Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD HEFIN JONES I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, AELOD Y CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

“Mae yna drigolion o bob oedran yn ward wledig Llanfihangel Aberbythych, fel yng ngweddill y sir, fydd yn ei chael hi’n anodd fforddio cludiant preifat oherwydd cymaint o gostau cynyddol. O ystyried yr amgylchiadau hyn, a’r angen am gludiant a gyfer gwaith, apwyntiadau meddygol ac ar gyfer addysg a hyfforddiant, os gwelwch yn dda, a wnaiff yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am gludiant wneud sylwadau ar edrych i ddefnyddio gwasanaeth bwcabuswedi ei weithredu gan fusnesau sy’n bodoli eisoes - i sicrhau darpariaeth lle mae’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn gyfyngedig ar y gorau?”

 

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd S. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddodd ei datganiad ac arhosodd yn y cyfarfod.]

 

"Mae yna drigolion o bob oedran yn ward wledig Llanfihangel Aberbythych, fel yng ngweddill y sir, fydd yn ei chael hi’n anodd fforddio cludiant preifat oherwydd cymaint o gostau cynyddol. O ystyried yr amgylchiadau hyn, a’r angen am gludiant ar gyfer gwaith, apwyntiadau meddygol ac ar gyfer addysg a hyfforddiant, os gwelwch yn dda, a wnaiff yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am gludiant wneud sylwadau ar edrych i ddefnyddio gwasanaeth bwcabus – wedi ei weithredu gan fusnesau sy’n bodoli eisoes - i sicrhau darpariaeth lle mae’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn gyfyngedig ar y gorau?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas – yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Diolch ichi am y cwestiwn.  Mae argyfwng costau byw yn effeithio arnom ni i gyd ac yn wir ar y Cyngor.  Mae storïau newyddion dros y penwythnos yn dangos maint yr her ariannol sy'n wynebu cynghorau ledled y wlad ac rydym wedi clywed ymhellach heddiw am y pwysau sydd ar yr Awdurdod. 

 

Mae gwasanaethau bysiau ledled y sir yn wynebu'r un heriau wrth i gostau ynni a thanwydd gynyddu.  Mae'r sector hefyd yn wynebu prinder gyrwyr a pheirianwyr.  Mae hyn oll yn ychwanegu at bwysau costau yn y sector ar adeg pan ydym yn wynebu cyfyngiadau ar gyllidebau.  Ar hyn o bryd, mae eich ward yn cael ei gwasanaethu gan sawl llwybr - 276, 278, 279 a 284, yn anffodus mae gwasanaethau lleol ar gael unwaith yr wythnos yn unig. Mae'r 280 sy'n gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac yna Gwasanaeth X14 Llanfair-ym-Muallt i Gaerfyrddin hefyd yn cynnwys eich ardal chi ond dim ond ar ddydd Gwener.

 

Mae'r Cyngor wedi datblygu gwasanaethau Bwcabus mewn ardaloedd yn y sir, ond fel pob gwasanaeth, mae angen buddsoddiadau i gynnal y gwasanaethau.  Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ar y cynlluniau i wasanaethau bysiau yn y dyfodol fel rhan o Fetro De-orllewin Cymru.  Rydym hefyd yn gweithio gyda sectorau trafnidiaeth gymunedol i ystyried cyfleoedd i ddatblygu trafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd yn y sir.

Byddaf yn parhau i bwyso am fuddsoddiad y llywodraeth mewn ardaloedd gwledig i gynnal cysylltedd a mynediad at wasanaethau i'n holl gymunedau.  Diolch yn fawr.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Hefin Jones.

 

Diolch, Gynghorydd Thomas, am yr ymateb.  O ystyried eich bod yn sôn am yr ymdrechion parhaus i wella cysylltedd, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod 40% o bobl rhwng 16 ac 20 oed, yn ôl arolwg Llywodraeth Cymru ei hun, yn nodi mai trafnidiaeth gyhoeddus yw'r maen tramgwydd iddynt o ran cael mynediad at hyfforddiant pellach.  Amlinellodd y Cynghorydd Thomas yn gywir yr anawsterau ynghylch y llafur sydd ar gael a chostau uwch.  Rwy'n ymwybodol iawn o'r cyllid ychwanegol a gynigiwyd i gadw bysiau ar y ffordd yn ystod Covid, ac fy nghwestiwn i yw a yw'n bryd yn awr i ni ystyried darbodaeth ac yn hytrach na gweld bysiau gwag yn aml yn mynd o amgylch y sir - mae Mr Lee Waters AS wedi siarad yn helaeth am hybu cynaliadwyedd yn y sector trafnidiaeth - a oes modd i ni ofyn felly beth yw'r sefyllfa o ran deialog rhwng yr Awdurdod hwn a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Mr Waters AS, a'i dîm i ni fwrw ymlaen â'r agenda hon.  Diolch yn fawr.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas – yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Gallaf sicrhau'r Cynghorydd Jones ein bod yn cynnal deialog ag ef. Mewn gwirionedd, mae gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Price, a minnau gyfarfod wedi'i drefnu gyda Mr Lee Waters, y Dirprwy Weinidog, ar 28 Tachwedd lle bydd llawer o'r materion hyn yn cael eu codi a byddwn yn ceisio rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â'r Cyngor hwn.  Mae'r Cyngor yn gweithio ar gynaliadwyedd darpariaeth gwasanaeth Bwcabus a'r model Fflecsi. Mae'r gwasanaethau presennol wedi derbyn arian Ewropeaidd i'w gwneud yn bosib ac mae trafodaethau yn cael eu cynnal ar fuddsoddiadau a datblygiadau yn y dyfodol. Dymunaf ailadrodd bod angen buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar y cyhoedd a'r gymuned fel rhan o system drafnidiaeth gytbwys.  Y car preifat yw'r prif ddull teithio yn aml, yn enwedig i'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd gwledig. 

 

Mae darparu trafnidiaeth yn gymhleth ac wrth gwrs mae'n alw deilliedig, ac yn aml bydd pobl am deithio yn ystod yr oriau brig, ac fel y dywedoch yn hollol gywir, mae bysiau'n wag yn ystod gweddill y dydd.  Yn ystod yr oriau tawelach, rydym yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau sydd ar gael gan Bwcabus a'r gwasanaethau hyblyg yn lle'r gwasanaethau mwy confensiynol.  Bydd datblygu'r Metro ar gyfer pob rhan o Dde a Gorllewin Cymru yn hanfodol o ran helpu i adfer hygyrchedd a chysylltedd ar draws y rhanbarth os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o newid i ddulliau teithio mwy cynaliadwy.  Byddwn yn parhau i bwyso am yr achos dros fuddsoddi yn y Sir.