Agenda item

ADOLYGIAD O UCHAFSWM TABL PRISIAU CERBYDAU HACNAI

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am geisiadau a oedd wedi dod i law i gynyddu'r uchafswm tabl prisiau presennol o ganlyniad i argostau cynyddol i berchenogion tacsis.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr opsiynau canlynol ar gyfer ailstrwythuro'r uchafswm tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai.

 

·       Opsiwn 1 Cynigiwyd gan Gymdeithas Cerbydau Hacnai Sir Gaerfyrddin;

  • Opsiwn 2 Cynigiwyd gan Aelodau'r Tariff masnach;

·       Opsiwn 3 Cynigiwyd gan Aelodau'r fasnach.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu yr ystadegau canlynol a dangosyddion sy'n berthnasol i berchnogion tacsis:-

 

·       Costau tanwydd;

o   Prisiau petrol a diesel cyfartalog y DU - Mawrth 2011

o   Prisiau petrol a diesel cyfartalog y DU - Rhagfyr 2021

o   Prisiau petrol a diesel cyfartalog y DU - Gorffennaf 2022

o   Prisiau petrol a diesel cyfartalog y DU - Hydref 2022

o   Costau presennol petrol a diesel mewn gorsafoedd tanwydd lleol –Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli

·       Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyfraddau Cyflog Byw Cenedlaethol

o   Cyfraddau presennol

o   Cyfraddau cyn Ebrill 2016

·       Tabl Cenedlaethol y DU (gan gynnwys Cymru) - Yn seiliedig ar Daith 2 Filltir ar Dariff 1.

 

Wrth ystyried y wybodaeth a ddarparwyd, dywedwyd bod yr hinsawdd ariannol wedi dirywio ymhellach ers y cynnydd tariff diwethaf yn 2022, a bod costau byw yn cynyddu'n gyflym.

 

Esboniodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod ymgynghoriad wedi bod ar y fasnach tacsis yn Sir Gaerfyrddin ym mis Hydref 2021 ar gais a ddaeth i law am gynyddu'r uchafswm tabl prisiau ar gyfer cerbydau hacnai. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad, daeth 80 o ymatebion i law gan 513 o yrwyr ac roedd 79 o blaid cynnydd.

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021, bu'r Pwyllgor Trwyddedu yn ystyried y cynnig y gynyddu'r uchafswm tabl prisiau ar gyfer cerbydau hacnai.  Wrth ystyried y cais hwn, ystyriodd y Pwyllgor ffactorau amrywiol megis costau tanwydd, costau rhedeg, isafswm cyflog, costau byw, cymariaethau mewn tariffau gydag awdurdodau cyfagos ac awdurdodau eraill yng Nghymru a'r DU, a'r amser ers i'r tariff gael ei gynyddu diwethaf.  Penderfynodd y Pwyllgor hysbysebu'r cynnig newydd yn y wasg leol ar gost o ychydig o dan £3,000 i'r Awdurdod ac y byddai'r tariff yn weithredol pe na fyddai unrhyw gwrthwynebiadau'n dod i law.  Ar 17 Ionawr 2022 daeth y tariff newydd i rym yn Sir Gaerfyrddin gan na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan y cyhoedd.

 

Mewn ymateb i'r cynnydd sydyn mewn costau tanwydd, bu'r Adain Drwyddedu yn gofyn am sylwadau a chynigion gan 500 o yrwyr tacsis yn Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2022.  Cafodd yr Adain Drwyddedu 6 ymateb gydag awgrymiadau mewn perthynas â'r tariffau.

 

Eglurwyd bod yr opsiynau a gynigir i'r Pwyllgor eu hystyried heddiw wedi'u hanfon ymlaen ym mis Medi 2022 fel rhan o ymgynghoriad i'r 500 o yrwyr tacsis yn Sir Gaerfyrddin.  Allan o'r 18 ymateb a ddaeth i law o'r fasnach;

·        13 oedd o blaid Opsiwn 1

·        1 oedd o blaid Opsiwn 2

·        2 oedd o blaid Opsiwn 3

·        Doedd 2 ddim eisiau cynnydd.

 

Roedd cynrychiolydd o Gymdeithas Cerbydau Hacnai Sir Gaerfyrddin yn bresennol yn y cyfarfod a chafodd gyfle i annerch y Pwyllgor i gefnogi ei gynnig a amlinellir yn Opsiwn 1 o'r adroddiad.

 

Roedd aelodau, o ran y wybodaeth a dderbyniwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu a chynigydd, yn ystyried yr uchafswm tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai presennol a'r cynigion ailstrwythuro fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd nad oedd yr opsiynau arfaethedig ar hyn o bryd yn cefnogi cerbydau hacnai annibynnol mewn perthynas â theithiau tacsi hir.

 

Yn unol â'r cynnydd cyffredinol mewn costau, cynigiwyd ailstrwythuro'r uchafswm tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai drwy fabwysiadu'r prisiau tocynnau o fewn Opsiwn 1, yn amodol ar ddiwygio tariff 1 i adlewyrchu dydd Gwener a dydd Sadwrn 6.00am tan 8:00pm.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Yn deillio o bryderon a godwyd o ran effaith cynnydd pellach i dariffau tacsis, i'r cwsmer ac i berchnogion tacsis, cynigiwyd cadw'r uchafswm tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai heb unrhyw newidiadau a pheidio â chynnal ymgynghoriad.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1    ailstrwythuro'r uchafswm tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai yn unol ag Opsiwn 1 yn yr adroddiad, gan ddiwygio tariff 1 i adlewyrchu dydd Gwener a dydd Sadwrn 6.00am tan 8.00pm;

 

6.2    cyhoeddi'r diwygiadau arfaethedig i'r tabl prisiau presennol, fel y nodir yn yr adroddiad, mewn papurau newyddion lleol, gan roi 14 diwrnod i unrhyw berson gyflwyno gwrthwynebiadau, yn unol ag Adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.  Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, caiff y tariffau eu rhoi ar waith.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau