Agenda item

STRATEGAETH HAMDDEN, DIWYLLIANT A HAMDDEN AWYR AGORED - YMGYNGHORI

Cofnodion:

(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor)

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar gynigion y Cyngor i ymgynghori ar y Strategaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer Hamdden a Hamdden Awyr Agored ar gyfer y Sir. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y prif themâu canlynol:-

 

·       Lle fuodd yr Awdurdod a'i daith o 2007-2022

·       Ble yr oedd nawr

·       I ble'r oedd yn mynd

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r Strategaeth, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, yn destun cyfnod o ymgynghori cyhoeddus gyda'r nod o'i mabwysiadu'n ffurfiol erbyn Pasg 2023. Hefyd, pe bai'n cael ei mabwysiadu, byddai'n rhaid ariannu'r Strategaeth drwy gyllidebau presennol, cyllidebau refeniw a chyfalaf

 

Codwyd nifer o gwestiynau/materion ynghylch yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:

·       Cyfeiriwyd at y meysydd ffocws yn yr adroddiad ar gyfer y gwasanaeth hamdden awyr agored ac at y ffaith nad oedd unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer pysgota ledled y sir, yn enwedig, y llynnoedd dan berchnogaeth y Cyngor ym Mharc Arfordirol y Mileniwm.

 

Atgoffodd y Pennaeth Hamdden y Pwyllgor fod pysgota wedi'i wahardd o fewn y llynnoedd hynny ar hyn o bryd oherwydd presenoldeb y rhywogaethau goresgynnol a elwir yn Wyniaid Pendew a bod yr Awdurdod yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i hwyluso'r gwaith o'u gwaredu. Dywedodd y byddai'n trefnu i'r aelodau lleol gael gwybod am y sefyllfa bresennol.

 

Cydnabu hefyd nad oedd unrhyw gyfeiriad penodol at bysgota yn y Strategaeth, ond y gellid cyfeirio ato yn y fersiwn derfynol.

·       O ran cwestiwn ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo Gwerth Cymdeithasol Chwaraeon a Hamdden Actif, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y Cyngor wedi cysylltu â 4Global a Phrifysgol Sheffield Hallam ar hynny a gallai drefnu bod y fethodoleg honno yn cael ei rhannu ag aelodau'r Pwyllgor, yn ôl y gofyn.

·       O ran monitro cyfraniad gwasanaethau hamdden o ran mynd i'r afael â thlodi, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod gwaith monitro yn cael ei wneud drwy ddata ysgolion cenedlaethol ar gyfer plant 7 oed ynghyd â data gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Chwaraeon mewn perthynas ag Oedolion. Cadarnhaodd y byddai'n trefnu bod aelodau'r Pwyllgor yn cael crynodeb lefel uchel o'r data perthnasol.

·       Cyfeiriwyd at y cyfraniad a wneir gan hamdden i iechyd y boblogaeth ac a oedd modd i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gyfrannu at gost y ddarpariaeth honno.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn gweithio ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd lle bynnag y bo modd, ac enghraifft o hyn oedd y Cynllun Cyfeirio gan Feddygon Teulu. Fodd bynnag, cadarnhawyd y byddai cryfhau'r cysylltiad hwnnw a sicrhau mwy o waith iechyd ataliol a gomisiynwyd yn gam allweddol dros gyfnod y Strategaeth.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lefelau gordewdra yn ystod plentyndod ymhlith y gr?p oedran 4-5 oed, dywedodd y Pennaeth Hamdden, er bod y lefel wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, bod lefelau bellach yn cynyddu ac roedd gwasanaethau hamdden ynghyd â'r adran addysg a rhanddeiliaid eraill megis Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymdrechu i wyrdroi'r duedd honno.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch chwaraeon lleiafrifol, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr adran, lle bynnag y bo modd, yn gweithio gyda chyrff llywodraethu perthnasol y gamp unigol a'i bod wedi rhoi cymorth ariannol i nifer o'r cyrff hynny yn y gorffennol drwy gynlluniau a ariannwyd gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr effaith bosibl y gallai'r hinsawdd economaidd bresennol ei chael ar gyflawni'r strategaeth ac, yn benodol, mini-gyllideb arfaethedig Llywodraeth y DU, cadarnhawyd y byddai hyn yn rhan o'r ymarfer ymgynghori ar y gyllideb gorfforaethol dros y misoedd nesaf a'r blynyddoedd dilynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth 10 mlynedd ar gyfer Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored.

Dogfennau ategol: