Agenda item

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GÂR 2018 - 2033 AIL DDRAFFT ADNEUO

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran paratoi a mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin 2018-2033 - Ail Fersiwn Adneuo Drafft.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr adroddiad yn nodi gweledigaeth y Cyngor o ran defnydd y tir, Amcanion Strategol a Gofynion Twf Strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033 ynghyd â set o bolisïau a darpariaethau cynhwysfawr a manwl - gan gynnwys dyraniadau penodol i safle ar gyfer defnydd tai a chyflogaeth yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol ac ystyriaethau gofodol eraill.

 

Nodwyd, er bod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol, nodwyd ei fod, ynghyd â dogfennau ategol eraill yn ddogfennau newydd a byddent yn cael eu datblygu'n barhaus hyd nes eu bod yn cael eu cyhoeddi.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r cynllun yn cael ei ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod nesaf i'w gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ionawr 2023, a fyddai'n cynnwys y map cynigion. Ar ôl hynny, byddai'n destun archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio Penodedig Llywodraeth Cymru gyda'r bwriad o'i fabwysiadu'n ffurfiol yn 2024.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/materion ynghylch yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·       Mewn perthynas â chwestiwn ynghylch nodi tir yn y Cynllun ar gyfer tai fforddiadwy, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'r Cynllun yn nodi safleoedd addas i'r diben hwnnw. Byddai hefyd yn nodi canran y tai fforddiadwy i'w darparu fel rhan o ddatblygiadau tai. Bu'r Adran Gynllunio hefyd yn gweithio'n agos gydag Is-adran Dai'r Cyngor i sicrhau bod y Cynllun yn cyd-fynd â'i gynigion

·       Cyfeiriwyd at y rhan yn y Cynllun ynghylch y dull Creu Lleoedd a gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'n cael ei roi ar waith. Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai gan y Cynllun bolisïau ar waith i osod safon i ddatblygwyr ei dilyn mewn perthynas â ffactorau megis teithio llesol, mannau agored a seilwaith ynghyd â gofyniad iddynt lunio uwchgynlluniau yn dangos dull mwy cyfannol ac integredig o ddatblygu. 

 

Roedd y Cyngor hefyd yn llofnodwr y Siarter Creu Lle ac roedd ei nodau a'i huchelgeisiau'n cael eu hintegreiddio i'r Cynllun. Fodd bynnag, roedd yn bwysig nodi bod paratoadau'r Cynllun yn cynrychioli man cychwyn a, dros amser, byddai Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio i gefnogi disgwyliadau'r Cyngor a rhoi eglurder ar y disgwyliadau ar ddatblygwyr.

·       Cyfeiriwyd at yr amcanestyniadau o ran Twf Tai yn yr adroddiad ac a fyddent yn gynaliadwy o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol yn y Deyrnas Unedig.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod macro-economeg o'r fath wedi'i ystyried wrth fodelu amcanestyniadau hirdymor. Atgoffwyd y Pwyllgor hefyd fod y Cynllun yn ddogfen 'fyw' a byddai'n cael ei diwygio/ei hadnewyddu'n gyson mewn ymateb i amgylchiadau sy'n newid.

·       O ran cwestiwn ynghylch y sefyllfa bresennol o ran effaith y Rheoliadau Ffosffad ar Ddatblygu, cadarnhaodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod cynnydd yn cael ei wneud ar hynny, er ei fod yn araf, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar ei gyfrifiannell ffosffad a'i ganllawiau lliniaru, yn seiliedig ar yr hyn a gynhyrchwyd gan Sir Gaerfyrddin. Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda datblygwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Byrddau Rheoli Maetholion ar ddatblygu dulliau mwy arloesol o liniaru ffosffad.

·       Cyfeiriwyd at ddarparu cartrefi yng nghefn gwlad agored i bobl leol a'r angen i fynd i'r afael â hynny o fewn polisïau'r cynllun lleol. Atgoffwyd y Pwyllgor fod yn rhaid i'r Cyngor, wrth baratoi'r CDLl, ystyried polisïau cenedlaethol a chanllawiau cynllunio ynghylch datblygu mewn cefn gwlad agored. Er bod y Cyngor wedi ymdrechu i ddatblygu polisïau ar gyfer darpariaeth o'r fath er enghraifft ar sail angen lleol a fforddiadwyedd, byddai angen i'r rheiny fod yn seiliedig ar dystiolaeth gan ddefnyddio prawf cadernid. Byddai'r polisïau hynny wedyn yn destun archwiliad cyhoeddus ac yn cael eu herio gan Arolygydd Llywodraeth Cymru a fyddai, yn y pen draw , yn penderfynu a ydynt yn cael eu cynnwys/hepgor o'r Cynllun terfynol 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad cynnydd.

Dogfennau ategol: