“Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Aelod Cabinet am y gwasanaethau a'r cyllidebau canlynol yn y Ganolfan Ddydd:-
Cofnodion:
“Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Aelod Cabinet am y gwasanaethau a'r cyllidebau canlynol yn y Ganolfan Ddydd:-
1. Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldeb yn y ganolfan ers cyfarfod diwethaf y Cyngor Sir ar 28 Medi;
2. Beth yw'r gyllideb bresennol ar gyfer Canolfan Cwmaman a beth yw'r tanwariant ar gyfer 2022/23;
3. Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith uwchraddio sydd angen ei wneud yng nghegin y ganolfan;
4. Dymunaf ofyn i'r Aelod Cabinet ble fydd y bobl oedrannus yn Nyffryn Aman sydd yn eu 80au a'u 90au yn mynd pan na allant wresogi eu cartrefi y gaeaf hwn a phan fydd y ganolfan ddydd ar gau.”
Ymateb gan y Cynghorydd Jane Tremlett – yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol -
Diolch i chi am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, rwyf i a swyddogion wedi cwrdd â chi wyneb yn wyneb ac ar Teams droeon cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig i drafod y mater lleol hwn.
Mae pwyntiau 1 2 a 3 yn gwestiynau gweithredol penodol y mae swyddogion yn hapus i'w hateb yn ysgrifenedig drwy lwybr ymholiadau arferol y Gwasanaethau Democrataidd i Gynghorwyr. Fel Aelod Cabinet rwy'n gweld pob ymholiad ac ymateb ac yn monitro materion sy'n cael eu codi ac rwy'n hapus i ddilyn y mater gyda'r aelodau pe baent yn dymuno hynny.
Pwynt 4 - Fel Cyngor, rydym yn cydnabod, yn sgil yr argyfwng costau byw, ac yn benodol costau ynni cynyddol, bod trigolion Sir Gaerfyrddin yn pryderu am sut y gallant wresogi eu cartrefi yn ystod y gaeaf hwn. Mae'r Cyngor yn gwahodd y rhai sy'n dymuno treulio'r diwrnod mewn amgylchedd cynnes, cyfeillgar a chroesawgar i wneud hynny yn un o'r tair prif lyfrgell, sef Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli, lle bydd pobl yn gallu mwynhau lluniaeth, teledu, cyfrifiaduron a phapurau newydd a lle bydd staff wrth law i roi cyngor am gostau byw a sut i fanteisio ar gymorth posibl.
Yn ogystal, gall cymunedau lleol wneud cais am gyllid i ddarparu Mannau Croeso Cynnes yn eu mannau cyfarfod a neuaddau cymunedol. Gall prosiectau newydd neu brosiectau presennol wneud cais. Mae'r cynllun Mannau Croeso Cynnes yn cael ei gyllido drwy Gronfa Tlodi'r Cyngor. Gellir gwneud ceisiadau tan 18 Tachwedd a rhaid defnyddio'r cyllid erbyn Mawrth 2023.
Yr uchafswm cyllid yw £10,000 a'r isafswm cyllid yw £1,000 a gellir ei ddefnyddio at nifer o ddibenion, gan gynnwys datblygu Caffis Cymunedol lle gall trigolion o bob oed gwrdd a chymdeithasu a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol; prosiectau tyfu, clybiau tanwydd ac ati.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Kevin Madge.
Mae'n ddrwg gennyf ddweud nad yw'r ateb rwyf wedi'i gael yn dderbyniol. Yn y cyfarfod fis Medi diwethaf, dywedodd yr Aelod Cabinet fod 20 o gleientiaid felly hoffwn iddo gael ei gofnodi yn y cofnodion bod angen ateb y cwestiynau hynny. Mae ar gyfer Dyffryn Aman i gyd, nid dim ond fi a fy ward.
A ydym yn dweud nad yw'r Ganolfan Ddydd yn bodoli bellach? Y cwestiwn yw a yw llyfrgell yn bwysicach nawr i gynhesu pobl oedrannus yn Nyffryn Aman yn hytrach na Chanolfan Ddydd? A yw hynny bellach yn bwysicach, llyfrgell? Felly mae pobl oedrannus yn y Garnant bellach yn gorfod mynd i lawr i Rydaman i gynhesu yn y llyfrgell cyn eu bod yn gallu mynd i Ganolfan Ddydd? Mae'r ateb hwnnw wedi fy nghythruddo, diolch.
Ymateb gan y Cynghorydd Jane Tremlett – yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol -
Byddaf yn cadw at yr ateb a roddais yn y lle cyntaf, rwyf wedi rhoi'r cyfle i chi wybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi ac yn wir ledled Sir Gaerfyrddin o ran y mannau croeso cynnes a fydd yn rhan hanfodol o helpu pobl drwy'r gaeaf enbyd hwn. Diolch yn fawr.