Agenda item

YSTYRIED GORCHYMYN DIOGELU MANNAU AGORED CYHOEDDUS YCHWANEGOL (PSPO) AR GYFER GORCHMYNION CWN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch ystyried Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Ychwanegol (PSPO) ar gyfer Gorchmynion C?n Sir Gaerfyrddin. 

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cynnwys canlyniadau arolwg ymgysylltu diweddar mewn perthynas â'r potensial i gyflwyno rheolaethau c?n atodol drwy gyfrwng Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol lle mae tystiolaeth yn cefnogi'r angen am orchmynion ychwanegol. 

 

Nodwyd bod 3,354 o gwynion ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol cysylltiedig â ch?n gan gynnwys baw c?n wedi dod i law ers i'r gorchymyn ddod i rym yn 2016.

 

Er mwyn dysgu mwy, cynhaliwyd arolwg ymgysylltu i nodi meysydd / problemau lle gallai fod angen gorchmynion ychwanegol sy'n rhagori ar y rhai presennol.Yn ystod yr un cyfnod, roedd 108 o hysbysiadau cosb benodedig wedi'u rhoi ac roedd 6 erlyniad wedi'u rhoi ar waith i droseddwyr nad oedd wedi talu'r hysbysiad cosb benodedig.

 

Er mwyn gweithio tuag at fynd i’r afael â’r pryderon parhaus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â ch?n mewn cymunedau, cynhaliwyd arolwg ymgysylltu i gasglu barn a nodi meysydd neu broblemau lle gallai fod angen gorchmynion ychwanegol sy'n rhagori ar y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol.

 

Cynhaliwyd yr arolwg ymgysylltu wedi'i dargedu gyda rhanddeiliaid allweddol yr effeithiwyd arnynt gan ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â ch?n a chafodd ei gynnal dros gyfnod o wyth wythnos rhwng 10 Ionawr a 11 Mawrth 2022.

 

Darparwyd canlyniadau ac adborth yr arolwg ymgysylltu yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

O ganlyniad i'r arolwg ymgysylltu, esboniodd yr Aelod Cabinet fod yr opsiynau o ran gorchmynion ychwanegol i'w hystyried yn cynnwys:

 

       Gwahardd c?n o Gaeau Chwaraeon (fesul safle neu ar draws y sir)

       Cadw c?n ar dennyn ym mhob man cyhoeddus.

       Modd o godi baw ci

 

I gefnogi'r opsiwn uchod, darparodd yr adroddiad a'r Aelod Cabinet y camau nesaf awgrymedig i'r pwyllgor eu hystyried.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

Wrth nodi bod y rhan fwyaf o achosion o faw c?n yn digwydd ar lwybrau'r stryd gan g?n ar dennyn lle mae perchnogion c?n yn dewis peidio â chasglu a gwaredu'n gyfrifol, awgrymwyd mabwysiadu'r cysyniad o ddamcaniaeth perswâd a oedd eisoes wedi bod yn llwyddiannus mewn Cynghorau eraill. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol fod damcaniaeth perswâd eisoes yn rhan allweddol o'r Cynllun Rheoli Ansawdd yr Amgylchedd Lleol a phe bai Cynghorau Tref/Cymuned yn dymuno cymryd rhan mewn defnyddio'r cysyniad o ddamcaniaeth perswâd, roedd pecynnau Baw C?n ar gael ar gyfer Cynghorau Cymuned. Yn ogystal, yn dilyn cyfnod prawf, roedd defnyddio stensils wedi bod yn llwyddiannus o ran annog cerddwyr c?n i osod eu gwastraff yn y bin agosaf drwy ddilyn yr olion pawennau stensiliedig ar y llawr. Hefyd, eglurwyd bod adnoddau wedi'u cyfeirio at ardaloedd sydd â'r angen mwyaf.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet, er mwyn cyfeirio'r adnoddau sydd ar gael yn briodol, y dibynnir yn fawr ar dderbyn gwybodaeth gan aelodau'r gymuned.

 

Cydnabuwyd bod y Sir yn dibynnu ar 8 Swyddog Gorfodi, ac er bod angen targedu adnoddau yn unol â'r wybodaeth a dderbynnir, codwyd pryder nad oedd y Swyddogion Gorfodi ar gael 24/7 i ddal troseddwyr ar ôl oriau swyddfa neu oriau golau dydd.

 

Gwnaed sylw pellach y byddai tywydd garw yn rheswm ychwanegol i gerddwyr c?n beidio â chodi baw eu c?n ac adleisiwyd y sylw cynharach na fyddai'r swyddogion gorfodi ar gael y tu allan i oriau er gwaethaf y wybodaeth a ddarparwyd. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol fod rôl yr 8 Swyddog Gorfodi yn cynnwys amrywiaeth o droseddau gwahanol ledled Sir Gaerfyrddin gan gynnwys tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel, cerbydau wedi'u gadael ac ati, yn ogystal â baw c?n. Eglurwyd, er nad oedd yn bosibl i'r adnoddau cyfyngedig weithredu ar bob cwyn, roedd cyfeiriad yr adnoddau yn cael ei reoli ar sail blaenoriaeth. Roedd hyn yn cynnwys dull wedi'i dargedu yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gan aelodau'r cyhoedd a Chynghorwyr sy'n rhoi'r dystiolaeth i dargedu meysydd sy'n peri pryder.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad yn dilyn yr arolwg ymgysylltu yn darparu opsiynau o ran gorchmynion ychwanegol, gan ofyn am sylwadau ar waharddiadau o gaeau chwaraeon naill ai fesul safle penodol neu waharddiad ar draws y sir? Wrth adolygu'r adborth o'r arolwg ymgysylltu, nodwyd mai prin oedd yr ymatebion a gafwyd gan glybiau/cymdeithasau chwaraeon a allai awgrymu efallai nad oedd gan rai ardaloedd broblem gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â ch?n. Wrth ystyried hyn, eglurwyd bod un o'r opsiynau i'w hystyried yn cynnwys datblygu pecyn cymorth yn benodol ar gyfer clwb/cymdeithasau chwaraeon i ddangos tystiolaeth o unrhyw broblemau a phe bai problem glir roedd gan y clwb chwaraeon fynediad at ddull clir i gyflwyno cais ynghyd â'r dystiolaeth i osod Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus sy'n benodol i safle.

 

Yn ogystal, cafodd yr aelodau wybod am y posibilrwydd o weithredu'r opsiwn i orfodi cerddwyr c?n i gael modd o godi baw c?n.

 

Mewn ymateb i sylwadau a godwyd ynghylch gwahardd c?n o fannau chwarae ledled Sir Gaerfyrddin, dywedodd yr Aelod Cabinet wrth y Pwyllgor fod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus sylfaenol presennol yn cynnwys gwahardd c?n o bob maes chwarae i blant. Er eglurder, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith fod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol yn cwmpasu pob maes chwarae 'caeedig'.

 

Gwnaed sawl sylw o blaid yr opsiwn o Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol i wahardd c?n o gaeau chwaraeon, ond cydnabuwyd, er y byddai hyn yn ddull cyson roedd yna hefyd lawer o berchnogion c?n cyfrifol ac ni fyddent yn dymuno cosbi teuluoedd rhag dod â'u c?n wrth gefnogi chwaraewyr wrth ochr y cae. 

 

Er mwyn darparu dull cyson, y bwriad oedd cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol i wahardd c?n o bob cae chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet, gyda chefnogaeth Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, y byddai'n rhaid cadw at gyfres o brofion cyfreithiol o ran cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol i wahardd c?n o gaeau chwaraeon ledled y sir. Byddai'r profion cyfreithiol yn gofyn am sicrwydd bod gan yr Awdurdod sail resymol lle byddai cyflwyno gorchymyn ychwanegol yn atal y troseddau a nodwyd ar draws y Sir rhag digwydd neu ddigwydd eto. Yn ogystal, rhaid i hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymateb cymesur. Dywedwyd wrth yr aelodau nad oedd y dystiolaeth ofynnol ar gael ar hyn o bryd i ddangos bod problem eang a fyddai'n gofyn am Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer gwahardd c?n yn gyffredinol o gaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae'n ofynnol i'r Awdurdod gynnal y lle sydd ar gael i gerddwyr c?n gerdded eu c?n heb dennyn mewn rhai ardaloedd cymunedol, felly gallai cyflwyno gwaharddiad cyffredinol olygu na fyddai rhai ardaloedd o'r Sir yn gallu darparu'r lle sydd ar gael i gerdded c?n heb dennyn, a fyddai'n achosi problem.

 

Byddai'r dull fesul safle yn cefnogi'r broses o gasglu tystiolaeth i gyhoeddi rheolaethau mewn ardaloedd penodol, yn targedu adnodd yn well, yn cefnogi cymunedau ac yn sicrhau y byddai cyflwyno unrhyw Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn y dyfodol yn gymesur ac yn bodloni'r profion cyfreithiol angenrheidiol.

 

Yn dilyn y cyngor a ddarparwyd, dywedwyd mai'r rhesymeg y tu ôl i'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol i wahardd c?n o bob cae chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin oedd er mwyn darparu dull cyson ledled y sir yn unig. Wrth gydnabod bod teuluoedd yn dod â ch?n i'r cae i gefnogi chwaraewr, awgrymwyd gwahardd c?n o fewn ffin cae chwaraeon.

 

Codwyd pryder hefyd ynghylch peryglon y clefyd sy'n gysylltiedig â baw c?n. Yn ogystal, gwnaed awgrymiadau i helpu i gryfhau pwerau'r Swyddogion Gorfodi presennol drwy ddefnyddio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a wardeiniaid parcio. Teimlwyd nad oedd y dirwyon yn ddigon i rwystro a bod enwi a chodi cywilydd yn bwysig a dylid defnyddio'r dull hwn yn fwy. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle ac Isadeiledd fod modd i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu arfer yr un pwerau â swyddog gorfodi. Yn ogystal, roedd gan wardeiniaid parcio rôl bendant fel swyddogion gorfodi sifil fel rhan o'r Ddeddf Rheoli Traffig ac felly byddai'n anodd iawn ehangu'r rôl honno i'w defnyddio ar gyfer gorfodi materion eraill.

 

Cyfeiriwyd at ganlyniadau'r arolwg. Wrth sylwi mai dim ond 12 allan o 72 o Gynghorau Cymuned yn Sir Gaerfyrddin oedd wedi ymateb, nodwyd y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe bai mwy o ymatebion wedi dod i law gan roi darlun gwell o'r mater.

 

Ar ôl ystyried y cyngor a'r ymatebion a ddarparwyd gan yr Aelod Cabinet a'r swyddogion, cynigiwyd cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol i wahardd c?n o gaeau chwaraeon penodol yn y Sir. Eiliwyd y cynnig hwn. 

 

Dywedwyd y byddai'n rhaid datblygu pecyn cymorth gan fod meysydd pryder eraill megis traethau a pharciau.

 

Cafwyd trafodaeth yngl?n â'r opsiwn o gyflwyno gorchymyn i orfodi cerddwyr c?n i gario modd o godi baw c?n. Dywedwyd bod hyn wedi'i gyflwyno mewn Awdurdod arall yng Nghymru gyda chanlyniad llwyddiannus, fodd bynnag, dywedwyd y byddai'n anodd plismona a gallai achosi gwrthdaro. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith wrth aelodau y byddai hwn yn fesur ychwanegol i'r swyddogion gorfodi pan fyddant yn ymgysylltu â cherddwyr c?n sydd â'r nod o newid ymddygiad a meddylfryd gan gyfrannu at ddamcaniaeth perswâd.

 

9.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad ynghylch Ystyried Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Ychwanegol (PSPO) ar gyfer Gorchmynion C?n Sir Gaerfyrddin.

 

9.2   PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET fod Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ychwanegol yn cael ei gyflwyno i wahardd c?n o feysydd chwaraeon diffiniedig yn y Sir.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau