Agenda item

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2021/22 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN AC ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Blynyddol 2021/22 ar Gynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, ynghyd â'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2005. Roedd Deddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar ei CDLl ar ôl ei fabwysiadu a chadw golwg ar yr holl faterion y disgwylid iddynt effeithio ar ddatblygiad ei ardal ac ymgorffori gwybodaeth am y materion hynny i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru, a'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu'r cynllun. Cadarnhawyd bod yr adroddiad wedi'i anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru yn unol â'r dyddiad cau gofynnol sef 31 Hydref.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai'r Adroddiad yn cael ei ddatblygu ymhellach wrth i dystiolaeth a data ddod ar gael, cyn ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

Nodwyd hefyd y byddai cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei ddefnyddio i lywio'r gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (gweler cofnod 8 isod). 

 

Codwyd nifer o gwestiynau/materion ynghylch yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y lefel isel o B?er Trydan D?r sy'n cael ei gynhyrchu yn y Sir, dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ar y cyfan, nad oes llawer yn manteisio ar brosiectau ynni ar raddfa fach ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn ymdrechu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar hyn yn y sir a thrwy ei ystad ei hun. Byddai'r Cyngor hefyd yn ymgynghori yn 2023 ar brosiectau adnewyddadwy arloesol a fyddai'n cynnwys darparu cyllid sbarduno ar gyfer astudiaethau dichonoldeb

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn caniatâd cynllunio ar gyfer cartrefi newydd yn 2021/22 a dywedwyd wrth y pwyllgor er y gellid priodoli hynny'n rhannol i effeithiau'r pandemig Covid-19 diweddar, byddai ffactorau eraill yn dylanwadu. Gellid hefyd defnyddio'r un rhesymau ar gyfer y cynnydd o ran darparu tai fforddiadwy a oedd hefyd yn cael eu hyrwyddo drwy ymgyrch genedlaethol a chan Lywodraeth Cymru.

·       O ran Teithio Llesol, cadarnhawyd bod y CDLl presennol a'r un sy'n cael ei ddatblygu yn cynnwys polisïau ar y mater hwnnw. 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gyfradd uwch o unedau adwerthu gwag yn Llanelli o'i gymharu â chanol trefi Caerfyrddin a Rhydaman, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod canolfannau adwerthu mewn trefi yn gyffredinol yn wynebu heriau sylweddol a gellid priodoli hyn, yn rhannol, i'r awydd i gadw unedau adwerthu. Fodd bynnag, roedd y sefyllfa honno bellach yn newid yn genedlaethol ac yn lleol, ac er y byddai'r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth adwerthu byddai hefyd yn caniatáu ar gyfer darpariaeth fwy cymysg yng nghanol trefi

·       O ran y Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Llanelli, cadarnhawyd bod hynny bellach wedi dod i ben ac nad oedd wedi bod mor llwyddiannus â'r disgwyl am nifer o resymau, yn rhannol oherwydd bod canol y dref mewn parth perygl llifogydd. Fodd bynnag, pe bai angen, gellid ei ail-gyflwyno yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau