llandeilo ar yr agenda. Yn dilyn y wybodaeth am y cyfarfod a drefnwyd, cynigwyd bod e-bost yn cael ei anfon at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ran y Pwyllgor i gefnogi ffordd osgoi Llandeilo. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

·       Dywedwyd y gallai'r ddeddfwriaeth newydd mewn perthynas â chyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr hefyd gael effaith gadarnhaol ar ansawdd aer. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd nad oedd llawer o dystiolaeth ar hyn o bryd i brofi'r naill ffordd neu'r llall, fodd bynnag, roedd y tebygolrwydd y byddai cerbydau'n teithio'n arafach yn debygol o gael effaith gadarnhaol. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai cyflwyno'r terfynau cyflymder o 20mya yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr, ac y byddai'r newid yn nulliau teithio o fudd i'r amgylchedd ac yn hybu cymdeithas iach.

 

·       Dywedwyd bod pobl, yn gyffredinol, yn gyndyn i roi'r gorau i'w ceir gan nad oedd y drafnidiaeth gyhoeddus yn ddull teithio cyfleus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid anfon e-bost o'r Pwyllgor Craffu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd er mwyn cyfleu cefnogaeth gref y Pwyllgor ar gyfer datblygu ffordd osgoi Llandeilo a fyddai'n gwella ansawdd yr aer yn Llandeilo a'r cyffiniau.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau