Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn esbonio bod strwythur amgen, ar ffurf sesiynau ymgysylltu ag ysgolion ar-lein, wedi'i gyflwyno i gymryd lle ymweliadau ysgol dros dro yn ystod pandemig Covid-19, a fyddai'n galluogi'r Pwyllgor i barhau â'i swyddogaeth gwerthuso a gwella ysgolion. Yn hyn o beth, roedd y Pwyllgor yn gobeithio y byddai ymweliadau safle yn ailddechrau yn ystod 2023.
Ar hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Bennaeth Ysgol Bryn Teg a oedd yn canolbwyntio ar y ffordd yr oedd Ysgol Bryn Teg wedi cefnogi lles disgyblion, teuluoedd a staff ers Covid-19. Roedd y cyflwyniad yn manylu ar y daith gwella sylweddol a gyflawnwyd yn yr ysgol, er gwaethaf heriau ariannol, i ddod yn hynod effeithiol o ran ei dysgu a'i threfniadaeth, ac roedd wedi croesawu newid er mwyn cyflawni diwylliant o ragoriaeth.
Roedd y pwyntiau allweddol a gafodd sylw yn y cyflwyniad yn cynnwys canfyddiadau arolygiad Estyn a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2022 yn y meysydd canlynol:
Arweinyddiaeth
· Roedd Arweinyddiaeth a Rheolaeth effeithiol yn cael eu dangos ym mhob rhan o'r ysgol, a oedd yn cael eu hwyluso drwy gyfathrebu agored a thryloyw i gefnogi anghenion disgyblion.
· Roedd awyrgylch o garedigrwydd, cynhwysiant ac anogaeth yn cael ei ymgorffori yn yr ysgol ac roedd hynny wedi cyfrannu at y gwelliant sylweddol o ran lles a safonau disgyblion.
· Roedd rolau a chyfrifoldebau clir wedi'u diffinio'n dda ar waith ac yn cael eu llunio yn ôl dull seiliedig ar gryfderau a buddsoddiad priodol yn natblygiad staff.
· Roedd dull blaengar a rhagweithiol o wneud penderfyniadau yn cael ei gefnogi gan Lywodraethwyr yr Ysgol. Roedd cyllid grant wedi'i ddyrannu i wella'r ddarpariaeth anogaeth yn yr ysgol, penodi Ymarferydd Iechyd Meddwl a Swyddog Cynhwysiant Teuluol a phrynu beiciau trydan a bysiau mini trydan i gefnogi a gwella teithiau ysgol.
Gofal, Cymorth ac Arweiniad
· Roedd gan yr ysgol ethos cynhwysol, gyda dull tîm o amgylch y teulu yn seiliedig ar barch gan y naill at y llall ymhlith y staff, disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid.
· Roedd gwerthoedd craidd yr ysgol yn canolbwyntio ar y meysydd lles, annibyniaeth a pharch.
· Roedd rhwydweithiau effeithiol wedi'u sefydlu gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys ysgolion eraill a gwasanaethau cymdeithasol, a oedd wedi arwain at gyflwyno platfform diogelu.
· Roedd darpariaeth gadarn ar waith ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a oedd yn cael ei hwyluso gan Gydlynydd ADY.
· Roedd amrywiaeth o ymyriadau ac asesiadau wedi'u sefydlu yn yr ysgol i ychwanegu gwerth a dangos cynnydd mesuradwy.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
· Roedd cwricwlwm eang a chytbwys wedi'i gyflwyno gydag amrywiaeth o fentrau a grwpiau disgyblion ar draws yr ysgol.
· Roedd buddsoddiad priodol wedi'i wneud o ran datblygiad staff, gyda gwerth ychwanegol drwy hyfforddiant staff a rennir a chydweithio ag asiantaethau ac ysgolion eraill i rannu arferion gorau, hyfforddi a mentora.
Lles ac Agweddau at Ddysgu
· Roedd Swyddog Arweiniol Lles, â chyfrifoldeb am iechyd a lles, wedi bod yn allweddol i gymuned yr ysgol yn ystod pandemig Covid-19.
· Roedd cynllun gwaith o'r enw 'jigsaw' wedi'i roi ar waith, a oedd yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd, gyda'r nod o gynnig dull blaengar a chyfannol i ddiwallu anghenion disgyblion yn yr ysgol.
· Roedd perthnasoedd wedi'u gwella drwy bolisi, ymchwil yn seiliedig ar weithredu a dathlu cyflawniadau, ac roedd hyn wedi'i gryfhau ymhellach gan Lywodraethwyr Ysgol cefnogol.
· Roedd strwythurau cymorth anffurfiol a ffurfiol ar waith i staff, gan gynnwys cyflwyno diwrnodau lles yn ddiweddar.
· Roedd cynrychiolaeth ar fforymau lleol a chenedlaethol yn cynorthwyo'r ysgol i fynd i'r afael ag anghenion cymuned yr ysgol i wella iechyd meddwl plant; roedd y rhain yn cynnwys Fforwm Llesiant yr Awdurdod Lleol a'r Fforwm 'Place2Be'.
Dysgu
· Roedd yr ysgol yn gallu dangos y cynnydd a wnaed gan y rhan fwyaf o ddisgyblion, er gwaethaf mannau cychwyn is na'r cyfartaledd i'r rhan fwyaf o blant.
· Roedd staff a disgyblion yn flaenllaw o ran y rhaglen ddysgu ac yn cymryd rhan lawn yn y broses.
· Roedd amgylchedd dysgu mewnol ac allanol rhagorol ar waith, ac roedd dull arloesol, sy'n canolbwyntio ar atebion, a mecanwaith monitro wedi'u mabwysiadu i sicrhau bod y cwricwlwm yn diwallu anghenion cymuned yr ysgol.
· Roedd gan y staff medrus ac angerddol yn yr ysgol wybodaeth ragorol am eu disgyblion.
· Roedd gan yr ysgol gysylltiadau â rhaglenni a mentrau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys her ysgolion cynradd 'Formula 1', rhaglen ddarllen 'Pie Corbett', cynllun Mathemateg 'White Rose' a rhaglen arweinyddiaeth ragorol 'Heads Up'.
Roedd y prif heriau a phwysau a nodwyd gan yr ysgol yn gysylltiedig â chynnydd mewn plant ag anghenion ychwanegol, yr argyfwng costau byw, cyllidebau llai a'r orddibyniaeth ar gyllid grant. Hefyd, barnwyd bod mynediad at wasanaethau o ansawdd, yn unigol ac ar y cyd, yn anoddach yn dilyn pandemig Covid-19.
Cyfeiriodd aelod at yr anawsterau o ran gallu ysgolion i flaengynllunio o fewn cyd-destun cyllidebau amrywiol oherwydd y ddibyniaeth ar gyllid grant ac awgrymodd y gellid cyflwyno rhagor o ohebiaeth i Lywodraeth Cymru i bwysleisio'r cyfle i symleiddio'r cyllid a ddarperir i alluogi ysgolion i ddiwallu'r anghenion amrywiol ar draws cymunedau.
Cyfeiriwyd at gyflwyno prydau ysgol am ddim yng Nghymru a thynnwyd sylw gan y Pennaeth at bryderon na fyddai rhieni / gwarcheidwaid yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim mwyach, a fyddai’n cael effaith ar lefel y cyllid Grant Datblygu Disgyblion (PDG) fyddai’r ysgol yn ei gael. Rhoddodd swyddog sicrwydd fod y mater hwn wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor a bod sylwadau wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.
Tynnodd aelod sylw at arolwg a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Plant yn ystod 2021 a oedd yn nodi bod mwy o ddisgyblion yn teimlo'n llai hyderus am eu dysgu ac felly canmolwyd Ysgol Bryn Teg ar ddarparu cymorth ymyrraeth gynnar i'w disgyblion. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cyfle i ddysgu ychwanegol ddigwydd yn yr awyr agored er mwyn meithrin gwytnwch a hyder dysgwyr, cyfeiriodd y Pennaeth at gyflwyno ysgol goedwig yn Ysgol Bryn Teg i alluogi disgyblion i elwa ar y manteision iechyd ychwanegol sy'n gysylltiedig â dysgu mewn amgylchedd ymysg natur a bywyd gwyllt.
Cyfeiriwyd hefyd at yr arolwg PASS a gynhaliwyd yn Ysgol Bryn Teg i asesu galluoedd dysgu canfyddedig disgyblion ac er mwyn mapio ymyriadau priodol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant grynodeb o'r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi a gwella lles plant yn gynharach, gan gynnwys rhaglen Area 43 a gwasanaethau cwnsela.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol: