Agenda item

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

3.1         PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/03227

Dymchwel y warws a'r swyddfa presennol ac ailddatblygu'r safle i greu adeilad fydd yn cynnwys ystafell arddangos, warws, a swyddfa ar gyfer busnes plymio a gwresogi yn Sunny Mead,Llanybydder SA40 9RB

 

(NODER: AM 1.00 p.m. ac yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 23, ataliodd y Pwyllgor Reolau Sefydlog wrth ystyried hyn er mwyn galluogi'r cyfarfod i barhau y tu hwnt i dair awr)

PL/03333

Creu 10 llain ychwanegol i deithwyr i'r gorllewin o PL/00775 (Lleiniau 5-14) gyda'r cynllun amgen, gwelliannau ecolegol a thirwedd ac estyniad i ffordd fynediad fewnol a gymeradwywyd (Cam III) ar dir ym Maes y Dderwen, Llangennech, Llanelli, SA14 8UW

   

 

 

3.2         PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod, a hynny am y rhesymau canlynol:-

 

(i)              Roedd y safle wedi'i leoli'n agos at yr anheddiad diffiniedig agosaf sef Glanaman ac;

(ii)            Byddai'r datblygiad yn helpu i hyrwyddo cerdded a beicio ac yn cefnogi egwyddorion Teithio Llesol  :-

 

ac ar sail ei benderfyniad:

 

·                 Bod y cais yn cael ei hysbysebu fel Gwyriad oddi wrth Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.

·                 Os, ar ôl i'r cyfnod rhybudd ar gyfer y Gwyriad ddod i ben, na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd gyflwyno'r Hysbysiad Penderfynu, yn amodol ar yr amodau priodol.

 

 

PL/04504

Hoffem godi 3 chwt bugail ar dir ger ein preswylfa. Rydym yn bwriadu rhentu'r cytiau fel llety gwyliau (Ailgyflwyno PL/03609 a wrthodwyd ar 28.94.22),Bryngwinau, Llandyfân, Rhydaman, SA18 2UD

 

(NODER: Gan fod Mr. I.R. Llewellyn, y Rheolwr Blaen-gynllunio, wedi datgan buddiant yn y cais hwn eisoes, ailadroddodd ei fuddiant a gadael y Siambr tra bo'r cais yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor).    

 

Gwnaed sylw gan yr aelod lleol i gefnogi'r cais ar y sail yr ystyrid bod y cais yn dod o fewn Polisi TSM2 Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, gan fod y cytiau arfaethedig yn debyg i garafanau teithiol, wedi'u gosod ar olwynion ac felly'n gallu cael eu tynnu, roedd ceisiadau tebyg wedi'u cymeradwyo mewn mannau eraill yn y Sir, roedd y gwrych cyfagos wedi cael ei leihau i 2.4m o uchder, nid oedd dim gwrthwynebiad wedi dod i'r cynnig, roedd y tir dan sylw'n anaddas ar gyfer ffermio ac yn addas ar gyfer arallgyfeirio. Pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, byddai'n helpu i gefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol trwy ddarparu tri chwt i'w rhentu am ddau draean o'r flwyddyn a chreu £54k i'r gymuned

 

Wrth ystyried y cais, gwnaed cyfeiriadau gan y Pwyllgor at natur fechan y datblygiad arfaethedig. Mynegwyd barn, pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, ni fyddai'n cael
effaith andwyol ar gefn gwlad agored, ac er bod y lleoliad yn ynysig, roedd o fewn pellter cerdded i'r anheddiad agosaf a byddai'n hyrwyddo twristiaeth

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried. Cyfeiriodd yn benodol fod y cais yn groes i Bolisïau TSM1 a TSM3 y Cynllun Datblygu Lleol, ac i benderfyniad Arolygydd Cynllunio Llywodraeth Cymru y diwrnod blaenorol, sef gwrthod apêl ar gyfer ddatblygiad tebyg ar y sail ei fod yn groes i bolisïau cynllunio lleol a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol. Dywedodd pe bai'r Pwyllgor yn rhoi caniatâd cynllunio, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod, byddai angen hysbysebu'r cais fel Gwyriad i Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin. Gofynnodd hefyd, os na fyddai unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori ar y Gwyriad, fod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd gyflwyno'r Hysbysiad Penderfynu, yn amodol ar osod amodau priodol. 

 

He further advised that the Committee would need to provide reasons for approving the application.

 

Bu i'r Uwch-gyfreithiwr, wrth gymeradwyo'r pwyntiau uchod, atgoffa'r Pwyllgor fod yn rhaid iddo, wrth ystyried y cais, roi ystyriaeth i'r polisïau o fewn ei Gynllun Datblygu Lleol a bod yn rhaid i unrhyw benderfyniad i gymeradwyo, yn groes i'r cynllun hwnnw, fod yn seiliedig ar ystyriaethau cynllunio materol

 

Roedd y Pwyllgor, o ystyried y ddau reswm dros wrthod a roddwyd gan y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, a nodwyd yn ei adroddiad ysgrifenedig, am gymeradwyo'r cais am y rhesymau canlynol

1.     roedd safle'r cais wedi'i leoli yn agos at yr anheddiad diffiniedig agosaf sef Glanaman

2.     roedd yn cael ei ystyried y byddai'r datblygiad yn helpu i hyrwyddo cerdded a beicio ac roedd yn cefnogi egwyddorion Teithio Llesol

 

3.3         PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod, a hynny am y rhesymau canlynol:-

 

(1)           Roedd y datblygiad arfaethedig yn un dros dro ei natur am gyfnod o dair blynedd a;

(2)            Byddai ei gadw yn gwella datblygiad economaidd yr ardal, yn diogelu ac yn gwella'r Ardal Treftadaeth a Chadwraeth, ac yn caniatáu i'r busnes weithredu.

 

ac ar sail ei benderfyniad:

 

·                 Bod y cais yn cael ei hysbysebu fel Gwyriad oddi wrth Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.

·                 Os, ar ôl i'r cyfnod rhybudd ar gyfer y Gwyriad ddod i ben, na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd gyflwyno'r Hysbysiad Penderfynu, yn amodol ar yr amodau priodol gan gynnwys cymeradwyo am gyfnod dros dro o dair blynedd ac na ddylai'r babell fawr ymestyn tu hwnt i'w ôl troed presennol.

 

PL/04526

Cadw pabell fawr fel rhan o ardal fwyta allanol ategol am gyfnod dros dro o dair blynedd, 6-11 Lôn Jackson, Caerfyrddin, SA31 1QD

 

Cafwyd sylw gan aelod lleol a oedd yn cefnogi'r cais ar y sail bod y babell fawr wedi cael ei chodi rhyw ddwy flynedd ynghynt yn ystod pandemig Covid  fel ffordd o helpu busnesau i adfer yn dilyn y pandemig, a byddai ei chadw hefyd yn parhau i gynorthwyo'r busnes yn y sefyllfa economaidd bresennol. Roedd y cais am gadw'r babell fawr am gyfnod dros dro o dair blynedd. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor hefyd, fod cynigion Adfywio ar gyfer Caerfyrddin, gan gynnwys Lôn Jackson, yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddai cais cynllunio ar eu cyfer yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor pan fyddai wedi'i gwblhau.

 

Wrth ystyried y cais, gwnaed cyfeiriadau at natur dros dro'r cais, y cynigion adfywio ar gyfer yr ardal, cefnogaeth i fusnesau lleol a bod y datblygiad yn gwella'r ardal drwy roi naws  'ewropeaidd' wrth i bobl fwyta yn yr awyr agored.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad, a dweud pe bai'r Pwyllgor yn rhoi caniatâd cynllunio, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i wrthod, byddai angen hysbysebu'r cais fel Gwyriad i Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin. Gofynnodd hefyd, pe na byddai unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ar y Gwyriad, fod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd gyflwyno'r Hysbysiad Penderfynu, yn amodol ar osod amodau priodol

 

Dywedodd ymhellach y byddai angen i'r Pwyllgor roi rhesymau dros gymeradwyo'r cais.

 

Roedd y Pwyllgor, gan ystyried yr angen am roi rhesymau dros gymeradwyo'r cais, o'r farn mai datblygiad dros dro fyddai hwn, byddai'n gwella datblygiad economaidd yr ardal, yn cadw ac yn gwella'r ardal treftadaeth a chadwraeth, ac yn galluogi'r busnes i weithredu. Mynegwyd barn hefyd, yn ogystal â clymu amod i'r cais ei fod am gyfnod dros dro o dair blynedd, fod amod ychwanegol yn cael ei osod er mwyn atal y babell fawr rhag cael ei hymestyn tu hwnt i'r ôl troed presennol.

 

(NODER: Gofynnodd y Cynghorydd Edward Skinner, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 16.6, am i'r cofnodion nodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio i'r cais hwn)

 

Dogfennau ategol: